Ein meithrinfeydd coed

Tree nursery

NWWT Sarah Ellis 

Ein meithrinfeydd coed

Oeddech chi'n gwybod bod gennym ni ein meithrinfeydd coed ein hunain? 

Ers 2020, mae ein meithrinfeydd coed ni yn Aberduna, ger yr Wyddgrug, a Gwaith Powdwr, ger Penrhyndeudraeth, wedi tyfu, gyda help tîm bach o staff a gwirfoddolwyr, o gyflenwi ein prosiectau ni ein hunain i gyflenwi cwsmeriaid. 

Rydyn ni’n tyfu coed brodorol a chynefin yn bennaf ac yn gweithio tuag at gasglu ein holl hadau a thoriadau coed yn lleol ledled Gogledd Cymru (Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam) i gyd-fynd â pharthau tarddiad lleol 303, 304 a 302. 

Os ydych chi'n bwriadu creu coetir, plannu gwrych neu lain cysgodol, neu adfer coed gwasgaredig ar ochr bryn, byddem wrth ein bodd yn cael eich busnes! 

Dim ond drwy apwyntiad y mae posib ymweld â'n meithrinfeydd coed ni. 
Oherwydd y capasiti presennol, mae gennym ni bolisi archeb isafswm. 
Rhaid i archebion fod yn werth £100 neu fwy (heb gynnwys TAW). 

Archebu coed 
Am restr brisiau lawn ac argaeledd stoc, cysylltwch â'n Swyddog Datblygu Meithrinfeydd Coed: Sarah.Ellis@northwaleswildlifetrust.org.uk

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhywogaethau nad ydyn ni’n eu cynnig ar hyn o bryd i’w gwerthu, rhowch wybod i ni gan fod gennym ddiddordeb mewn tyfu amrywiaeth ehangach o goed brodorol o darddiad lleol a gallwn eu hychwanegu at ein hamrywiaeth yn y dyfodol. 

Achrediad Cynllun Iechyd Pasbort Planhigion

Mae ein meithrinfeydd coed ni’n cael eu harchwilio'n flynyddol gan yr Animal and Plant Health Agency (APHA) i sicrhau statws pasbort planhigion dilys, er mwyn cydymffurfio â’r rheoliadau iechyd planhigion. Mae hyn yn sicrhau bod posib olrhain planhigion sy’n cael eu rheoleiddio. 

Achrediad UK and Ireland Sourced and Grown (UKISG)

Mae achrediad UK and Ireland Sourced and Grown (UKISG) yn fenter wirfoddol ar gyfer meithrinfeydd coed, sydd wedi’i dyfeisio gan Coed Cadw. Mae'n nodi tarddiad stoc i brynwyr ac yn sicrhau bod coed wedi'u tyfu o hadau o darddiad ac wedi'u tyfu yn y DU ac Iwerddon yn unig am eu hoes gyfan. 

#why

Pam mae gennym ni ein meithrinfeydd coed ein hunain? 

Mae ein meithrinfeydd coed ni’n cefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru drwy ddarparu coed o darddiad lleol ar gyfer prosiectau cadwraeth a chodi arian i gefnogi ein gwaith ni. Rydyn ni hefyd yn tyfu rhai o'r amrywiaethau prinnaf yn y DU o goed o darddiad lleol, gan gynnwys pisgwydd dail bach, cerddin gwyllt a phoplys duon, i helpu i adfer eu lle yn y dirwedd. 

Mae ein meithrinfeydd coed ni hefyd yn adnodd addysgol a lles, gan ddarparu gofod croesawgar i bobl gyfarfod a dysgu popeth am goed, pam mae arnom ni angen mwy ohonyn nhw, a sut  gall pobl ein helpu ni i helpu i blannu coed i adfer byd natur. 

#getinvolved
Volunteer working at tree nursery

NWWT Sarah Ellis 

Cymryd rhan  

Os hoffech chi ein helpu ni i reoli ein meithrinfeydd coed, ymunwch â'n dyddiau gwirfoddoli rheolaidd. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'n Swyddog Datblygu Meithrinfeydd Coed: Sarah.Ellis@northwaleswildlifetrust.org.uk