Cadw mawn mewn corsydd
Mawndiroedd yw un o’n cynefinoedd pwysicaf ni, gan ddarparu cartrefi i fywyd gwyllt prin a chloi carbon, gan ein helpu ni i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ond yn y DU mae mwy nag 80% yn cael eu difrodi. Yn rhannol oherwydd ein defnydd ni o fawn fel compost a'i ddefnyddio i dyfu cynhyrchion fel planhigion tŷ a madarch. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ochr yn ochr â'r Ymddiriedolaethau Natur ledled y DU, yn ymgyrchu i gadw mawn mewn corsydd ac nid mewn bagiau.