Wythnos Rhywogaethau Ymledol: 15fed – 21ain Mai 2023

Wythnos Rhywogaethau Ymledol: 15fed – 21ain Mai 2023

© Wye Valley AONB

Bydd yn Wythnos Rhywogaethau Ymledol yn fuan! Darganfyddwch sut gallwch chi gymryd rhan a helpu i atal lledaeniad rhywogaethau ymledol.

Beth yw Wythnos Rhywogaethau Ymledol?

Mae’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol yn ddigwyddiad cenedlaethol, blynyddol sy’n cael ei arwain gan Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o rywogaethau ymledol a dathlu gweithredu i atal eu lledaeniad. 

Beth yw rhywogaethau ymledol? 

Mae rhywogaethau ymledol yn rhywogaethau estron sydd wedi'u cyflwyno'n fwriadol neu'n anfwriadol y tu hwnt i'w hamrediad brodorol gan bobl.

Yn bwysig, mae eu lledaeniad yn bygwth bioamrywiaeth frodorol a gall achosi niwed i'r amgylchedd, yr economi, ein hiechyd, a'r ffordd rydyn ni’n byw.

Edrychwch a dysgwch am rai rhywogaethau ymledol cyffredin yma!

Sut maen nhw'n cael eu lledaenu?

Unwaith maen nhw’n bresennol yn yr amgylchedd, gall rhywogaethau ymledol ledaenu'n naturiol neu drwy fodau dynol!

Gall pob un ohonom ni ledaenu rhywogaethau ymledol yn hawdd ac yn ddamweiniol mewn llawer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys yn ein gweithgareddau bob dydd, fel mynd am dro, garddio, neu bysgota.

Dysgwch fwy am sut gallwch chi Stopio Lledaeniad rhywogaethau ymledol ar ein tudalen we ni am fioddiogelwch!

Demonstration of how seeds can be easily transported by humans e.g. on footwear

© WaREN - NWWT

Pam maen nhw'n broblem?

Mae rhywogaethau ymledol wedi’u nodi fel un o’r pum prif sbardun i golli bioamrywiaeth yn fyd-eang!

The Intergovenmental Science-Policy Platform on Biodiversity and Ecosystem Services (IPBES) top 5 ecological stressors

Gallant gael llawer o effeithiau negyddol ar ein hamgylchedd. Er enghraifft, gallant gystadlu am adnoddau, fel golau a dŵr, ysglyfaethu ar rywogaethau brodorol, cario clefydau newydd, a chroesi gyda rhywogaethau brodorol.

Maen nhw hefyd yn cael effaith economaidd fawr. Ers 1976, amcangyfrifir bod rhywogaethau ymledol wedi costio rhwng £5.4 a £13.7 biliwn i economi’r DU, tua £122 miliwn y flwyddyn! Ac mae'r costau hyn yn debygol o fod yn cynyddu!

Beth sy'n cael ei wneud i atal hyn?

Cotoneaster

Cotoneaster © Lin Cummins

Mae Prosiect Rheoli Creigafal Gogledd Cymru yn nodi lledaeniad a helaethrwydd creigafal ledled Gogledd Cymru. Beth am ymuno â’r Cynllun Cyfnewid Planhigion a chael Taleb Anrheg Garddio Cenedlaethol gwerth £10 AM DDIM yn gyfnewid am gael gwared ar greigafal o’ch gardd.

Llandderfel Bridge on the River Dee

Mae Prosiect Rheoli Rhywogaethau Ymledol y Ddyfrdwy Uchaf a Chanol y Ddyfrdwy angen eich help chi i reoli ~45km o Afon Dyfrdwy ar gyfer jac y neidiwr, Canclwm Japan, a phidyn-y-gog Americanaidd rhwng Corwen a Newbridge.

Himalayan balsam bashing at Parish Field

© Jess Minett - WaREN 

Mae prosiect Rhwydwaith Ecolegol Gwydn Cymru (WaREN) yn datblygu dull cydweithredol a chynaliadwy o fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol ledled Cymru. Rydym yn cyflawni hyn drwy gefnogi Grwpiau Gweithredu Lleol a grwpiau gwirfoddol sy'n mynd i'r afael â rhywogaethau ymledol.

Darganfyddwch fwy am y prosiectau hyn a'r holl brosiectau eraill rydyn ni'n eu gweithredu yma!

Beth allaf i ei wneud?

Mae llawer o bethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu i fynd i’r afael â’r bygythiadau a achosir gan rywogaethau ymledol:

  1. Dod yn ddinesydd wyddonydd drwy adnabod a rhoi gwybod am weld rhywogaethau ymledol
  2. Helpu i Stopio’r Ymlediad drwy fabwysiadu egwyddorion bioddiogelwch syml
  3. Gwirfoddoli a helpu i reoli rhywogaethau ymledol yn eich cymuned leol               

Sut i gymryd rhan yn yr Wythnos Rhywogaethau Ymledol

  • Ymunwch â ni mewn digwyddiadau ar draws Gogledd Cymru! Am fwy o wybodaeth edrychwch ar ein calendr digwyddiadau.
  • Rhannu gwybodaeth a phrofiadau wrth fynd i'r afael â rhywogaethau ymledol ar gyfryngau cymdeithasol. Dilynwch Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar TwitterFacebook ac Instagram i ddysgu am rywogaethau ymledol. Gallwch hefyd edrych ar @InvasiveSp ar Twitter a chofiwch ddefnyddio #wythnosINNS  #INNSweek wrth greu negeseuon! 
  • Dysgu mwy am rywogaethau ymledol a phrofi eich gwybodaeth gyda'n cwisiau rhywogaethau ymledol!

Ond yn fwy na dim, cael hwyl yn dysgu am rywogaethau ymledolbioddiogelwch a sut gallwch chi helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ni.    

Volunteers

© Zoe Richards - Ramblers Cymru 

Digwyddiadau’r Wythnos Rhywogaethau Ymledol

Mwy o wybodaeth!