Mae'r safle wedi'i leoli yng Ngwarchodfa Natur ysblennydd Spurn Point Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog ac mae'n cynnig golygfeydd anhygoel dros aber yr afon Humber ar un ochr ac ar draws Môr y Gogledd ar yr ochr arall. Mae ganddyn nhw eu goleudy eu hunain hyd yn oed! Mae tîm Wilder Humber yn brysur yn adfer wystrys brodorol, morwellt, morfa heli a thwyni tywod.
Darganfod prosiect morlun Wilder Humber
Oyster spat © Abi O'Leary
Lighthouse © Abi O'Leary
Fe fuon ni’n ymweld am ddeuddydd llawn bwrlwm. Ar y diwrnod cyntaf, fe fuon ni’n helpu i fonitro wystrys brodorol, ac ar yr ail ddiwrnod fe fuon ni’n casglu hadau morwellt, rhywbeth rydyn ni’n hen gyfarwydd ag o yma yn Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru!
Monitoring oysters © NWWT Rhys Bowen
Fe ddechreuodd ein diwrnod cyntaf ni gyda thaith ar hyd y traeth, yn debyg i olygfa o'r ffilm Jurassic Park, i'r safle adfer wystrys brodorol. Roedd yn ddiwrnod hyfryd ac roedd y dŵr yn glir fel grisial. Ein nod ni oedd dod o hyd i wystrys ifanc ac oedolion wedi’u tagio, sy’n cael eu defnyddio ar gyfer monitro parhaus, er mwyn asesu cynnydd y gwaith adfer wystrys. Roedd cymaint o wystrys yn y dŵr a gyda phob cam roedden ni’n ei gymryd, roedden ni’n dod o hyd i fwy a mwy ohonyn nhw. Roedd llawer o'r wystrys ifanc yn ffurfio riffiau bach ar gregyn y cregyn bylchog. Ar ôl adfer yr holl wystrys, daeth yr amser i fynd â nhw'n ôl i'r labordy i gasglu data. Mae’r data a gasglwyd yn cael ei ddefnyddio i weld newidiadau yn nifer, maint a chyfradd marwolaeth y grŵp sampl o wystrys.
Fe ddechreuodd yr ail ddiwrnod gyda'r un daith ar hyd y traeth i'r safle adfer morwellt. Roedd gwellt-y-gamlas bach yn gorchuddio'r gwastadeddau llaid yn ddôl werdd dywyll. Roedd morfa heli’n plethu hefyd rhwng y morwellt, gan ddangos bod y ddau gynefin yn gysylltiedig (fel mae'r gair 'morlun' yn ei awgrymu). Fe gawson ni fyrddau corff i orwedd arnyn nhw wrth gasglu'r hadau morwellt bach iawn, er mwyn peidio â niweidio'r ddol oddi tanom. Fe gymerodd beth amser i'r rhai ohonom ni oedd yn newydd i'r gwaith o gasglu morwellt ddod i arfer â'r dasg, ond fe wnaethon ni lwyddo i gasglu nifer da o hadau. Wedyn fe roddwyd yr hadau mewn tanciau er mwyn galluogi iddyn nhw wahanu oddi wrth y dail. Mae'r hadau trymach yn suddo i waelod y tanc tra mae’r dail yn arnofio ar yr wyneb wrth iddyn nhw bydru. Dyma'r un dechneg â’r un sy’n cael ei defnyddio gyda hadau sy’n cael eu casglu o'n dôl forwellt ni ym Mhorthdinllaen. Ar y daith yn ôl i'r labordy, gyda Môr y Gogledd ar y dde i ni, roedd y demtasiwn i fynd â'r byrddau corff i'r tonnau’n gryf iawn!
Dwarf Eelgrass © NWWT Nia Haf Jones
Mae'n saff dweud bod ein tîm ni wedi dod yn ôl yn teimlo eu bod nhw wedi'u hysbrydoli gan y gwaith anhygoel mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog yn ei wneud. Diolch am y croeso gwych!