Ein heffaith

Harvest_mouse

Harvest mouse © Amy Lewis

Ein blwyddyn wyllt

Rydyn ni eisiau gweld Gogledd Cymru sydd â mwy o gyfoeth o fywyd gwyllt sy’n cael ei werthfawrogi gan bawb: nod enfawr mewn byd lle mae bywyd gwyllt yn cael ei wthio i’r cyrion. 

Ond eto – rydyn ni, yn staff, gwirfoddolwyr, aelodau a phartneriaid – yn cymryd camau bob un dydd i wella llefydd ar gyfer bywyd gwyllt ac i gryfhau’r berthynas rhwng pobl Gogledd Cymru a’r amgylchedd lleol. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud byd o wahaniaeth. Eleni, rydyn ni wedi crynhoi ein gwaith mewn ‘adroddiad effaith’: cipolwg ar 55 mlynedd y mudiad lleol yn dathlu ei gyflawniadau. Mae rhai o’r prif ffigurau i’w gweld ar y dudalen yma o’r cylchgrawn, ond cofiwch ystyried darllen y ddogfen yn llawn. Gobeithio y bydd yn eich ysbrydoli chi i barhau i’n helpu ni i weithio dros y dyfodol gwylltach mae ein plant, a’n bywyd gwyllt, yn haeddu ei etifeddu.

Impact report 2023-2024_Our wild year in numbers_Cymraeg
Impact Report 2024-2025 Cymraeg Cover image

Rhagair gan Frances Cattanach, Prif Swyddog Gweithredol a Howard Davies, Cadeirydd

Wrth edrych yn ôl dros flwyddyn o eithafion tywydd, mae ein byd natur a’n bioamrywiaeth ni dan fygythiad digynsail yn amlwg. Tarodd stormydd Bert a Darragh Gymru ar ddiwedd 2024, gan ddod â llifogydd a gwyntoedd cryfion iawn; cawsom wanwyn anarferol o sych ac roedd yr haf canlynol y poethaf i gael ei gofnodi yn y DU.

parhad ...

Mae effeithiau eithafion tywydd ar fyd natur yn niferus. Pan fydd coeden dderwen aeddfed yn cwympo mewn gwyntoedd cryfion, mae’n tarfu ar fywydau cannoedd o rywogaethau dibynnol. Mae sychder yn y gwanwyn a’r haf yn cyfyngu ar argaeledd blodau i bryfed peillio; mae tanau gwyllt yn dod yn fwy cyffredin gydag effeithiau dinistriol, mae’r cydamseru ym mherthynas ysglyfaethwr-ysglyfaeth yn cael ei golli, mae argaeledd bwyd yn gyfyngedig ac mae gwlybdiroedd hanfodol yn sychu.

Pan fydd yr amodau hyn yn cael eu gosod yn erbyn cefndir o bwysau cynyddol ar fyd natur oherwydd llygredd, trefoli, datblygu a chynhyrchu bwyd, mae’n bwysicach nag erioed bod Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cyflawni ein Strategaeth 2030: Dod â Natur yn Ôl.

Gan weithio gyda’n gwirfoddolwyr gwych, rydym yn gwarchod ac yn gwella gwydnwch yn ein gwarchodfeydd natur, yn monitro cynefinoedd sensitif i roi rhybuddion o newid ac yn rhoi cyngor sy’n seiliedig ar natur i berchnogion tir, rheolwyr a datblygwyr. Rydym hefyd yn cyfrannu at Fenter Cydlynu Natur Gogledd Cymru a thrafodaethau polisi gyda Llywodraeth Cymru, ac mae ein heffaith yn cael ei theimlo’n lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Mae pobl yn parhau i fod wrth galon popeth rydym yn ei wneud. Mae gennym bron i 10,000 o aelodau; rydym yn hyfforddi ein pobl ifanc i fod yn arweinwyr y dyfodol mewn cadwraeth; rydym yn cael ein cefnogi gan ystod eang o gyllidwyr a phartneriaid; ac mae rhoddion mewn Ewyllysiau yn cynrychioli ffynhonnell incwm hanfodol rydym yn ei throi’n weithredu uniongyrchol dros fywyd gwyllt.

Diolch i chi am ein cefnogi.