Llwybrau, coed, cit newydd, gwaith papur a gwirfoddolwyr anhygoel ym Mryn Ifan

Llwybrau, coed, cit newydd, gwaith papur a gwirfoddolwyr anhygoel ym Mryn Ifan

Mae Rheolwr Prosiect Bryn Ifan, Dafydd, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ychydig fisoedd prysur iawn o waith tuag at adfer byd natur ar y safle 450 erw yma ger Clynnog Fawr ar ochr ogleddol Pen Llŷn, gan gynnwys y mawndir gwerthfawr, sef Cors y Wlad.

Diolch o galon i'n gwirfoddolwyr

Rydyn ni wedi cael ychydig fisoedd prysur ar ddechrau 2026 ac ni fyddem wedi gallu gwneud llawer heb y gwaith a'r gefnogaeth wych gan y gwirfoddolwyr ym Mryn Ifan. Rydyn ni wedi clirio llwybrau, ffensio, arolygu, tynnu coed ymledol, agor ardaloedd llawn prysgwydd a gwneud gwaith cynnal a chadw a gwelliannau cyffredinol ar y fferm. Er gwaethaf tywydd heriol a rhai dyddiau hir, mae'r ysbryd bob amser yn uchel ac mae'r gwirfoddolwyr yn dal i ddod yn ôl!

Volunteers in hi-vis and protective clothing working in woodland

NWWT 

Mae gennym ni lwybr newydd!

Mae hawliau tramwy cyhoeddus yn rhan bwysig o gefn gwlad, gan ddarparu mynediad i gerddwyr, beicwyr a phobl ar geffylau i archwilio tirweddau gwledig a chysylltu â byd natur. Dros amser, fodd bynnag, gall y llwybrau ordyfu, cael eu difrodi, neu ddod yn anodd cerdded arnyn nhw oherwydd newid defnydd tir, diffyg cynnal a chadw, neu brosesau naturiol. Mae gwella ac ailagor y llwybrau yma’n helpu i adfer mynediad wrth gefnogi cymunedau lleol a'r amgylchedd ehangach. Mae'r llwybrau yma’n chwarae rhan bwysig wrth annog hamdden awyr agored, gwella iechyd y cyhoedd, a helpu pobl i ddatblygu cysylltiad cryfach â byd natur. 

Dyma oedd yr achos gyda llwybr marchogaeth sy'n mynd drwy ein gwlybdir ni, Cors y Wlad, ac yn gadael ein tir ni cyn parhau drwy'r blanhigfa sbriws Sitca i lawr i Fwlch Derwin. Mae'r llwybr yma wedi bod yn amhosib cerdded arno ers blynyddoedd lawer ond drwy weithio gyda swyddog hawliau tramwy Cyngor Gwynedd a'r AHNE, rydyn ni wedi llwyddo i ailagor y llwybr yma sy'n ymestyn ychydig o dan 1.5 milltir o'r lôn islaw Bwlch Mawr i Fwlch Derwin. 

Mae'r cyffyrddiadau olaf, sef gosod arwyddion y llwybr a phontydd yn eu lle, ar y gweill bellach diolch i gyllid gan yr AHNE. Mae'r llwybr yma nid yn unig yn gwella mynediad i Fryn Ifan a ffin yr AHNE ond gobeithio y bydd hefyd yn gweithio fel coridor i löyn byw britheg y gors gysylltu â safleoedd addas cyfagos.

Rydyn ni wedi bod yn cael gwared ar sbriws Sitca

Ar draws llawer o dirweddau yn y DU, mae fforestydd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi bioamrywiaeth, sefydlogi priddoedd, a storio carbon. Fodd bynnag, nid yw pob coeden o fudd i'r ecosystem mae’n tyfu ynddi. Mewn rhai amgylcheddau sensitif, gall rhywogaethau gafodd eu plannu’n wreiddiol ar gyfer coedwigaeth fasnachol ymledu y tu hwnt i'r ardaloedd lle’r oedd bwriad iddyn nhw sefydlu, a dechrau bygwth cynefinoedd naturiol gwerthfawr. 

Mae sbriws Sitca wedi cael eu plannu'n eang ledled y DU ar gyfer cynhyrchu pren oherwydd eu bod yn tyfu’n gyflym ac yn addas i amrywiaeth o briddoedd a hinsoddau. Er bod y rhinweddau yma’n eu gwneud yn werthfawr iawn ar gyfer coedwigaeth, maen nhw hefyd yn eu galluogi i sefydlu mewn tirweddau cyfagos. Gall hadau deithio pellteroedd sylweddol ar y gwynt, gan alluogi i goed ifanc sefydlu mewn cynefinoedd agored cyfagos. Dros amser, gall y coed yma sy’n hunanhadu ffurfio clystyrau trwchus y tu allan i ffiniau planhigfeydd. Pan fydd hyn yn digwydd mewn cynefinoedd sensitif fel rhostiroedd, mawndiroedd a glaswelltiroedd cyfoethog o ran rhywogaethau, mae’n gallu newid yr amgylchedd naturiol yn sylweddol. 

Rydyn ni wedi bod yn cael gwared ar goed sydd wedi hadu yng Nghors y Wlad wrth ymyl y blanhigfa ond hefyd yn uchel ger copa Bwlch Mawr!

Ymweliad gan fyfyrwyr o Brosiect Cadwraeth Cynefinoedd Prifysgol Bangor

Daeth y grŵp ar ymweliad â Bryn Ifan ar ddydd Sadwrn gwlyb a gwyntog iawn ym mis Chwefror. Er gwaethaf y tywydd, roedd pawb mewn hwyliau da ac roedd y gweithlu'n wych. Fe gyflawnwyd llawer: torri a chlirio prysgwydd o amgylch ardal lle bydd ymwelwyr â Bryn Ifan yn gallu parcio a cherdded i mewn i'r safle; gosod postyn giât newydd yn ei le; clirio coed sydd wedi syrthio ar ffens ffin a thorri eithin yn ôl er mwyn iddo flodeuo'n fwy toreithiog.

Mae gweithgorau cadwraeth prifysgol yn ffordd gynyddol bwysig i fyfyrwyr ymgysylltu â gwarchod yr amgylchedd ac ennill profiad ymarferol mewn rheoli cynefinoedd ar yr un pryd. Hefyd mae gweithgorau prifysgol yn darparu cefnogaeth bwysig i brosiectau cadwraeth. Mae llawer o warchodfeydd natur a mentrau adfer cynefinoedd yn dibynnu'n fawr ar wirfoddolwyr oherwydd adnoddau cyfyngedig.

Mae cynnwys myfyrwyr mewn gwaith cadwraeth yn helpu i greu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ac eiriolwyr amgylcheddol.

Quad bike and trailer loaded with various reserve management tools with blue sky and white clouds in background

NWWT 

Cit newydd diolch i Plantlife a Llywodraeth Cymru

Rydyn ni wedi cael rhai darnau newydd o git diolch i gyllid drwy brosiect Cronfa Rhwydweithiau Natur Glaswelltiroedd Gwydn Plantlife (sy’n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru a’i chyflwyno gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol). Fe wnaethon ni brynu gwasgarwr hadau, rholer ATV, trelar, basgedi i'w rhoi ar ein beic cwad yn ogystal ag offer cynaeafu gwair ar gyfer y tractor bach. Bydd yr holl offer newydd yma’n cael ei ddefnyddio i helpu i ofalu am ein dolydd blodau gwyllt.

A nawr - y gwaith papur!

Mae'r gwaith yn parhau i gael y caniatâd sydd arnom ni ei angen i allu gwneud ein gwaith plannu coed ym Mryn Ifan. Er gwaethaf yr holl heriau rydyn ni wedi'u hwynebu, rydyn ni'n dechrau gweld golau ym mhen draw’r twnnel! Er bod y gweithdrefnau yma’n eithaf cymhleth, maen nhw'n helpu i sicrhau bod plannu coed yn cael ei wneud yn gyfrifol ac yn y lleoliadau cywir. Er bod y broses yn cymryd amser, mae'n gam pwysig wrth gyflawni prosiect creu coetir cadarn, cynaliadwy ac wedi’i gynllunio’n dda.

Hwyl fawr am y tro, yn ôl at yr holl waith hwyliog ar ganiatâd i blannu coed!