Dechrau gwyllt - atgofion cynnar o natur

Dechrau gwyllt - atgofion cynnar o natur

Wrth i ni baratoi ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt eleni, fe wnaethon ni ofyn i rai o staff yr Ymddiriedolaethau Natur rannu eu hatgofion cynharaf o fyd natur.

Mae bron yn amser am 30 Diwrnod Gwyllt, her natur flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur. Allwch chi ymuno â miloedd o bobl sy’n gwneud un peth gwyllt y dydd ym mis Mehefin?

Yr eiliadau bach hynny sy’n bwysig fel rhan o 30 Diwrnod Gwyllt. Arogl hyfryd blodau gwyllt wrth i chi grwydro drwy'r parc, golau’r haul ar eich wyneb wrth i chi eistedd mewn gardd, neu sŵn melys cân yr adar ar yr awel o goeden ar y stryd. Mae'n ein hatgoffa ni, lle bynnag rydyn ni, bod natur ar gael, hyd yn oed os mai dim ond sbecian drwy graciau yn y palmant y mae.

Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn ein hannog ni i wneud ychydig o amser i gysylltu â'r byd natur o'n cwmpas ni, i greu atgofion gwyllt newydd. Felly, i ddathlu'r cysylltiadau gwyllt yma, fe wnaethon ni ofyn i rai o staff yr Ymddiriedolaethau Natur rannu eu hatgofion cynharaf o fod ym myd natur.

Reece Halstead, Cydlynydd Llythrennedd Cefnfor dros Wales yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

A minnau’n dod o deulu ffermio ger Llanberis, treuliais lawer o fy mhlentyndod yn rhedeg drwy gaeau ac yn gwrando ar gân adar y goedwig. Hynny ydy, cyn i mi fynd ar drip gyda’r teulu i'r arfordir a gweld Môr Iwerddon yn ei holl ogoniant. Rwy'n cofio edrych mewn rhyfeddod ar draws y dŵr a meddwl tybed pa fywyd gwyllt cyffrous allai fod yn byw o dan y tonnau. Roedd clywed adar hirgoes yn sgrechian yn swnio'n gyfarwydd ond hefyd mor wahanol i synau’r adar roeddwn i wedi arfer eu clywed. Rwy'n credu mai dyna pryd y syrthiais mewn cariad â'r môr.

Bottlenose dolphin

Bottlenose dolphin © John MacPherson/2020VISION

Debbie Mckenzie, rheolwr cymunedau ac addysg ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Swydd Bedford, Swydd Caergrawnt a Swydd Northampton

Fy atgof cynharaf i o fyd natur ydi bwydo hwyaden wyllt fenywaidd yn y nant gyferbyn â'n cartref ni. Fe fyddwn i wedi bod rhwng dwy a thair oed, ond rydw i'n cofio plu hardd yr aderyn yn fyw iawn. Roedd hi'n noson hyfryd a heulog o wanwyn ac rydw i'n cofio bod eisiau mynd ychydig yn nes, fymryn ymhellach i lawr y stepiau. Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, fe gefais i weithio i’r Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlybdiroedd yng Nghanolfan Gwlybdiroedd Welney, lle roedd rhan o'r rôl yn cynnwys bwydo elyrch gwyllt (a hwyaid)!

Mallard

©Bertie Gregory/2020VISION

Jennie Denton, cydlynydd dysgu gwyllt (arweinydd ieuenctid), Ymddiriedolaeth Natur Swydd Caerloyw

Roedd fy nhad i’n arddwr brwd pan oeddwn i'n fach, ond doedd o ddim yn hoff o lindys yn bwyta ei frocoli a'i fresych. Felly fel plentyn, fe wnes i dreulio llawer o amser yn 'achub' lindys o'i blanhigion. I mi, dim ond creaduriaid bach ciwt oedden nhw a oedd yn goglais fy llaw i wrth iddyn nhw gerdded ar ei thraws! Roeddwn i’n casglu jariau jam, yn creu tyllau yn y caeadau gyda morthwyl a hoelen (a help fy nhad!), yn rhoi dail yn y jariau ac yn ailgartrefu'r lindys wedi’u hachub. Wedyn fe fyddwn i'n gofalu amdanyn nhw ac yn eu gwylio'n chwileru ac, yn y pen draw, yn deor yn löynnod byw. Roeddwn i’n mynd â’r glöynnod byw i'r ysgol ac yn eu rhyddhau nhw. Yn y pen draw, helpodd fy athro fi i gael hen danc pysgod ar gyfer ein hystafell ddosbarth, yn lle jariau jam bach, ac roedd y tanc yn gweithio fel cynefin dros dro i’r lindys nes eu bod nhw'n barod i gael eu rhyddhau fel glöynnod byw!

The caterpillar of a large white butterfly feeding on a flower. It is a green and black, speckled caterpillar with lots of short, bristly hairs

Large white caterpillar © Vaughn Matthews

Tom Hibbert, swyddog cynnwys ar gyfer yr Ymddiriedolaethau Natur

Roeddwn i bob amser yn mwynhau bod yn yr awyr agored. Roeddwn i wrth fy modd hefo anifeiliaid ac yn gwerthfawrogi llefydd gwyllt, ond dim ond yn fy arddegau hwyr wnes i wir ddechrau cysylltu â'r bywyd gwyllt o fy nghwmpas i. Rydw i'n cofio'r tro cyntaf i mi fynd ati i chwilio'n iawn am aderyn. Fe es i ar fws i warchodfa natur fechan gan Ymddiriedolaeth Natur, dim ond ychydig o byllau mewn coetir, i chwilio am las y dorlan. Fe wnaeth y fflach o las uwchben y dŵr fy nghyfareddu i. Roeddwn i'n teimlo fel pe bawn i wedi ennill y loteri wrth i'r aderyn hardd wibio heibio a chlwydo ar goeden gerllaw. Rydw i'n dal i deimlo'r un wefr bob tro rydw i’n gweld glas y dorlan.

A kingfisher perched on a branch in front of a green background. It's a compact bird with a strong beak, blue back and orange belly

Kingfisher © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Craig Whitelock, arweinydd ysgolion gwyllt a’r tîm ieuenctid, Ymddiriedolaeth Natur Swydd Hamp ac Ynys Wyth

Rydw i'n cofio archwilio gardd fy rhieni pan oeddwn i’n blentyn gyda fy nheganau, yn cloddio ac yn teimlo'r pridd wrth i mi wneud pyllau yn y gwelyau blodau ar gyfer fy nghrocodeil. Roeddwn i’n gwylio’r pryfed genwair oedd yn dod allan o'r pridd yn gwingo, ac yn hoffi gwylio’r tarianbryfed ar y gwyddfid wrth i mi dynnu'r dail i greu diod hudol arbennig. Roeddwn i wrth fy modd hefo'r teimlad o fod y tu allan gyda'r gwynt yn chwythu ar fy wyneb a gwres yr haul ar fy nghefn; y tu allan oedd fy ystafell chwarae i. Bob hyn a hyn, fe fyddai sŵn y titw tomos las yn uchel yn y goeden fedwen yn tynnu fy sylw i. Mae'r atgofion yma’n mynd i aros hefo fi am byth. Roeddwn i'n teimlo mai hwn oedd fy lle diogel i, roeddwn i’n gallu bod yn pwy oeddwn i eisiau bod a chael y rhyddid i archwilio!

A green shieldbug standing on a leaf

Green shieldbug © Tom Hibbert

Emily Lake, swyddog cyfathrebu a marchnata, Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaer

Fy atgof gwyllt cyntaf i ydi dringo i'r planhigion pot mawr yn ein gardd ni a bwyta'r pridd pan oeddwn i'n blentyn bach (peidiwch â rhoi cynnig ar hynny gartref!). Fe gefais i fy magu yn Awstralia, felly roedd y planhigion pot yn arfer mynd yn hyfryd ac yn gynnes yn yr haul. Fe fyddwn i'n dringo i mewn ac yn cyrlio i fyny ac yn bwyta'r pridd – efallai fy mod i'n meddwl mai siocled oedd o? Ond rydw i'n cofio teimlo mor ddiogel a chyfforddus. Fel bod mam natur yn grud i mi yn llythrennol.

Mae pob dydd yn gyfle i greu atgofion newydd ym myd natur. Cofrestrwch ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt i dderbyn pecyn am ddim a llawer o syniadau ac ysbrydoliaeth i wneud eich mis Mehefin yn llawer gwylltach. A chofiwch rannu eich atgofion gwyllt gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #30DiwrnodGwyllt – eich atgofion cyntaf o fyd natur, neu eich rhai diweddaraf!

Cofrestrwch ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt