Er cof annwyl am Paul Day

Er cof annwyl am Paul Day

Gyda thristwch mawr rydym yn adrodd am farwolaeth Paul Day ar 27 Awst 2025. Yn aelod ers amser maith o'n Pwyllgor Cadwraeth (Dwyrain) ac yn gadwraethwr ymroddedig oedd yn gyfarwydd i lawer ledled Gogledd Cymru a thu hwnt, bydd colled fawr ar ôl Paul ymhlith pawb oedd yn ei adnabod.

Graddiodd o Goleg Prifysgol Llundain ac wedyn cyrhaeddodd Paul Ogledd Ddwyrain Cymru ar ddiwedd y 1970au, gan weithio i'r Cyngor Cadwraeth Natur o'i swyddfa yn yr Wyddgrug. Aeth ymlaen i weithio i'w olynydd, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) ac wedyn, am gyfnod byr, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), nes iddo ymddeol yn 2014.

Roedd ei wybodaeth am fywyd gwyllt Gogledd Cymru, gan gynnwys Aber Afon Dyfrdwy, fel gwyddoniadur. Ni anghofiodd erioed hanes yr holl Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yr oedd yn gyfrifol amdanynt, gan gynnwys y gwaith achos, y bobl ac, wrth gwrs, y bywyd gwyllt. Roedd ganddo berthynas dda gyda pherchnogion tir a datblygwyr hyd yn oed pan nad oeddent yn gweld llygad yn llygad. Roedd yn cael ei barchu ganddynt ac efallai mai'r enghraifft orau o hyn oedd ei berthynas hir â Phorthladd Mostyn.

Paul Day photographing plants

Paul Day ©

Mae Paul yn gadael gwaddol cadwraethol gwych yng Ngogledd Cymru. Un enghraifft dda o hyn yw'r gwaith a wnaeth ar ailhysbysu SoDdGA Aber Afon Dyfrdwy, gan ategu ei ddynodiad fel Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Gweithiodd yn ddiflino i gynnwys tir â chysylltiadau swyddogaethol o fewn y SoDdGA; hynny yw, ardaloedd i mewn o'r morglawdd ond a ddefnyddir gan adar yr aber, yn enwedig adar rhydio ac adar gwyllt. Profodd ei ddadleuon i gynnwys y tir hwn o fewn y dynodiad yn gymhellol i Gyngor CCGC braidd yn amheus, a oedd â'r cyfrifoldeb o gymeradwyo a chadarnhau'r SoDdGA. Ni ddilynwyd y dull hwn o weithredu ar ochr Lloegr i’r aber, a oedd y tu allan i gylch gwaith CCGC, ac mae'n parhau i fod heb ei warchod cystal hyd heddiw.

Gwaith caled parhaus Paul a arweiniodd at CCGC yn comisiynu arolygon ar gyfer y Fadfall Ddŵr Gribog ledled Gogledd Ddwyrain Cymru, gan arwain at ddarganfod llawer o boblogaethau o’r Fadfall, rhai gan Paul ei hun. Fe fu hyn yn sail uniongyrchol i ddynodi ardaloedd cadwraeth allweddol fel ACA Mynydd Helygain, ACA Safleoedd Madfallod Dŵr Glannau Dyfrdwy a Bwcle ac ACA Safle Madfallod Dŵr Johnstown. Arweiniodd ei waith gyda chydweithwyr yn CCGC a CNC at greu canllawiau dethol SoDdGAoedd Madfallod Dŵr Cribog 2021 ac, o ganlyniad, cydnabod bod tirwedd pyllau Gogledd Ddwyrain Cymru o bwys cenedlaethol.

Paul Day on the Dee Estuary

Paul Day on the Dee Estuary ©

Drwy gydol ei yrfa, rhoddodd Paul gyngor ac arweiniad i lawer o ecolegwyr brwd a sefydliadau amgylcheddol, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, lle bu'n aelod o'r Pwyllgor Cadwraeth (Dwyrain) am dros 25 mlynedd. Ar ôl ymddeol, cymerodd Paul hefyd rôl Ysgrifennydd Grŵp Cadwraeth Aber Afon Dyfrdwy (DECG), Elusen Gofrestredig sydd â’r nod o warchod Aber Afon Dyfrdwy a'i fflora a'i ffawna oherwydd eu gwerth cynhenid ac er budd y cyhoedd. Profodd ei wybodaeth ddofn am Aber Afon Dyfrdwy, ei gwaith achos a'i chadwraeth, yn amhrisiadwy i DECG, a bydd colled fawr ar ôl y wybodaeth yr oedd Paul yn ei chyfrannu at waith y grŵp. Arloesodd Paul gyda dulliau i sicrhau rheolaeth a monitro hirdymor gyda digon o adnoddau ar safleoedd bioamrywiaeth heb ddibynnu ar gyllid y llywodraeth a daeth yn aelod o fwrdd Building Wildlife, elusen sy'n defnyddio cyllid gan ddatblygwyr i helpu i greu a rheoli safleoedd ar gyfer bywyd gwyllt yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Doedd Paul ddim y teip i orffen ei waith am 5pm a thrwy gydol ei yrfa, yn ogystal ag yn ei ymddeoliad, byddai'n hapus i gynnal arolygon o rywogaethau fel madfallod dŵr ac ystlumod ar ryw adeg o'r dydd ... neu'r nos, a beth bynnag oedd y tywydd. Yn ogystal â bod yn gofnodwr planhigion a glöynnod byw diwyd, roedd hefyd yn mynd ati’n fisol i gyfrif yr adar ar gyfer yr Arolwg o Adar y Gwlybdiroedd (WeBS) ar Aber Afon Dyfrdwy.

Paul Day at his Retirement Party (2014)

Paul Day at his Retirement Party (2014) ©

Ei waddol parhaol yw diogelu rhwydwaith amrywiol o safleoedd bywyd gwyllt ledled Gogledd Cymru a fydd yn parhau i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau.

Bydd chwith mawr ar ôl Paul ymhlith ei ffrindiau, ei gydweithwyr a’i gydnabod ac mae ein meddyliau ni gyda'i deulu.

David Parker, Cadeirydd DECG: “Roedd Paul yn un o fy ffrindiau hynaf i, yn mynd yn ôl i'r adeg y gwnaethon ni gyfarfod gyntaf ar arolwg bywyd gwyllt a chynefinoedd yn Swydd Henffordd yn 1977. Roedden ni’n eneidiau tebyg, gyda hoffter cyffredin o’r byd naturiol, a byddaf yn ei golli. Cafodd lwyddiant mawr yn ei yrfa broffesiynol, ac mae gan bobl a bywyd gwyllt Gogledd Ddwyrain Cymru lawer i ddiolch iddo amdano.”

Roedden ni’n eneidiau tebyg, gyda hoffter cyffredin o’r byd naturiol, a byddaf yn ei golli.
David Parker, Cadeirydd DECG

Adrian Lloyd Jones: “Byddaf yn colli Paul yn fawr iawn. Roedd ei gyngor, ei gefnogaeth garedig a’i wybodaeth ryfeddol dros 45 mlynedd yn amhrisiadwy i mi ac i eraill yn yr Ymddiriedolaeth. Mae safleoedd bywyd gwyllt, nodweddion a phoblogaethau a allai fod wedi aros yn gwbl anhysbys a heb eu gwarchod pe na bai Paul wedi tynnu ein sylw ni atyn nhw.”

Bydd angladd Paul am 11am ar ddydd Mawrth 23ain Medi ym Mharc Coffa ac Amlosgfa Memoria Sir y Fflint, Lôn Oakenholt, Llaneurgain, Yr Wyddgrug CH7 6DF.

Mae tudalen rhoddion er cof am Paul ar gael yma