Cylchwyl 60 mlynedd

60 mlynedd gweithio tros fywyd gwyllt

Dathlu 60 mlynedd o weithio dros fywyd gwyllt

Mae 2023 yn flwyddyn arbennig wrth i ni ddathlu 60 mlynedd o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio i warchod bywyd gwyllt ar draws Gogledd Cymru.

Ochr yn ochr â'n cefnogwyr ni, ein haelodau a phartneriaid lleol, rydyn ni wedi cyflawni canlyniadau anhygoel! Rydyn ni bellach yn rheoli 35 o warchodfeydd natur, gyda thîm o 450+ o wirfoddolwyr, gyda chefnogaeth 9,000+ o aelodau. Ni fyddem yn gallu ei wneud heb eich cefnogaeth chi a gwaith caled ein holl arwyr bywyd gwyllt.

Mae gan Ogledd Cymru amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt a llefydd gwyllt syfrdanol. Ond rydyn ni'n byw mewn cyfnod o argyfyngau natur a hinsawdd. Yr amser i weithredu yw nawr - i newid pethau a dod â natur yn ôl. Felly cefnogwch Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a chymryd rhan i helpu i adfer byd natur.

Ymuno yn y dathliadau

Bydd 2023 yn orlawn o ddigwyddiadau gyda mwy na 150 o deithiau cerdded a gweithgareddau i deuluoedd. Rydyn ni'n dechrau drwy lansio ein strategaeth newydd, cael hwyl fel rhan o Go Wild yn West Shore, archwilio ein moroedd a’n harfordiroedd yn ystod yr Wythnos Forol Genedlaethol a gwahodd pawb i ddathliad diwedd blwyddyn yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a'n ffair bywyd gwyllt.

Ein digwyddiadau i gyd

60 o bethau gwyllt

Yn ein 60fed blwyddyn byddwn yn dathlu 60 o rywogaethau bywyd gwyllt, llefydd gwyllt, eiliadau gwyllt ac arwyr bywyd gwyllt yn ogystal â rhannu awgrymiadau defnyddiol ar sut gallwch chi helpu i warchod bywyd gwyllt yn eich ardal chi.

Dyma ein 5 uchaf am y mis yma...

Barn owl

Barn owl © Danny Green/2020VISION

BYWYD GWYLLT

Tylluan wen

Os nad ydych chi erioed wedi gweld tylluan wen o’r blaen, gall y gaeaf fod yn amser gwych o’r flwyddyn i chwilio, gan eu bod yn aml yn ymestyn eu horiau hela i olau dydd i ddod o hyd i’r bwyd ychwanegol sydd arnyn nhw ei angen i’w cynnal drwy’r misoedd oerach. 

Mwy o wybodaeth
A heathland covered in purple heather and other scrub plants, featuring a pond with a large round cut stone, possibly a mill stone, and reeds growing out of the wetlands.

Cors Goch Nature Reserve © Damian Hughes

LLEFYDD GWYLLT

Gwarchodfa Natur Cors Goch

Treuliwch oriau'n archwilio'r clytwaith ysblennydd yma o gynefinoedd, pob un â'i gymeriad unigryw ei hun a'i amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Mwy o wybodaeth
Diane Lea

Diane Lea © Mike Flaherty

ARWR BYWYD GWYLLT

Diane Lea

Mae Diane Lea yn rhannu stori ffrwydrol ei thaid - a pham ei bod wedi dewis cefnogi ei waddol yng Ngwaith Powdwr gyda’i gwaddol ei hun.

Mwy o wybodaeth
Morfa Bychan Nature Reserve

Morfa Bychan Nature Reserve © Damian Hughes

Moment Gwyllt

Ein gwarchodfeydd natur cyntaf!

Yn 1964 agorwyd ein tair gwarchodfa natur cyntaf!  Prynwyd Cors Goch gan Gymdeithas er mwyn Hyrwyddo Gwarchodfeydd Natur (SNPR), fe dderbyniwyd Morfa Bychan fel rhodd ac fe brynwyd Coed Cilygroeslwyd am swm bychain.

Cynlluniwch eich ymweliad
Log shelter
GWEITHREDU DROS FYWYD GWYLLT

Sut i wneud cysgod o foncyffion

Mae pentyrrau o foncyffion yn guddfannau perffaith i bryfed, gan ddarparu bwffe cyfleus i lyffantod, adar a draenogod hefyd!

Mwy o wybodaeth