Mochyn daear Ewropeaidd

Badger

©Mark Davison

Badger scratching

©Elliot Neep

Mochyn daear Ewropeaidd

Enw gwyddonol: Meles meles
Y mochyn daear yw’r ysglyfaethwr tir mwyaf yn y DU ac mae’n un o rywogaethau enwocaf Prydain. Mae’n enwog am ei streipiau du a gwyn a’i gorff cryf, ac mae’n defnyddio ei bawennau blaen cryf i gloddio am fwyd ac i berffeithio ei dyllau, o’r enw ‘daear’.

Species information

Ystadegau

Hyd: 75-100 cm
Cynffon: 15 cm
Pwysau: 8-12 kg
Yn byw ar gyfartaledd am: 5-8 mlynedd

Statws cadwraethol

Mae’n cael ei warchod yn y DU o dan Ddeddf Moch Daear, 1992, a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, 1981.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Mae’r mochyn daear a’i streipiau du a gwyn yn rhywogaeth enwog yn y DU. Dyma ein ysglyfaethwr tir mwyaf ac mae’n bwydo ar famaliaid bach, wyau adar, pryfed genwair, ffrwythau a phlanhigion. Mae moch daear yn byw mewn grwpiau teuluol mawr mewn tyllau o dan y ddaear o’r enw ‘daear’. Byddwch yn gwybod os oes moch daear yn byw mewn daear oherwydd mae fel rheol yn dalcus iawn gyda drysau glân wedi’u marcio gyda phentyrrau o wely (gwair a dail) wedi’i ddefnyddio. Hefyd bydd tomen ddrewllyd iawn yn ymyl, sy’n cael ei defnyddio gan y moch daear fel toiled! Mae gan y mochyn daear bawennau blaen cryf ac mae’n eu defnyddio i gloddio am fwyd. Mae’r cenawon yn cael eu geni ym misoedd Ionawr neu Chwefror ond yn treulio’r misoedd cyntaf o dan y ddaear, cyn dod allan yn y gwanwyn pan mae’n gynhesach.

Sut i'w hadnabod

Anifail unigryw, mae’r mochyn daear yn fawr a llwyd, gyda chynffon fer, fflwfflyd, bol a phawennau duon, a wyneb streipiog du a gwyn.

Dosbarthiad

I’w weld ledled Cymru, Lloegr a’r Alban (ac eithrio’r gogledd pellaf) a Gogledd Iwerddon. Absennol o ynysoedd yr Alban, Ynys Manaw, Ynysoedd Sili ac Ynysoedd y Sianel.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae moch daear yn gallu bwyta cannoedd o bryfed genwair bob nos! Hefyd dyma un o’r unig ysglyfaethwyr ar ddraenogod – mae eu croen trwchus a’u hewinedd hir yn eu helpu i fynd heibio’r pigau cas. Os oes prinder bwyd, bydd moch daear yn chwilio am fwyd yn ystod y dydd yn ogystal â’r nos. Os oes moch daear yn eich ardal chi, gallwch eu denu i’ch gardd drwy adael pysgnau allan iddyn nhw – byrbryd blasus i’n ffrindiau streipiog.

Gwyliwch

Russell Savory