Byddwch yn barod i godi eich llais dros fyd natur!
Fe fydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal cyn mis Ionawr 2025 ac mae'n hollbwysig bod llais byd natur yn cael ei glywed. Mae’r Etholiad Cyffredinol yma’n hynod bwysig i fywyd gwyllt a llefydd gwyllt ledled Cymru a gweddill y DU. Mae’r DU eisoes wedi’i dosbarthu fel un o’r gwledydd sydd wedi dioddef y dirywiad mwyaf mewn byd natur, a’r Llywodraeth newydd fydd yn gyfrifol am wyrdroi hyn.
Gallwch sicrhau bod byd natur yn cael y flaenoriaeth mae'n ei haeddu - os ydych chi’n bleidleisiwr neu'n ymgeisydd, rydych chi wedi dod i'r lle iawn! Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am flaenoriaethau'r Ymddiriedolaethau Natur a sut gallwch chi weithredu gan feddwl am fyd natur, isod.
Ar gyfer pleidleiswyr
Sut mae eich ymgeiswyr yn yr Etholiad yn sgorio ar gyfer byd natur?
Ydych chi wedi cyfarfod â’ch ymgeiswyr lleol yn yr Etholiad, neu wedi clywed ganddyn nhw?
Beth oeddech chi'n ei feddwl am eu cynlluniau i fynd i'r afael â chyflwr byd natur – gan gymryd bod ganddyn nhw gynlluniau? Ydyn nhw'n ymwybodol o'r bygythiadau i'ch gofod agored lleol ac yn barod i'w amddiffyn? Ydych chi’n teimlo eu bod yn deall sut mae byd naturiol iach yn cefnogi economi iach a chymdeithas ffyniannus?
Gadewch sgôr boddhad i'ch ymgeiswyr lleol heddiw...
Hwb Gwybodaeth Lleol
Eich man cychwyn ar gyfer data lleol am ASau, barn y cyhoedd a’r mudiad hinsawdd a natur yn eich etholaeth. Yn cael ei gyflwyno i chi gan ein ffrindiau yn The Climate Coalition.
Ar gyfer ymgeiswyr
Ein blaenoriaethau ni ar gyfer Llywodraeth nesaf y DU
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i gynllun i atal a gwyrdroi'r dirywiad mewn bywyd gwyllt.