Moch daear wedi dod yn ôl!

Moch daear wedi dod yn ôl!

Badger © Andrew Parkinson2020VISION

Be mae daearau newydd, gwelyau gwasgaredig, ôl traed ac arwyddion o dyllu newydd yn olygu – moch daear yn breswyl! Darganfyddwch fwy ar sut wnaeth Enfys Ecolegy adeiladu cartref newydd i’r creaduriaid dirgel hyn ...

Cafodd ein cydweithwyr ni yn Enfys Ecology gyfle i ddychwelyd i safle prosiect o 2014, lle gwnaethant adeiladu daear newydd ar gyfer moch daear. Roedd eu daear bresennol o dan adeilad addysgol newydd arfaethedig yn anffodus. Roeddent yn teimlo’n nerfus am fynd at y ddaear – er bod rhywun yn gallu mynd i drafferth mawr i greu cartref moethus, mae’n amhosib gwarantu y bydd moch daear yn ei ddefnyddio! Ond roeddem mor falch o weld bod y ddaear nid yn unig wedi dod yn gartref i foch daear, ond wedi cael ei hehangu hefyd! Roedd tri thwll newydd, gwely ar wasgar, olion traed ac arwyddion o gloddio diweddar (a thŷ bach wedi’i ddefnyddio’n ddiweddar …) – mae moch daear yn byw yma!

Mae tarfu mor sylweddol â chau daear moch daear yn ddewis olaf bob amser, sy’n cael ei wneud ar ôl ystyried pob opsiwn posib arall a gyda thrwydded briodol yn unig. Rhaid i’r ddaear newydd fod wedi’i lleoli’n ofalus ac yn barod, a rhaid cael tystiolaeth bod moch daear wedi dod o hyd iddi, cyn cau’r hen ddaear. Roedd wir yn bleser gweld y ddaear yn cael ei defnyddio, a theimlo ein bod wedi gwneud byd o wahaniaeth yma.

Artificial badger sett under construction by Enfys Ecology

Artificial badger sett under construction by Enfys Ecology

Mae Enfys Ecology yn is-gwmni i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, gan wneud gwaith masnachol o’r safon uchaf yn gysylltiedig â bywyd gwyllt, i godi arian ar gyfer ein gwaith cadwraeth ni. Mae hyn yn cynnwys popeth o waith arolygu am rywogaethau dan warchodaeth (e.e. ystlumod, madfallod neu bathewod) i arolygon botanegol ar gyfer ceisiadau cynllunio a gweithio gyda datblygwyr i gynnwys bywyd gwyllt a gwelliannau ecolegol yn eu prosiectau.               

Os ydych chi’n ystyried cais cynllunio neu angen gwasanaethau neu gyngor ecolegol fel arall, ystyriwch Enfys Ecology – maen nhw’n dychwelyd eu holl elw i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i gefnogi ein gwaith cadwraeth yng Ngogledd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Enfys