Bangor Gwylltach

Bluebells

©Paul Lane

Bangor Gwylltach

Darganfyddwch sut rydym yn pontio gyda cymunedau lleol

Mae’r prosiect Bangor Gwylltach yn adeiladu’n uniongyrchol ar waith ymgynghori lleol ac yn ymateb i beth maw cymunedau ym Mangor wedi dweud wrthym maent ei angen o leoliadau natur leol i gysylltu yn well gyda natur.

Mae’r prosiect ar hyn o bryd yn gweithio gyda chymunedau o gefndiroedd ethnig a’r gymuned LHDTC+ ym Mangor. Ein nod ydi i godi ymwybyddiaeth o’n lleoliadau awyr agored lleol, cefnogi pobl i deimlo’n fwy hyderus eu defnyddio, ac i greu cyfleoedd ystyrlon ar gyfer pobl o gefndiroedd gwahanol i gysylltu gyda natur ac efo’r gilydd. Gyda hyn, mae’r prosiect yn cefnogi dysgu anffurfiol ac adeiladu hyder yn Gymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio natur fel pwynt dechrau croesawgar wedi ei rannu.

Beth rydym yn ei neud

Trwy’r prosiect chwe mis hwn, mi fyddwn yn cynnig rhaglen o weithgareddau cynhwysol ac sydd wedi cael eu cyd-gynllunio, gan gynnwys:

  • Sesiynau crwydro-a-chlebran, yn cyflwyno bywyd gwyllt lleol a lleoliadau natur ym Mangor
  • Sgyrsiau thematig (ar-lein ac mewn person) wedi eu cynnal gyda grwpiau cymunedol, yn ffocysu ar bynciau o ddiddordeb i gymunedau
  • Ffair Natur, i ddathlu cysylltiadau, creadigrwydd a chymuned trwy weithdai wedi eu cyd-gynllunio, gyda chefnogaeth gan Fran Wen

Cwrdd â thîm Bangor Gwylltach!

Dr Tomos Jones - Rheolwr Prosiect

Astudiodd Tomos ym Mhrifysgol Bangor ac mae wedi byw yn y ddinas am y pum mlynedd diwethaf gyda brwdfrydedd cynyddol dros ei harddwch a'i lleoliadau natur. Mae Tomos yn mwynhau rhoi cyfle i bobl archwilio natur ar eu stepen drws, boed hynny'n dod o hyd i blanhigyn newydd neu'n dysgu sut i adnabod bywyd gwyllt cyffredin. Yn ei amser hamdden, mae'n arddwr a rhedwr brwd.

Lewis Bainbridge - Swyddog Prosiect

Astudiodd Lewis Seicoleg yn y brifysgol, gyda ffocws ar y berthynas rhwng pobl, lles a natur. Mae ei angerdd yn canolbwyntio ar helpu pobl i feithrin cysylltiadau ystyrlon â'r byd naturiol ac ar ymgysylltu'n wirioneddol â chymunedau, gwrando, cydweithio a llunio gwaith ochr yn ochr â phobl fel bod natur yn teimlo'n hygyrch, yn berthnasol ac yn groesawgar i bawb.

LB looking over Hirael Square

The printable community map

 

A clear, easy-to-use guide to local green spaces and routes. It’s designed to be a resource easily shared with community groups, organisations, or anyone new to the area.

 

Click here to download! 

The interactive online map

 

This map lets you explore in more detail, helping you check route accessibility and discover interesting facts about local wildlife, habitats, and natural features. Be sure to click the Point of Interests!

 

Click here!

Bangor Nature Trail Virtual Tour

Check out our virtual nature tour below to see if our path is accessible for you. The route follows the same path as our Bangor Nature Map above, with interesting facts and points of interest for you to explore!

English EasyRead Here

Yn dod yn fuan! – Podlediadau

Bydd podlediad yn lle ar gyfer sgyrsiau agored, dychmygus gyda phobl sy'n gofalu'n fawr am eu cymunedau. Wedi'i ysbrydoli gan hunaniaeth arfordirol Bangor, mae'r podlediad yn adlewyrchu'r ffordd y mae straeon a phrofiadau'n teithio, yn cysylltu, ac yn dod o hyd i dir newydd. Trwy sgyrsiau hamddenol ac awgrymiadau ysgafn, bydd y podlediad yn archwilio syniadau arweinyddiaeth, perthyn, a gofalu am leoedd a phobl, heb ddibynnu ar gyfweliadau ffurfiol nag iaith dechnegol.

Diolch yn fawr i Brifysgol Bangor am ein cynnal a darparu mynediad i'w stiwdio podlediad, gan ei gwneud hi'n bosibl recordio'r sgyrsiau hyn mewn amgylchedd croesawgar a phroffesiynol.

Gyda chymorth gan:

Partner Logo

Cyllidwyd gan:

NL Community Fund Logo