Ras adar 2024
Lleoliad:
North Wales Wildlife Trust - Bangor office, Llys Garth, Ffordd Garth, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
Unwaith eto mae Ras Adar Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn ôl! Dewiswch ardal am y diwrnod ac ymunwch â’r teulu, ffrindiau ac adarwyr eraill ar ras i ddarganfod y nifer uchaf o rywogaethau adar ar ein gwarchodfeydd.
Event details
Ynglŷn â'r digwyddiad
Rhaid i’r timoedd fod o leiaf 3 person, ond dim uchafswm, ond fydd rhaid i chi aros hefo’ch gilydd am y holl ras, felly nid ydym yn awgrymu grwpiau mawr.
Fe fydd gennych 24 awr i gofnodi cyn gymaint o rywogaethau adar ac y medrwch.
Fe fydd pob rhywogaeth a gofnodwyd yn helpu gyda hel data, felly hyd yn oed os ydych yn arbenigwr neu yn ddechreuwr mae’r ras yn ffordd gwych i ymuno hefo’r gwaith ymchwil neu cychwyn/ailgychwyn traddodiad hwyliog.
Cofrestrwch ar-lein am becyn gwybodaeth a manylion llawn.
Booking
Gwybodaeth archebu ychwanegol
Er mwyn derbyn pecyn gwybodaeth llawn a sut i gofrestru eich darganfyddiadau ar wefan Cofnod mae cofrestru yn hanfodol. Fe fydd rhaid i chi gofrestru enw eich tîm ac y niferoedd o aelodau. Dim ond un “tocyn” y tîm sydd angen i gofrestru.Yn addas ar gyfer
Teuluoedd, Oedolion, Arbenigwyr, DechreuwyrKnow before you go
Dogs
Mae y rhan fwyaf o’n gwarchodfeydd yn caniatáu cŵn, ond fe fydd rhaid iddynt fod ar dennyn, yn enwedig ble mae adar yn nythu ar y ddaear.
Edrychwch ar y tudalennau gwarchodfeydd perthnasol os gwelwch yn dda, a dilynwch y cyngor os am fynd â’ch ci.
Contact us
Rhif Cyswllt: 07502488374
Cysylltu e-bost: nick.richards@northwaleswildlifetrust.org.uk