Gweld ffrwyth y llafur

Gweld ffrwyth y llafur

Y llynedd, cynyddodd y gwirfoddoli yn ein gwarchodfeydd natur ni 20%, sy’n ganran anhygoel!

Rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019, fe fu ein gwirfoddolwyr gwych ni’n gwneud mwy na 12,000 o oriau gwirfoddol o waith cadwraeth ymarferol yn ein gwarchodfeydd natur ni ledled Gogledd Cymru. Mae hyn yn gynnydd o bron i 20% ar y flwyddyn flaenorol – ac mae’r holl oriau hynny sydd wedi’u treulio’n clirio llwyni, yn torri rhedyn ac yn tocio coed yn golygu bod ein gwarchodfeydd natur ni bellach yn llawn casgliad rhyfeddol o flodau gwyllt! 

Pyramidal orchid

Pyramidal orchid © Katy Haines

Mae’n amser perffaith o’r flwyddyn i fod yn dyst i ganlyniadau’r holl waith caled yma. Drwy gydol mis Mehefin, mae llawer o deithiau tywys yn cael eu cynnal yn ein gwarchodfeydd natur ni – felly, os hoffech chi ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng ffa’r gors a llafn y bladur, neu’r cor-rosyn cyffredin a’r bwrned, beth am ddod draw i ymuno â ni?   

Er enghraifft, am gyfle i ddarganfod y bywyd gwyllt sy’n gwneud ei gartref ar safle mwy trefol, fe allech chi ymuno â’n Swyddog Gwarchodfeydd ni yng Ngwarchodfa Natur Eithinog ym Mangor ar 11 Mehefin (17.30  – 19:00). Ac mae mwy fyth o ddigwyddiadau wedi’u rhestru ar ein gwefan ni!

Dewch draw i fwynhau ffrwyth llafur yr holl wirfoddolwyr gweithgar. Pwy a ŵyr – efallai y cewch chi eich temtio i wirfoddoli eich hun!