Gwneud traciau yn Nolgarrog
Mae Gwneud Traciau yn brosiect newydd cyffrous, wedi'i leoli ym mhentref Dolgarrog, yng nghalon Dyffryn Conwy hardd. Mae'r pentref yn adnabyddus am ei orffennol diwydiannol a Thrychineb Argae Eigiau yn 1925. Nod y Prosiect yw cynyddu bioamrywiaeth yn y dirwedd ehangach a chreu llwybrau hygyrch lle gall bywyd gwyllt a phobl ffynnu gyda'i gilydd.
Beth mae’r prosiect yn ei wneud?
- Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Dolgarrog, mae'r prosiect yn nodi canmlwyddiant Trychineb yr Argae yn 1925.
- Mae'n cynnig cyfleoedd i bobl gysylltu â’r hanes, y bywyd gwyllt a’r dirwedd sydd ar garreg eu drws a dysgu mwy amdanynt.
- Nod y prosiect yw creu tirwedd iachach sy'n fwy cysylltiedig drwy wella llwybrau a chysylltu tri safle arwyddocaol – Gerddi Coffa Porthllwyd, Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Coed Dolgarrog a Phwll Du (sydd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Eryri).
- Rydyn ni’n ymgysylltu â'r gymuned leol a’r gymuned ehangach drwy ddarparu gweithgareddau creadigol sy'n ymwneud â bywyd gwyllt, digwyddiadau, gweithdai a theithiau cerdded tywys.
- Rydyn ni’n datblygu grŵp cadwraeth lleol gwirfoddol. Mae'r grŵp yn cyfarfod yn wythnosol gyda'r nod o gynyddu bioamrywiaeth ac adfer cynefinoedd yn yr ardal leol.
Oeddech chi'n gwybod?
- Coed Dolgarrog yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol coetir fwyaf (69 hectar) a mwyaf amrywiol Cymru.
- Mae rhan o'r safle wedi'i chynnwys yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Eryri.
- Mae Coed Dolgarrog wedi'i dosbarthu fel "coedwig law dymherus".
- Mae Coed Dolgarrog yn gartref i fwsoglau sffagnwm, ffyngau, pathewod, ystlumod, adar y coetir, gwyfynod a llawer mwy!
Pwy sy'n rhan o'r prosiect?
Mae Gwneud Traciau yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Cymuned Dolgarrog ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Rydyn ni’n gweithio mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru, R.W.E., a Pharc Cenedlaethol Eryri. Katy Haines yw'r Rheolwr Prosiect a Sue Loughran yw'r Swyddog Prosiect.
Sut mae'r prosiect yn cael ei gyllido?
Mae Gwneud Traciau yn brosiect tair blynedd, sy'n rhedeg tan fis Mawrth 2028, wedi'i gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.