Cyhoeddiadau i aelodau
Natur yw cylchgrawn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ac mae’n llawn newyddion am ein bywyd gwyllt lleol ac uchafbwyntiau o Gymru a’r DU.
Byddwch yn derbyn eich copi am ddim bob pedwar mis pan fyddwch yn dod yn aelod.
Cyflwr Natur yng Nghymru
Mae Cyflwr Natur 2016 yn darparu crynodeb o fioamrywiaeth bresennol Cymru. Nod yr astudiaeth yw mesur ein bywyd gwyllt sydd dan fygythiad a hefyd dathlu pam mae bioamrywiaeth Cymru mor arbennig.