Apêl Cemlyn

Terns at NWWT Cemlyn nature reserve

Terns at NWWT Cemlyn nature reserve © Nia Haf Jones

Apêl Cemlyn

Diogelu Dyfodol Gwyllt Cemlyn

Dyfodol ansicr i fôr-wenoliaid Cemlyn

Mae Gwarchodfa Natur ni yng Nghemlyn yn gartref i’r unig boblogaeth o fôr-wenoliaid pigddu yng Nghymru.

Heb warchodaeth 24/7 yn ystod y tymor magu, mae pob cyfle y bydd y boblogaeth yn methu.

Rhaid i ni gael £30,000 er mwyn parhau i ddarparu wardeiniaid yng Nghemlyn.

Gallwch chi warchod dyfodol Cemlyn

Cefnogwch ein apêl heddiw.
£
Type of donation

Mae Cemlyn weithiau’n cael ei galw’n brif drysor Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn. Mae’r esgair unigryw o ro mân sydd yno, sy’n cael ei hailsiapio bob blwyddyn gan y môr a stormydd, yn gysgod i fôr-lyn bas, hallt a sawl ynys fechan. Yn ystod misoedd yr haf, mae’r ynysoedd hyn yn gartref i’r unig boblogaeth o fôr-wenoliaid pigddu yng Nghymru, sy’n dod yma i fagu ochr yn ochr â’u cefndryd, y môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid y Gogledd.      

Mae cyflogi wardeiniaid tymhorol wedi bod yn allweddol i lwyddiant yr y boblogaeth o fôr-wenoliaid – buddsoddiad blynyddol gwerth mwy na £15,000. Roedd hyn yn arfer cael ei gyllido gan fesurau amrywiol, gan gynnwys tanysgrifiad hael iawn gan gefnogwr unigol. Yn anffodus, mae hwn wedi dod i ben yn ddiweddar, ac yn sydyn – a nawr mae môr-wenoliaid Cemlyn yn wynebu dyfodol ansicr iawn.            

Rydym eisiau sicrhau bod dyfodol gwych i fôr-wenoliaid yng Nghemlyn ac nad y tymor presennol hwn o wardeiniaid yw’r un olaf. Heb eich help chi, mae hwn yn fygythiad gwirioneddol.

Rhowch rodd

A wyddoch chi?

Oherwydd pwysigrwydd rhyngwladol y boblogaeth o fôr-wenoliaid, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi bod yn ei monitro yn wyddonol am bron i 40 mlynedd.

Gall gwylanod ac adar ysglyfaethus eraill, neu bobl a chŵn yn cerdded heb eu tywys ar hyd yr esgair, achosi i’r adar adael eu nythod, gan arwain at filoedd o wyau ddim yn deor, cywion yn marw a’r boblogaeth yn methu.

Rhowch rodd