Teyrnged i Enid Griffith

Teyrnged i Enid Griffith

Roedd staff a gwirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth Natur yn drist iawn o glywed am farwolaeth Enid Griffith yn ddiweddar, un o hoelion wyth grŵp gwirfoddolwyr Arfon Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ers blynyddoedd lawer.

Gyda thristwch yr ydym yn nodi marwolaeth Enid Griffith, aelod hynaf Grŵp Adar Bangor, yn 102 oed.

A hithau'n athrawes o ran gwaith ac anian, cafodd Enid ddylanwad mawr ar sawl cenhedlaeth o ddisgyblion yn sgil ei swydd yn addysgu Bioleg yn Ysgol Friars ym Mangor. Roedd ganddi ddiddordeb brwd mewn ystod eang o weithgareddau a sefydliadau, yn enwedig y rhai a oedd yn amgyffred y byd naturiol. Roedd hi'n ffigwr cyfarwydd mewn sgyrsiau a chyfarfodydd maes Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yr RSPB, Cymdeithas Adaryddol Cambria, y Gymdeithas Gerddi Alpaidd a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rhoddodd lawer o gefnogaeth i Gyfeillion Gardd Fotaneg Treborth ac roedd yn aelod ffyddlon o Grŵp Adar Bangor, gan fynd i ddarlithoedd pan oedd hi ymhell yn ei nawdegau.

Enid Griffith

Roedd Enid yn hael ac yn ofalus o bawb, ac yn dangos hynny mewn ffyrdd caredig bob dydd yn ei gwaith ac ar ôl ymddeol. Bu hi'n gweithio'n ddiflino gyda'r Soroptimyddion ac yn neilltuo ei hamser a’i harian i elusennau gan gynnwys y Bird Group a'r holl sefydliadau eraill a nodir uchod.

Roedd ganddi gymhelliant, egni a brwdfrydedd rhyfeddol. Os byddai aderyn prin yn ymddangos, byddai Enid yno'n brydlon i'w weld. Teithiodd bellteroedd sylweddol i weld adar prin ac roedd ei gwybodaeth am adar lleol a safleoedd gwylio adar yn rhagorol. Roedd mynd ar y teithiau pell hyn hyd yn oed yn fwy rhyfeddol ac ystyried ei bod hi’n gofalu am ei gŵr a fu'n wael iawn am flynyddoedd lawer. Daeth yn enwog am ei theithiau undydd i lu o gyrchfannau Ewropeaidd, rhwng cynifer o ymrwymiadau eraill. 102 o flynyddoedd o fywyd llawn cyffro, llawn pwrpas, caredigrwydd a haelioni.

Dywedodd Kate Gibbs, cyn Ysgrifennydd Cangen Arfon Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

Pan symudodd Geoff a minnau yn ôl i Ogledd Cymru yn 2001 a dechrau mynd i gyfarfodydd Cangen Arfon, cawsom groeso cynnes gan Enid yn syth. Ni chymerodd lawer o amser iddi bwyso arnom i ymuno â'r pwyllgor. Erbyn hyn roedd hi wedi bod yn ysgrifennydd am 20 mlynedd. Ar y dechrau, yn groes i’r graen, daethom yn fwy o ran o’r Gangen a gweld bod Enid mor gymwynasgar, yn adnabod pobl a lleoedd ac yn gallu awgrymu teithiau i ni. Cynhaliwyd cyfarfodydd pwyllgor y gangen yn nhŷ Enid ac ar ôl y cyfarfod ffurfiol roedd hi’n rhannu cacennau a bisgedi â phawb. ‘Cymerwch fwy’ oedd ei geiriau o hyd. Croesawodd Enid y newidiadau angenrheidiol, ac mae'r cyfarfodydd misol ar y cyd â Grŵp Adar Bangor wedi dod yn nodweddion parhaol. Cefnogodd ein holl ymdrechion codi arian ac roedd yn boblogaidd iawn pan oeddem yn casglu arian yn Morrisons ym Mangor. Roedd cymaint o bobl yn ei hadnabod, yn stopio i sgwrsio ac yn rhoi rhywbeth yn ein bwcedi casglu. Roedd Enid bob amser yn awyddus bod gwybodaeth, posteri yn y cuddfannau yng Ngwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen a'r cyflwyniadau mewn cyfarfodydd yn cael eu gwneud yn Gymraeg ac yn Saesneg, a chefnogodd fi i ddysgu'r iaith. Roedd Enid bob amser yn garedig, yn gymwynasgar ac yn annog eraill yn frwdfrydig i werthfawrogi a gofalu am fywyd gwyllt. Roedd hi'n un o hoelion wyth Cangen Arfon am ddegawdau lawer ac yn ffrind mawr i bob un ohonom.   

(Teyrnged gan Nigel Brown, darlithydd wedi ymddeol mewn botaneg ac ecoleg ym Mhrifysgol Bangor, cyn Guradur Gardd Fotaneg Treborth).