Teyrnged i Jean Robertson

Teyrnged i Jean Robertson

Roedd ein staff a gwirfoddolwyr yn drist iawn o glywed am farwolaeth ddiweddar Jean Robertson, aelod annwyl o Gangen Dyffryn Conwy o'r Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru y bydd chwith mawr ar ei hôl. Bydd ei chyfraniadau fel gwirfoddolwr a ffrind yn cael eu cofio'n gynnes gan bawb oedd yn ei hadnabod.

Ymunodd Jean â phwyllgor Cangen Dyffryn Conwy yr Ymddiriedolaeth yng nghanol y 1990au ac, ar ôl ychydig flynyddoedd, daeth yn Gadeirydd. Wedyn bu'n arweinydd gweithgar ac effeithiol i'r grŵp am y 15 mlynedd nesaf, gyda chyfnod byr fel Trysorydd ychydig cyn hynny ac am ychydig flynyddoedd ar ôl rhoi'r gorau iddi. Roedd hi'n nodedig am roi croeso cyfeillgar i bawb, boed yn y sgyrsiau dan do ym Mae Penrhyn neu ar un o'r teithiau cerdded blodau gwyllt lleol roedd hi'n eu harwain yn ystod misoedd yr haf. Roedd ei gwybodaeth eang am blanhigion ynghyd â'i gwybodaeth am yr ardal leol bob amser yn gwneud y rhain yn addysgiadol, yn ddiddorol, ac yn aml, yn llawn hiwmor.

Roedd hi'n drefnydd perffaith ac yn sicrhau bod y rhan bwysicaf o bartïon Nadolig y gangen wedi'i threfnu - y bwyd! Roedd ganddi blatiau papur, lliain bwrdd llawen a rhestrau. Ac fel hud roedd yr aelodau'n cyrraedd gyda quiches, platiau o frechdanau, cacennau a Duw a ŵyr beth arall!

Jean Roberston

Jean Robertson

Fe weithiodd Penny, ein Swyddog Masnachu ni, yn agos gyda Jean pan oedd hi'n brif wirfoddolwr yn ein siop ni ar y Gogarth. Roedd ei hymroddiad, ei gwaith caled, a'i pharodrwydd hi i fynd yr ail filltir bob amser yn gwbl arbennig. Doedd dim ots beth oedd y tywydd, roedd yn arfer mynd i fyny'r Gogarth i sicrhau bod y siop ar agor ac yn gweithio'n effeithlon. Ar ôl i Jean ymddeol, fe ddangosodd ymweliadau â'i chartref ochr arall iddi. Roedd ei chreiriau o bob cwr o'r byd yn dweud am ei blynyddoedd iau pan oedd hi'n teithio llawer, a chymaint roedd hi'n mwynhau deifio sgwba.

Bydd colled fawr ar ôl Jean, ac mae ein meddyliau ni gyda'i theulu, yr oedd hi'n siarad amdanyn nhw'n aml.

Bydd Gwasanaeth Coffa i ddathlu bywyd Jean yn Eglwys y Santes Fair, Conwy ar ddydd Gwener, 15fed Awst am 2:00 p.m.

Diolch i Mark Sheridan, Jill Tattershall a Penny Garnett am eu hatgofion hoffus am Jean.