Morfeydd Heli yng Ngogledd Cymru

Saltmarsh View / Golygfa o Morfa Heli ger Gwaith Powdwr

Saltmarsh View / Golygfa o Morfa Heli ger Gwaith Powdwr © Reece Halstead

Cadwraeth Forol

Morfeydd Heli yng Ngogledd Cymru

Pa waith rydyn ni'n ei wneud i warchod ein morfeydd heli?

Yng Ngogledd Cymru mae gennym lawer o forfeydd heli anhygoel. Mae morfeydd heli i'w cael mewn ardaloedd penodol sydd â dylanwad llanw penodol fel Aber Afon Dyfrdwy, Bae Conwy, y Fenai a Phen Llŷn a'r Sarnau. Yn aml yn cael ei orlifo gan ddŵr y môr, mae gan yr ardal drawsnewidiol hon amodau sy'n caniatáu i fywyd planhigion arbenigol dyfu, gan ddenu bywyd gwyllt arall yn ei thro. Mae'r llwylys cyffredin, y llwyni helys a'r hocys y morfa yn rhai o'r rhywogaethau planhigion sy'n gallu goddef halen sy'n tyfu mewn morfeydd heli. Mae cymaint o anifeiliaid yn galw morfeydd heli yn gartref iddynt, o'r bleiddgopyn canibalaidd a'r lledod ifanc cuddiedig i'r cornchwiglod a'r pibyddion coesgoch sy'n defnyddio'r porfeydd llawn halen a'r gwastadeddau llaid ar gyfer nythu a bwydo.

Diolch i'n harianwyr, WWF a Sky sydd wedi ein galluogi i sefydlu Prosiect Morfa Heli Gogledd Cymru. Drwy'r prosiect hwn byddwn yn ymchwilio i mewn i ddata hanesyddol a chyfredol ac yn ysbrydoli pobl o bob oed i ddysgu am y cynefin anhygoel hwn.