Mae’r môr o amgylch Gogledd Cymru’n arbennig mewn sawl ffordd...
Gydag ychydig gannoedd o gilometrau o arfordir yn ymestyn o Aber Afon Dyfrdwy i Aberdyfi, mae’r môr o amgylch Gogledd Cymru yn arbennig mewn sawl ffordd ac yn gartref i lawer o fywyd gwyllt rhyfedd a rhyfeddol.
Ond mae moroedd Cymru mewn trafferthion! Mae llawer o’n rhywogaethau morol yn prinhau ac mae cynnydd parhaus yn y sbwriel sy’n mynd i mewn i’n moroedd, mae bygythiad o ddatblygu seilwaith anghynaladwy ac ar ben hyn oll rydym bellach yn gweld effeithiau cynyddol newid hinsawdd fyd-eang.
Sut rydym yn gweithio i ddiogelu'r amgylchedd morol
Fel hyrwyddwyr naturiol dros fywyd gwyllt arfordirol a morol, rydym yn gweithio tuag at ein gweledigaeth o Foroedd Byw. Moroedd Byw yw ein gweledigaeth ar gyfer cadwraeth forol yng Ngogledd Cymru lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu, o'r dyfnderoedd i'n dyfroedd bas arfordirol.
O adfer morwellt i fonitro glannau creigiog, rydym yn gweithio gyda phartneriaid, busnesau, cymunedau ac unigolion i gefnogi adferiad natur yn yr amgylchedd morol. Dysgwch fwy am ein prosiectau a sut allwch chi gymryd rhan isod.
Ymunwch a helpwch ni i amddiffyn ein hamgylchedd morol gwerthfawr
Dewch yn llu i'n digwyddiadau arfordirol

Y Môr a Ni - Llythrennedd y môr i Gymru
Mae gan bawb yng Nghymru berthynas â’r môr.
Darganfyddwch eich un chi gyda Y Môr a Ni - Strategaeth Llythrennedd y Môr genedlaethol gyntaf y DU!