Ar yr adain dros y gaeaf

Ar yr adain dros y gaeaf

December moth © Vaughn Matthews

Mae rhai gwyfynod wedi meistroli misoedd y gaeaf. Tra rydyn ni'n cadw’n gynnes dan do ar noson oer o aeaf, mae'r nomadiaid nosol yma’n hedfan drwy'r awyr rhewllyd.
Dewch i gwrdd â'r gwyfynod sy'n herio'r oerfel!

Dydych chi ddim yn gweld llawer o bryfed yn y gaeaf. Mae'n rhy oer i lawer ohonyn nhw fentro allan a herio'r elfennau. Maen nhw'n swatio’n glyd, gan fynd i gyflwr tebyg i aeafgysgu o'r enw diapos neu gysgadrwydd nes bod y gwanwyn yn cyrraedd. Ond mae rhai gwyfynod wedi meistroli misoedd y gaeaf. Tra rydyn ni'n cadw’n gynnes dan do ar noson oer o aeaf, mae'r nomadiaid nosol yma’n hedfan drwy'r awyr rhewllyd. Beth am i ni gwrdd â rhai o wyfynod y gaeaf!


Mae'r cliw yn yr enw

Pe bai'n rhaid i chi ddyfalu'r amser gorau o'r flwyddyn i weld brychan y gaeaf, mae'n debyg y byddech chi'n cael yr ateb yn gywir. O gymharu â rhai o'r gwyfynod sydd â theitlau anhygoel fel y teigr ôl-adain goch neu'r dewin, dydi hwn ddim yn enw dychmygus iawn. Ond mae'n creu awyrgylch. Mae'n dwyn i gof dywydd oer, nosweithiau tywyll a stormus a gwydnwch pryfyn bach sy’n gallu eu herio. Yn bwysicach na dim, mae'n ddisgrifiad manwl gywir – mae brychan y gaeaf yn hedfan yn ystod y gaeaf.

Mae posib gweld brychan y gaeaf yn ei lawn dwf yn hedfan o fis Hydref hyd at fis Ionawr – neu’r gwrywod o leiaf. Mae gan y benywod adenydd byrdew a dydyn nhw ddim yn gallu hedfan o gwbl. Maen nhw’n dringo i fyny boncyffion coed, gan ryddhau fferomonau i ddenu’r gwrywod wrth iddyn nhw hedfan o amgylch yr ardal. Mae’r gwrywod yn cael eu denu at oleuadau hefyd. Os ydych chi wedi gweld gwyfynod yng ngolau blaen eich car y gaeaf yma, mae siawns dda eich bod chi wedi gweld brychan y gaeaf.

A grayish-brown winter moth resting on a wooden surface, with its wings spread flat showing subtle patterns and textures

Winter moth (Operophtera brumata) © Vaughn Matthews

A dark brown December moth resting on a yellow autumn leaf with reddish edges. The moth has a furry body and patterned wings with pale markings

December moth (Poecilocampa populi) © Vaughn Matthews

Os ydych chi'n mynd am dro yn y gaeaf, mae'n debyg y byddwch chi eisiau côt gynnes braf amdanoch. Dyma hefyd strategaeth oroesi gwyfyn Rhagfyr – cystadleuydd am y gwyfyn mwyaf blewog yn y DU. Mae'n bryf hardd, gydag adenydd siarcol a marciau gwyn hufennog – fel y llaeth wedi’i chwistrellu ar ben cappuccino neu'r pen ar beint o Guinness!

Mae’r enw gwyfyn Rhagfyr ychydig yn fwy camarweiniol, oherwydd mae posib gweld yr oedolion mor gynnar â mis Hydref ac, fel rheol, maen nhw wedi mynd erbyn diwedd mis Rhagfyr neu ddechrau mis Ionawr. Mae posib dod o hyd iddyn nhw o amgylch coetiroedd, gwrychoedd a gerddi gwylltach. Mae eu lindys yn bwydo ar ddail amrywiaeth o goed llydanddail.

Codwr cynnar

Y rhisglyn brith gwelw yw un o'r gwyfynod cyntaf i ymddangos bob blwyddyn. Mae’n treulio dechrau'r gaeaf o dan y ddaear, fel chwiler mewn cocŵn gwarchodol. Yn nes ymlaen yn ystod y tymor, mae'r oedolion yn dod i’r golwg. Fel rheol, mae posib eu gweld nhw o fis Ionawr i fis Mawrth, er eu bod nhw weithiau'n cael eu cofnodi ym mis Rhagfyr. Fel gyda brychan y gaeaf, dydi benywod y rhisglyn brith gwelw ddim yn gallu hedfan, gan ddefnyddio fferomonau i ddenu partner. Mae gwrywod y rhisglyn brith gwelw’n gallu amrywio o fod yn llwydwyrdd i ddu.

A male pale brindled beauty moth, beautifully mottled with brownish yellows and greens, resting on a leaf

Pale brindled beauty © Iain H Leach

Sêr awyr y nos

Mae'r gaeaf yn amser gwych ar gyfer syllu ar y sêr. Mae’r nosweithiau tywyll hir yn berffaith ar gyfer sbïo ar gytserau, planedau ac ambell loeren hyd yn oed. Ond fe allwch chi hefyd ddod o hyd i loeren yn llawer agosach at adref. Mae'r un yma tua 2cm o hyd, mae ganddi bedair o adenydd ac mae’n hoff o aeron sy’n eplesu.

Mae'r gwyfyn lloeren wedi cael ei enwi ar ôl y marciau ar ei adenydd. Mae gan bob adain flaen sy’n lliw brown cyfoethog farc siâp aren gwelw, gyda smotyn llawer llai ar y naill ochr a'r llall iddo. Fel dwy loeren fechan yn cylchdroi o amgylch y marc aren. Nid dim ond yn y gaeaf mae’r gwyfynod lloeren yn dod i’r golwg – mae posib eu gweld nhw’n hedfan ar nosweithiau mwyn o fis Medi hyd at fis Ebrill. Maen nhw’n cael eu denu at oleuadau, ond yn fwy fyth at siwgr. Maen nhw’n hoffi bwydo ar flodau’r eiddew ac aeron sy'n eplesu.

A satellite moth, brown with a pale dot on each wing, orbited by two smaller pale dots, resting on an oak leaf

Satellite © Iain H Leach

Dyma rai o'r gwyfynod y gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw yn ystod misoedd y gaeaf, gyda mwy a mwy yn deffro wrth i'r gwanwyn agosáu. Mae tua 2,500 o rywogaethau o wyfynod yn y DU, felly mae gwyfyn newydd i'w ddarganfod bob amser!