Rhyfeddodau’r gwlybdir yng Nghorsydd Calon Môn

Rhyfeddodau’r gwlybdir yng Nghorsydd Calon Môn

Fe wnaethon ni gomisiynu’r artist Elly Strigner i weithio gyda chymunedau lleol i gynhyrchu darluniau hardd sy'n dal cyfoeth y llefydd rhyfeddol yma. Nod ein prosiect partneriaeth Corsydd Calon Môn ni yw sicrhau dyfodol Corsydd Môn ac, ar yr un pryd, dathlu eu hanes cyfoethog.

Ar Ddiwrnod Gwlybdiroedd y Byd (2 Chwefror) mae cyfle i chi ddysgu am dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol y safleoedd sy'n ffurfio ail ffendir mwyaf y DU drwy'r darluniau anhygoel yma sydd wedi’u cynhyrchu gan Elly Strigner.

Datblygwyd y darluniau drwy ymweliadau safle cymunedol gan weithio gyda mwy na 50 o bobl fel rhan o'n prosiect partneriaeth ni, Corsydd Calon Môn.

Mae gweithio gyda'r gwahanol grwpiau a’r arbenigwyr safle, a dysgu am y nifer o blanhigion, y bywyd gwyllt, y straeon, yr hanes a’r llên gwerin diddorol sy'n gysylltiedig â'r Corsydd wedi bod yn hynod ddiddorol. Rydw i wedi mwynhau creu'r darluniau yn fawr iawn
Elly Strigner
Artist
Illustration of Cors Goch by artist Elly Strigner

Elly Strigner

Diolch yn fawr iawn i holl staff Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Merched Merchyr, Jules Cooper a phawb a ddaeth draw a chymryd rhan yn y digwyddiadau Dyddiau Ffen-tastig, am helpu i siapio’r hyn sy’n rhan o'r darluniau.

Yn fwy na dim, diolch i Elly! 

Merchyd Mercher women's walking group with Elly Strigner in Oriel Môn car park

NWWT Neil Dunsire

Mae tri safle anhygoel Cors Boedeilio, Cors Erddreiniog a'n Gwarchodfa Natur ni yng Nghors Goch ar agor drwy gydol y flwyddyn, ac am ddim i'w mwynhau, felly beth am i chi fynd ati i’w darganfod nhw drosoch chi’ch hun?

Mae Corsydd Calon Môn wedi'i wneud yn bosibl drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol gyda diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.