Gwarchodfa Natur Cors Goch

Barn Owl

Barn Owl _Andy Rouse 2020VISION

Grasshopper warbler

Grasshopper warbler © Richard Steel2020VISION

Cors Goch Nature Reserve

Cors Goch Nature Reserve © Damien Hughes

Cors Coch Nature Reserve volunteers

Cors Coch Nature Reserve volunteers

Green-winged orchid

Green-winged orchid - Gwent Wildlife Trust

Small Pearl bordered Fritillary

Small Pearl bordered Fritillary - Chris Lawrence

Gallwch dreulio oriau’n archwilio’r clytwaith trawiadol yma o gynefinoedd, pob un â’i gymeriad unigryw ei hun a’i gasgliad o fywyd gwyllt.

Location

Llanbedrgoch
Ynys Môn
LL78 8JZ

OS Map Reference

SH504816
OS Explorer Map 263
A static map of Gwarchodfa Natur Cors Goch

Know before you go

Maint
95 hectares
z

Pris mynediad

Na
P

Manylion parcio

Mae lle parcio cyfyngedig ar ymyl y ffordd yn gyfagos i brif fynedfa’r warchodfa ac oddeutu 1.3km i’r gogledd-orllewin o ganol pentref Llanbedrgoch. Ni ellir parcio car ar y warchodfa ei hyn.

Anifeiliaid pori

Gwartheg neu geffylau, drwy gydol y flwyddyn.

Llwybrau cerdded

Llwybrau wahanol ar draws amrywiaeth o diroedd. Mae'na llwybr pren dros rhan o'r glwypdir.

Mynediad

 Mae’r warchodfa’n cynnwys tir serth, anwastad mewn rhai mannau, a llwybrau pren cul sy’n gallu bod yn llithrig ar ôl glaw trwm. Oddi ar y llwybrau pren, mae posib dod ar draws mwd dwfn a dŵr agored a dylid osgoi’r rhain.

Dogs

Ar dennyn

When to visit

Amseroedd agor

Ar agor bob amser

Amser gorau i ymweld

Mis Mai a thrwy haf ydy’r amser gorau i weld blodau gwyllt, adar, a phryfaid, ond byddai ymweld unrhyw adeg o’r flwyddyn yn darparu cyfle i weld bywyd gwyllt diddorol.

Am dan y warchodfa

Lliw caleidosgopig  

Wedi’i lleoli mewn dyffryn bas ac yn cael ei bwydo gan ddŵr llawn calch, mae Cors Goch yn adlewyrchu hanes maith o weithgarwch gan ddyn. Mae wedi cael ei defnyddio gan y gymuned leol ers canrifoedd ac mae’n llecyn lle’r oedd gwartheg yn pori, cawn yn cael eu torri a cherrig yn cael eu chwarelu i wneud meini melin. Heddiw, mae’r ddaeareg gymhleth a’r cyfoeth o gynefinoedd yn ei gwneud yn un o warchodfeydd natur mwyaf amrywiol a lliwgar Cymru: rhan o rwydwaith o arwyddocâd rhyngwladol o gorsydd ar Ynys Môn.

Mae tir uwch y warchodfa’n cynnwys tywodfaen bras, asidig a chalchfaen mwy alcalïaidd - mae posib gweld enghreifftiau o’r creigiau hyn yn y waliau cerrig niferus o amgylch y warchodfa natur. Mae’r cyswllt rhwng creigiau, pridd a phlanhigion i’w weld yn glir ar yr wyneb: cewch fwynhau lliwiau cryf y grug a’r eithin, y fioled welw brin a chrwynllys y gors sy’n ffynnu ar y rhostiroedd asid, neu, yn ystod misoedd yr haf, bydd cyfle i chi ddarganfod amrywiaeth eang y tegeirianau rhyfeddol sydd i’w canfod yn gysylltiedig â’r ardaloedd calchfaen. 

Ar lefelau is, mae gwlybdiroedd Cors Goch yn gartref i lawer o blanhigion prin eraill, gan gynnwys rhywogaethau pryfysol, a’u casgliad eu hunain o degeirianau. Wrth gerdded yma yn y gwanwyn, cewch wneud hynny i gyfeiliant cân telor y gwair, telor yr hesg a bras y cyrs, sy’n cael eu denu i’r gwlybdiroedd helaeth i nythu. Mae gweision y neidr a mursennod i’w gweld o’r llwybr pren - fflachiadau o liw yn gwibio uwch ben y ddaear wlyb oddi tanodd.

Mae’n werth ymweld â Chors Goch ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Cofiwch adael ychydig o oriau i allu archwilio’r safle mawr a bywiog yma i gyd – a gwerthfawrogi’r ymdeimlad dwfn o berthyn yn y dirwedd. 

Pori er budd bywyd gwyllt 

O amgylch Cors Goch, mae llawer o’r planhigion a’r anifeiliaid angen amodau agored er mwyn goroesi, i fwydo neu flodeuo, neu i gael rhai bach. I helpu gyda chyflawni hyn, mae merlod a gwartheg yn pori’r warchodfa drwy gydol y flwyddyn. Drwy sathru mawn y gwlybdir, mae’r anifeiliaid yn creu pyllau bach, defnyddiol i weision y neidr, a phlanhigion dŵr croyw; ac mae lefelau pori a reolir yn ofalus ar y rhostir a’r glaswelltir yn galluogi i blanhigion fel rhedyn tafod y neidr a thegeirian ffynnu. Mae staff YNGC a’r gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr â’r drefn bori er mwyn rheoli’r prysgwydd, y mieri a’r rhedyn. Mae hyn yn helpu i greu amrywiaeth o gynefinoedd ledled y warchodfa.

I’r gwrthwyneb, mae gwrychoedd llydan a choetir Cors Goch yn cael eu gwarchod rhag pori a’u rheoli i ddarparu cysgod a bwyd i amrywiaeth eang o adar a mamaliaid. Maent yn goridorau pwysig sy’n cysylltu’r warchodfa natur â’r dirwedd o amgylch.  

Oeddech chi wybod?

Mae’na rhai o ddyddodion mawn dros 10 metr ar gors goch sy’n dangos mae cors wedi bod yn datblygu am dros 12,000 blynedd!

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A5025 o Bentraeth am ryw 1.5 milltir nes cyrraedd cyffordd, gan droi i’r chwith am Lanbedrgoch. Tua milltir ar ôl mynd heibio i Lanbedrgoch, fe welwch chi arwydd am y warchodfa, a chilfan ar y chwith ble gallwch chi barcio (SH 504 816). Mae lle i 2 neu 3 char barcio yma. Dilynwch y trac o’r gilfan i’r warchodfa.

Mae llwybrau mynediad a llefydd parcio eraill ar gael hefyd – edrychwch ar y map a’n gwefan ni am fwy o wybodaeth.

Contact us

Chris Wynne
Cyswllt ffôn: 01248 351541

Dynodiad amgylcheddol

Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG)
Gwlybdir o Bwysigrwydd Rhyngwladol
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)

Biffa Award 2018

Common darter

Common darter - Amy Lewis

Cefnogwch ni

Dod yn aelod heddiw
Cors Coch Nature Reserve volunteers

Cors Coch Nature Reserve volunteers

Support us

Join today!

Young woman birdwatching at Rutland Water
From £3.00 a month

Aelodaeth unigol / Individual

Aelodaeth unigol ar gyfer un person
Couples membership
From £3.50 a month

Cyd-aelodaeth / Joint

Aelodaeth ar y cyd i ddau berson
A small boy carrying a stick, walking through a woodland with large old trees and bluebells carpeting the floor. Behind him is a young girl running up to him, and a woman bending down to look at the flowers.
From £4.00 a month

Aelodaeth deuluol / Family

Aelodaeth deuluol gydag ychwanegiadau i blant