Apêl Cors y Sarnau

Apêl Cors y Sarnau

Plîs helpwch ni i godi £40,000 i wneud Cors y Sarnau yn wylltach, yn wlypach, yn fwy ac yn well!

Mae gennym ni gyfle gwych i brynu 20 erw o gynefin cymysg i ehangu Gwarchodfa Natur Cors y Sarnau o 20%; cynyddu ein hymdrechion adfer ar draws y mawndir pwysig yn genedlaethol yma; a chreu gwlybdir gwyllt gwirioneddol arbennig ar gyfer byd natur a phobl fel ei gilydd.

Rydyn ni eisoes wedi sicrhau mwy na £200,000 o amrywiaeth o roddion unigol a gan ddyfarnwyr grantiau y mae eu haelioni wedi sicrhau bod y prynu a'r gwaith adfer o fewn cyrraedd i ni. Plîs helpwch ni i gymryd y camau olaf tuag at ein nod.
 

Dyblwch eich rhodd heddiw

Er mwyn gwella Cors y Sarnau ar gyfer bywyd gwyllt, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Prynu a rheoli clytwaith o wlybdiroedd a choetiroedd sy'n adfywio'n naturiol i gynyddu maint y warchodfa o 20% – gan gefnogi’r egwyddorion cyfarwydd, 'mwy, gwell, mwy cydgysylltiedig'
  • Creu pyllau a llethrau bas i hidlo dŵr o laswelltir cyfagos a datblygu cynefinoedd gwlybdir newydd – gan fod o fudd i blanhigion fel ffa'r gors a gwlithlys yn ogystal â'r infertebrata, yr adar a’r mamaliaid ymhellach i fyny'r gadwyn fwyd
  • Cael gwared ar rywogaethau estron ymledol, gan gynnwys spirea, rhododendron a sbriws sitca, a rheoli prysgwydd brodorol i wella strwythur y cynefin
  • Creu adrannau pori a gosod pympiau porfa a chafnau dŵr yn eu lle i leihau effaith anifeiliaid sy'n sathru’r priddoedd mawn
  • Cynnal arolygon i ddeall lefelau dŵr y safle a siâp y tir, ac asesu a allai gosod neu wella llifddorau helpu i reoli’r dŵr yn fwy effeithiol
     

Rhowch rodd heddiw