Ydych chi eisiau helpu gwenoliaid duon i adfer yng Nghymru? Cefnogwch ddeddfwriaeth i sicrhau bod bricis gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru.
Yn 2024, lansiodd Julia Barrell ddeiseb yn annog Llywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i Frics Gwenoliaid Duon gael eu gosod ym mhob adeilad newydd. Gyda chefnogaeth Ymddiriedolaethau Natur Cymru, RSPB Cymru, a grwpiau cymunedol, gan gynnwys Fforwm Ieuenctid Môn Gwyrdd, bydd yr ymgyrch hon yn cael ei thrafod yn y Senedd ar ddydd Mercher 1 Hydref 2025.
Er gwaethaf y gefnogaeth i wenoliaid duon gan nifer o Aelodau'r Senedd, gwrthododd Llywodraeth Cymru y cynnig ar y sail y byddai gorfodi brics gwenoliaid duon yn cymhlethu’r cyfrifiadau o ran budd net i fioamrywiaeth (NBB), a gallai olygu y byddai datblygwyr yn gweld gosod brics gwenoliaid duon yn eu lle fel cam digonol ar ei ben ei hun i fodloni'r gofyniad hwn yn y Polisi Cynllunio Cenedlaethol.
Darllenwch pam rydym ni, a'n partneriaid yn yr ymgyrch, yn credu nad yw'r ddadl hon yn dal dŵr wrth graffu arni
Rydym ni, a'n partneriaid yn yr ymgyrch yn RSPB Cymru, yn credu nad yw'r ddadl y byddai gorfodi gosod brics gwenoliaid duon ym mhob adeilad newydd yn tanseilio cyflawni budd net i fioamrywiaeth (NBB) yn dal dŵr.
Os yw llunwyr deddfau’n cytuno bod angen help brys ar wenoliaid duon, dylai fod yn gwbl bosibl integreiddio brics gwenoliaid duon gorfodol yn y fframweithiau presennol. Yn yr un modd, nid yw'r awgrym y gallai datblygwyr geisio hawlio gosod brics gwenoliaid duon yn eu lle fel eu hunig gyfrifoldeb o dan (NBB), ar draul mesurau bioamrywiaeth eraill, yn rheswm dilys dros beidio â deddfu. O ystyried eu hunffurfiaeth, eu cost-effeithiolrwydd, pa mor hawdd yw eu gosod yn eu lle a'u manteision aml-rywogaeth, does dim byd i atal ei gwneud yn orfodol eu gosod yn eu lle, yn ychwanegol at ofynion NBB. Ac mae'r syniad y byddai datblygwyr yn gweld y posibilrwydd o fricsen gwenoliaid duon gwerth £35 fesul annedd, sy'n cymryd 20 munud i'w gosod, fel maen tramgwydd yn ymddangos yn annhebygol yng nghyd-destun cynigion datblygu ar gyfer adeiladau newydd.
Yn anffodus, roedd ymateb siomedig Llywodraeth Cymru i'r cynnig yn golygu bod rhaid i'r Pwyllgor Deisebau gau'r ddeiseb mewn cyfarfod ym mis Tachwedd, gan nodi y gallai'r Pleidiau unigol godi'r mater yn eu maniffestos cyn etholiad y Senedd ym mis Mai 2026.
Swift Brick Campaign 2025 CYM (https://youtu.be/WzlX_rYP66U)
Mae Iolo Williams, naturiaethwr, awdur a chyflwynydd teledu adnabyddus o Gymru, ac is-lywydd Ymddiriedolaethau Natur, yn galw ar Aelodau'r Senedd i gefnogi Brics Gwenoliaid Duon yng Nghymru.
Pam mae angen ein help ni ar wenoliaid duon?
Mae gwenoliaid duon yn adar rhyfeddol. Maen nhw’n treulio eu hoes gyfan bron yn hedfan, gan gynnwys bwyta, cysgu a pharu wrth hedfan – ac mae eu cri atgofus yn diffinio ein haf ni. Yn anffodus, mae'r gri yma'n pylu, gan mai gwenoliaid duon yw'r rhywogaeth sy'n dirywio gyflymaf yng Nghymru bellach, gyda’r niferoedd wedi gostwng 75% ers 1999. Mae mwy na hanner ein gwenoliaid duon ni wedi cael eu colli yn ystod y degawd diwethaf yn unig.
Mae gwenoliaid duon yn nythu mewn ceudodau mewn adeiladau – jyst o dan linell y to yn aml. Ond mae gwaith adnewyddu ac adeiladau newydd yn cael gwared ar y safleoedd nythu hanfodol hyn yn gyflym.
Pam brics gwenoliaid duon?
Mae brics gwenoliaid duon yn darparu safleoedd nythu diogel, hirdymor i wenoliaid duon a rhywogaethau eraill fel gwenoliaid y bondo ac adar y to.
Dyma fanylion amdanyn nhw:
· Costio cyn lleied â £25 yr uned
· Dim angen gwaith cynnal a chadw
· Para am oes yr adeilad
· Hawdd eu gosod yn eu lle fel rhan o waith adeilad
Mae rhai cymdeithasau tai yng Nghymru yn eu defnyddio eisoes - sy'n profi eu bod yn ymarferol ac yn effeithiol.
Beth arall sydd ei angen ar wenoliaid duon?
Ochr yn ochr â safleoedd nythu, mae angen cynefinoedd sy'n llawn pryfed ar wenoliaid duon. Mae ffermio sy'n gyfeillgar i fyd natur ac afonydd iach yn elfennau hanfodol o'r darlun, ond rhaid i Frics Gwenoliaid Duon fod yn un o'r nifer o gamau angenrheidiol sy’n cael eu cymryd i adfer bioamrywiaeth.
Beth yw budd net i fioamrywiaeth (NBB)?
Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio dull budd net i fioamrywiaeth (NBB) o weithredu i sicrhau gwelliant cyffredinol mewn bioamrywiaeth o ddatblygiadau adeiladu. Mae hyn yn rhoi pwyslais ar ystyried effeithiau a manteision bioamrywiaeth yn gynnar yn y cyfnod dylunio mewn datblygiadau, er budd gwydnwch ecosystemau ehangach.
Mae ‘Budd net i fioamrywiaeth (NBB)’ yn Ofyniad Polisi Cynllunio Cenedlaethol yng Nghymru sy’n golygu na ddylai datblygiad achosi unrhyw golled sylweddol o ran cynefinoedd a phoblogaethau o rywogaethau (heb gynnwys rhywogaethau estron ymledol), yn lleol nac yn genedlaethol a bod rhaid iddo weithio ochr yn ochr â byd natur a darparu budd net i fioamrywiaeth a gwella, neu alluogi gwella, gwydnwch ecosystemau. Budd net i fioamrywiaeth yw’r cysyniad y dylai datblygiad adael bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau mewn cyflwr llawer gwell nag o’r blaen, drwy sicrhau budd uniongyrchol a hirdymor, mesuradwy a chlir, yn bennaf ar y safle neu’n union gerllaw.
Llywodraeth Cymru: Polisi Cynllunio Cymru 12, 2024
Rydym yn siomedig ond dydi hyn ddim yn mynd i’n hatal ni. Rydym yn gweithredu dros wenoliaid duon!
Dros y misoedd sydd i ddod, yn ystod y cyfnod yn arwain at etholiad y Senedd ym mis Mai 2026, byddwn yn cyfleu'r neges i'r Pleidiau bod angen help brys ar wenoliaid duon nawr, a bod gorfodi brics gwenoliaid duon yn fesur y gellir ei gyflawni a fydd yn helpu i fynd i'r afael â'u dirywiad, gan ganiatáu i genedlaethau'r dyfodol fwynhau presenoldeb gwenoliaid duon o amgylch eu cartrefi a'u cymunedau.
Byddwn yn annog aelodau'r cyhoedd i gyfleu'r neges hon i wleidyddion, neu'r rhai sy'n canfasio ar eu rhan yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Rydym yn credu y bydd dangos bod cefnogaeth boblogaidd i'r cynnig hwn yn helpu i sicrhau ei fod yn uchel ar agenda Llywodraeth nesaf Cymru.
Ymunwch â ni i alw ar y Senedd i gefnogi gwenoliaid duon yng Nghymru.
Mae Bricis Gwenoliaid Duon yn newid bach gydag effaith enfawr - i wenoliaid duon, ac i fyd natur yng Nghymru.
Cefnogaeth gymunedol
Ledled Cymru, mae pobl yn cymryd camau gweithredu: gosod bocsys nythu yn eu lle, monitro gwenoliaid duon, a lledaenu ymwybyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys 13 o grwpiau gwahanol o wenoliaid duon yng Nghymru, o'r Waun i Abertawe. Ond dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hynny ar eu pen eu hunain - rhaid i Lywodraeth Cymru arwain.
Beth am i ni weithredu
Ni ddylai Brics Gwenoliaid Duon gymryd lle’r mesurau eraill sy'n ofynnol gan y Budd Net ar gyfer Bioamrywiaeth, ond eu hategu, gan gynnig budd mesuradwy ar unwaith. Mae'r brys yn glir, ac mae'r cyfle’n bodoli.
Mae brics gwenoliaid duon wedi cael eu profi fel adnoddau effeithiol. Dydyn nhw ddim yn amharu ar strwythur na chapasiti thermal yr adeilad mewn unrhyw ffordd. Er mwyn bod ag unrhyw obaith o adfer eu niferoedd mae angen brics gwenoliaid duon ym mhob tŷ newydd. Mae'n syml, yn rhad a dyma’r peth iawn i'w wneud.Gweithredu dros Wenoliaid Duon
Swift in Swift Brick, Chirk (https://youtu.be/G_JR_oFf1W0)
Cyw gwennol ddu yn cael ei fwydo y tu mewn i fricsen gwenoliaid duon, Y Waun, 2024 (Hayley Garrod)
I mi, mae gwenoliaid duon hefyd yn cynrychioli cysylltiad cymunedol ac rydw i'n gallu creu cysylltiad â phobl yn fy nghymuned i dros ein dyhead ni i wylio a gwarchod gwenoliaid duon.Aelod o Fforwm Ieuenctid Môn Gwyrdd