Bywyd y nos yng Ngwaith Powdwr!

Bywyd y nos yng Ngwaith Powdwr!

Nightjar adult male alighting on song perch - David Tipling 2020Vision

Ymunwch â thaith dywys i fwynhau golygfeydd a synau Gwarchodfa Natur Gwaith Powdwr yn y gwyll …

Ydych chi wedi meddwl erioed sut mae troellwr yn swnio? Ydych chi wedi gweld pryf tân yn goleuo erioed, a meddwl pam? Mae dwy daith dywys yn cael eu cynnal yng Ngwarchodfa Natur Gwaith Powdwr fis Mehefin eleni, i fwynhau ‘bywyd y nos’ lleol. Ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, ac yn ‘Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol’, mae hon yn esiampl ryfeddol o warchodfa natur ôl-ddiwydiannol gyda bywyd gwyllt nosol anhygoel. Ymunwch â swyddog y warchodfa, Rob Booth, am daith gymedrol gyda theclynnau llaw i ganfod ystlumod – byddwn yn chwilio am ystlumod, troellwyr mawr, pryfed tân a mwy ac yn gwrando am eu synau.  

Mae’r teithiau’n cael eu cynnal ddydd Mercher 5 a dydd Gwener 14 Mehefin am 9pm (£2 i aelodau, £4 i bawb arall – neu am ddim i’r rhai sy’n ymuno ag YNGC ar y noson!). Cyfarfod wrth fynedfa’r stad ddiwydiannol ger y giatiau gwyn i mewn i’r warchodfa, SH615388 / LL48 6LY.  Dewch â fflachlamp a byddwch yn barod am wybed mân.