Am beth ydych chi’n meddwl wrth glywed y gair pryf? Pryf glas mawr yn suo’n swnllyd rownd eich tŷ chi ar ddiwrnod poeth efallai, yn clecian yn ddi-baid yn erbyn y ffenest dim ots pa mor llydan ydych chi'n ei hagor hi. Neu bryf hofran efallai’n torheulo ar ddeilen, neu bryf teiliwr yn llusgo’i goesau hirion wrth iddo wibio dros y lawnt.
Mae mwy na 7,000 o rywogaethau o bryfed yn y DU, o'r pryfed tŷ cyfarwydd i bryf gwyddau bach sydd ond i’w ganfod yn Ucheldiroedd yr Alban. Fe allwch chi eu gweld nhw mewn gerddi a choetiroedd, ar ddolydd ac yn unrhyw le arall bron lle rydych chi'n edrych. Maen nhw’n eithriadol amrywiol, gyda phatrymau hardd yn aml ac yn ymgymryd ag amrywiaeth eang o swyddogaethau eithriadol bwysig. Maen nhw’n ailgylchwyr, yn clirio cefn gwlad o blanhigion sy'n pydru, anifeiliaid a thail; maen nhw’n ysglyfaethwyr, yn helpu i gadw cydbwysedd mewn poblogaethau o bryfed eraill; ac maen nhw’n beillwyr, yn helpu i ffrwythloni blodau. Mae pryfed yn anhygoel!
Beth am i ni edrych yn fanylach ar bump o bryfed bendigedig…