Yr Arolwg Natur Mawr

Action blue tits

Blue tits on suet block © Nicholas Watts, Vine House Farm Bird Food

Yr Arolwg Natur Mawr

(Mae'r arolwg yn cael ei adnewyddu! Dewch yn ôl eto cyn bo hir.)

Cwblhewch yr arolwg yma heddiw!

Croeso i’r Arolwg Natur Mawr!  Dyma’r arolwg mwyaf o bobl ac natur tros Gymru, Yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, a’r Ymddiriedolaethau Natur ar draws y DU, eisiau clywed eich barn chi am rai o’r cwestiynau mwyaf sy’n ymwneud â byd natur a’n rôl ni wrth ofalu amdano.

🌍 Pa mor aml ydych chi’n mynd allan i fyd natur, os o gwbl?
🌍 Ydi byd natur yn bwysig i chi? Os felly, pa mor bwysig?
🌍 Pa rôl, os o gwbl, ddylai pobl, busnes a’r llywodraeth ei chwarae wrth reoli byd natur?

(Mae'r arolwg yn cael ei adnewyddu! Dewch yn ôl eto cyn bo hir.)

Cwblhewch yr arolwg eto os ydych chi wedi ei gwblhau o'r blaen. Mae hyn yn ein helpu i weld sut mae barn y cyhoedd yn newid dros amser.

Beth yw pwrpas yr arolwg?

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn cynnal yr arolwg yma i gael gwybod beth mae pobl yn y DU yn ei feddwl mewn gwirionedd am fyd natur a sut dylem ni, fel cymdeithas, ei warchod. Bydd y canlyniadau hefyd yn helpu'r Ymddiriedolaethau Natur i ddwyn y llywodraeth i gyfrif dros ei pholisïau a'i blaenoriaethau amgylcheddol. Er enghraifft oeddech chi’n gwybod bod.

  • 84% o gyhoedd y DU wedi cymryd o leiaf un cam gweithredu dros natur a hinsawdd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf - ydych chi'n un ohonyn nhw?
  • 93% o gyhoedd y DU yn credu bod naill ai colli natur, newid hinsawdd, neu'r ddau, yn fygythiadau difrifol i ddynoliaeth - ydych chi'n cytuno?
  • Mae llygredd, newid yn yr hinsawdd a threfoli yn cael eu hystyried fel y prif fygythiadau i fyd natur ymhlith y cyhoedd - beth ydych chi'n ei feddwl?

Rydyn ni'n angerddol am rymuso pobl i weithredu dros fyd natur. Lleisiwch eich barn ar y materion pwysig yma drwy gwblhau'r arolwg heddiw!

(Mae'r arolwg yn cael ei adnewyddu! Dewch yn ôl eto cyn bo hir.)