Gwarchodfa Natur Chwarel Marford

Marford Quarry Nature Reserve

Marford Quarry Nature Reserve © NWWT Graham Berry

Pyramidal orchid

Pyramidal orchid - Paul Lane

Bee Orchid

Bee Orchid - Dawn Monrose

Marford Quarry Nature Reserve

Marford Quarry Nature Reserve

Green woodpecker

Margaret Holland

A close up of a butterfly, with a dark body, iridescent purple on it's wings, bright orange tips to it's antennae, and lots of little hairs all over it's body. It is sat on a bright green leaf that also has lots of little hairs.

Purple hairstreak © Philip Precey

Gwarchodfa Natur Chwarel Marford

Yn gyforiog o fioamrywiaeth, mae’r hen safle diwydiannol yma’n orlawn o infertebrata erbyn hyn.

Location

Marford
Wrecsam
LL12 8TG

OS Map Reference

SJ 357 563
OS Explorer Map 265
A static map of Gwarchodfa Natur Chwarel Marford

Know before you go

Maint
11 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Mae yna leoedd ar gyfer chwech car ychydig y tu hwnt i'r bont reilffordd. Gellir defnyddio parcio i'r anabl trwy fynedfa'r warchodfa gan ddefnyddio allwedd RADAR.

Anifeiliaid pori

Na

Llwybrau cerdded

Y rhwydwaith o lwybrau ar draws tir anwastad

Mynediad

Mae'r safle'n serth gyda llethrau graeanog mewn mannau. Trwy ddefnyddio allwedd RADAR i gael mynediad i'r parcio i bobl anabl, gallwch ymchwilio’r warchodfa trwy ddilyn llwybr sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Gwanwyn ac yr haf

Am dan y warchodfa

Infertebrata anhygoel    

Gyda mwy na 1,000 o rywogaethau wedi’u cofnodi, mae Chwarel Marffordd yn werddon i fywyd gwyllt – ac yn un o’r llefydd gorau yng Nghymru i infertebrata. Fel mae’r enw’n awgrymu, arferai’r safle gael ei chwarelu am flynyddoedd lawer (gan gyflenwi agregau ar gyfer y gwaith adeiladu ar Dwnnel Merswy). Ond bellach mae natur wedi hawlio’r safle’n ôl, mae pryfed yn ffynnu yn y gymysgedd o gynefinoedd ôl-ddiwydiannol ac mae sawl rhywogaeth brin wedi gwneud eu cartref yma.

Mae’r warchodfa’n hynod bwysig ar gyfer grŵp arbenigol o infertebrata, Hymenoptera colynnog (gwenyn, morgrug a gwenyn meirch), gyda nifer anhygoel o 171 o wahanol rywogaethau wedi’u cofnodi (2018). Mae morgrug yn ffynhonnell hynod bwysig o fwyd i’r gnocell werdd – wrth i chi grwydro ar hyd y rhwydwaith o lwybrau sy’n igam-ogamu ar hyd llawr y chwarel, gwrandewch am ei gri glwciog nodweddiadol. Yn y gwanwyn a’r haf, mae lliwiau llachar y tegeirianau a’r blodau gwyllt eraill yn cyd-fynd yn hardd â dail gwyrdd y warchodfa, ac mae fflachiadau o liw y 35 o rywogaethau o löynnod byw sy’n byw yma’n siŵr o ddal eich llygaid.

Tarfu ar y tir a phren marw    

Mae’r gwaith yma’n canolbwyntio ar gynnal yr amrywiaeth o gynefinoedd sy’n gartref i gasgliad mor eang o flodau gwyllt ac infertebrata. Rydym yn tarfu ar y tir ac yn ei adael ar agor ar gylchdro, er mwyn annog planhigion olyniaeth gynnar ac infertebrata, fel y wenynen durio a rhywogaethau o wenyn meirch, sydd angen y pridd noeth, tywodlyd yma. Mae pren marw’n cael ei adael ar y safle hefyd, i’w ddefnyddio gan infertebrata prin eraill, ond mae’r prysgwydd yn cael ei glirio o rai ardaloedd er mwyn atal y coetir rhag sefydlu yng nghynefinoedd y glaswelltir.

Oeddech chi’n gwybod?

Y wenynen dingoch yw’r gwcw ym myd y pryfed. Mae’n dodwy ei hwyau yn nyth gwenyn unigol a chacwn eraill ac, ar ôl iddynt ddeor, mae’r larfa’n bwyta’r nythaid sydd piau’r nyth.  

Cyfarwyddiadau

2.5 milltir i'r gogledd gogledd-ddwyrain o Wrecsam. Gan teithio tua’r De i mewn i bentref Marford ar y B5445, trowch i'r dde ag ar Springfield Lane. Mae lleoedd ar gyfer chwech car ychydig y tu hwnt i'r bont reilffordd (SJ 365 563). I fynd i mewn i'r warchodfa, cerddwch yn ôl o dan y bont reilffordd a chwiliwch am arwydd llwybr cyhoeddus a mynedfa'r warchodfa.

Contact us

Jordan Hurst
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Support us

Join today!

Young woman birdwatching at Rutland Water
From £3.00 a month

Aelodaeth unigol / Individual

Aelodaeth unigol ar gyfer un person
Couples membership
From £3.50 a month

Cyd-aelodaeth / Joint

Aelodaeth ar y cyd i ddau berson
A small boy carrying a stick, walking through a woodland with large old trees and bluebells carpeting the floor. Behind him is a young girl running up to him, and a woman bending down to look at the flowers.
From £4.00 a month

Aelodaeth deuluol / Family

Aelodaeth deuluol gydag ychwanegiadau i blant