
Sut i ddenu gwyfynod ac ystlumod i'ch gardd
Mae blodau sy'n rhyddhau eu harogl gyda'r nos yn atyniad mawr i wyfynod felly mae eu plannu yn ffordd wych o ddenu gwyfynod i'ch gardd. Maen nhw hefyd yn rhoi’r pleser o bersawr melys, silwetau trawiadol a gwawr ddisglair i ni. Fel gyda phlanhigion eraill sy’n blodeuo, bydd angen i chi feddwl am y lle gorau i'w rhoi nhw. Er eu bod nhw’n rhyddhau eu harogl yn y nos, mae nhw angen yr amodau cywir yn ystod y dydd hefyd.
Mae blodau sy'n rhyddhau eu harogl gyda'r nos yn atyniad mawr i wyfynod

Honeysuckle - ©northeastwildlife.co.uk
Yn ogystal â phlannu'r blodau cywir, os ydych chi'n garddio gyda gwyfynod a'u lindys mewn golwg, byddwch yn gweld amrywiaeth lawn o ffrindiau’n hedfan yn dod i ymweld. Rhowch gynnig ar y canlynol:
- Cael ystod amrywiol o blanhigion, llwyni, glaswelltau a blodau i ddarparu planhigion bwyd ar gyfer lindys.
- Plannwch goed brodorol fel helyg a derw.
- Cofiwch leihau eich defnydd o gemegau a sicrhau cyn lleied â phosibl o dirlunio caled (graean, decin, ac ati) er mwyn cynyddu'r cynefinoedd sydd ar gael.
- Peidiwch â bod mor daclus! Gadewch ardaloedd o laswellt tal a phlanhigion gwyllt, a pheidiwch â chlirio deunydd planhigion marw ar ddiwedd y flwyddyn - mae lindys a chwilerod yn gallu treulio’r gaeaf yma.
Night-time nectar providers | Ten foodplants for the caterpillars of moths |
Argentinian vervain | Common hawthorn |
Tobacco plant | Currants |
Common jasmine | English oak |
Evening primrose | Hazel |
Globe artichoke | Holly |
Hebe | Hop |
Honeysuckle | Ivy |
Miss Willmott's ghost | Stinging nettle |
Sweet rocket | White willow |
Fushia |

Ross Hoddinott/2020VISION
Trapio Gwyfynod
Gosodwch drap gwyfynod i weld pwy sy'n ymweld â'ch gardd yn y nos.
Efallai bod trapio gwyfynod yn swnio'n greulon, ond dyw e ddim yn brifo'r gwyfynod; mae'n golygu eu denu at ffynhonnell golau neu fwyd yn unig fel y gallwch chi gael golwg agosach arnynt. Gosod trap gwyfynod gartref:
Prynu trap gwyfynod traddodiadol – ar gael ar-lein, ond yn ddrud. Dewis gwych ar gyfer recordwyr gwyfynod difrifol.
Gwneud trap golau - dim ond cynfas wen a thortsh sydd eu hangen arnoch chi. Pegiwch y gynfas ar eich lein ddillad, diffoddwch oleuadau cyfagos, trowch ymlaen eich tortsh, ac arhoswch yn amyneddgar i weld pwy sy'n hedfan i mewn.
Defnyddio rhaff gwin – mae rhai gwyfynod yn cael eu denu'n fwy at danteithion melys na golau, felly rhowch gynnig ar socian stribedi o hen frethyn mewn cymysgedd o win coch rhad a siwgr, crogwch y stribedi dros eich lein ddillad, a gwiriwch nhw am ymwelwyr ar ôl cwpl o oriau.
Troi'r ystafell ymolchi yn drap gwyfynod – agorwch ffenestr eich ystafell ymolchi a throwch ymlaen y golau, gan ei adael am awr neu ddwy. Ar noson gynnes, bydd gwyfynod yn hedfan i mewn a gallwch chi ddychwelyd i weld pwy sydd wedi dod i ymweld. Peidiwch ag anghofio dal a rhyddhau'r gwyfynod yn ddiweddarach!