Cyfarfod y tylluanod
Rydyn ni’n edrych ymlaen unwaith eto i roi cipolwg arbennig i chi ar fyd cyfrinachol ein tylluanod gwynion, Nos (gwryw) a Seren (benyw), sydd wedi dychwelyd i’w nyth yn un o’n gwarchodfeydd natur eleni. Cafodd y pâr eu henwi gan aelodau o'n cymuned, yn ôl yn 2022, pan ddechreuon ni ddangos lluniau byw am y tro cyntaf o'n camera blwch nythu.
Byddwn yn dod â diweddariadau rheolaidd i chi trwy gydol y tymor.
Cyngor ar edrych arnyn nhw: Os ydych chi'n hofran eich cyrchwr dros y gwe gamera mae gennych opsiynau i gymryd ciplun, chwyddo i mewn neu lenwi eich sgrin
Mae’r rhain yn lluniau byw, heb eu golygu o dylluanod gwynion. Ar adegau penodol, mae'n bosibl y bydd delweddau annymunol o'r byd naturiol. Adar gwyllt yw'r rhain; mae'r tylluanod gwynion sy'n bridio a'u nyth yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Caiff yr adar eu monitro o dan drwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Llinell Amser y tylluanod gwyn 2025
Bydd ein gwe-gamera yn ein galluogi i ddilyn antur ryfeddol Nos a Seren dros fisoedd y gwanwyn a’r haf, a gobeithiwn na fydd yn rhy hir cyn i ni gael cipolwg ar dylluanod bach newydd.
Mai 2025
Mai 20fed : Ymddengys yn awr fod tair neu bedair o dylluanod. Mae Seren (y fenyw) yn symud o gwmpas yn achlysurol i roi cipolwg ar y cywion bach. Mae hi hefyd yn eu bwydo'n rheolaidd. Gellir gweld eitemau bwyd, a ddygwyd i mewn gan Nos (y gwryw), yn y gornel dde ar y gwaelod.
Mai 18fed: Babanod tylluanod! Mae o leiaf un wy wedi deor! Mae'r darnau o wy sydd wedi torri i'w gweld o amgylch y nyth.
Mai 12fed: Mae tylluanod gwyn fel arfer yn deor eu hwyau am tua 32 diwrnod. Mae hyn yn golygu y gallwn ddisgwyl i'r wy cyntaf ddeor unrhyw ddiwrnod nawr. Ac mae'n edrych fel petai plisgyn wy wedi torri i'r dde o'r fenyw.
Ebrill 2025
30ain Ebrill: Yn rhyfeddol, mae chwech o wyau bellach. Mae hwn yn eisteddiad mawr, ond yn dal yn gyffredin. Mae eisteddiad o'r maint yma'n digwydd yn aml pan fydd llawer o ysglyfaeth - ac felly fe allwn ni dybio, gan fod yr aderyn gwrywaidd yn diflannu bob nos, ei fod yn dod o hyd i ddigon o fwyd yn y cefn gwlad o'i gwmpas a'r dirwedd amrywiol mae ein gwarchodfa natur gyfagos ni'n ei darparu. Mae tylluan wen wrywaidd yn llawer goleuach na'r fenyw yn aml gyda llai o farciau brith - mae hyn i'w weld orau ar y camera ystafell lliw; yn y bocs fe allwch chi gymharu maint yr adar - y fenyw yw'r fwyafr.
Ebrill 16eg: Ac yn awr mae gennym bedwar wy.
11eg Ebrill: Ail wy yn cyrraedd!
9 Ebrill: Mae gennym ni un wy nawr!

Nos and Sere, new parents!
01 Ebrill: Bellach mae gennym gamera newydd y tu allan i'r blwch nythu ond o fewn yr adeilad. Mae'n darparu rhai delweddau hyfryd o'r tylluanod clwydo wrth iddynt llyfnhau eu plu a glanhau eu hunain. Yn y cyfamser y tu mewn i'r bocs rydym yn aros am yr arwydd cyntaf o wyau.
Mawrth 2025
Drwy gydol misoedd y gaeaf a thrwy weithio dan drwydded rhywogaethau a warchodir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gwnaethom uwchraddio ein camerâu; cwblhawyd y gwaith allanol terfynol ym mis Mawrth, ac aeth ein camerâu yn fyw. Mae Nos a Seren yn ymddangos yn gartrefol iawn.
Mae'n bosib mai’r dylluan wen, hardd yw ein tylluan fwyaf poblogaidd. Mae’n hawdd ei hadnabod gyda'i wyneb siâp calon unigryw, ei phlu gwyn pur, a'i thaith hedfan dawel. Cadwch lygad arni wrth iddi hedfan yn isel dros gaeau a gwrychoedd pan fydd hi’n gwawrio a nosi.

Barn Owls © Russell Savory
Wrth eich bodd yn gwylio ein tylluanod?

Ariannwyd yr offer sy’n cael eu ddefnyddio wrth ffrydio’n fyw y delweddau yma gan Gynllun Gymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gweinyddu gan CGGC