Prosiect SIARC wedi'i enwi'n noddwr swyddogol crysau Clwb Pêl-droed Pwllheli ar gyfer tymor 2025/26

Prosiect SIARC wedi'i enwi'n noddwr swyddogol crysau Clwb Pêl-droed Pwllheli ar gyfer tymor 2025/26

Mae Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities) yn falch o ddod yn bartner i Glwb Pêl-droed Pwllheli (CPD Pwllheli) fel noddwr swyddogol eu crysau ar gyfer tymor pêl-droed 2025/26. Mae'r cydweithrediad arbennig hwn yn dwyn ynghyd brosiect morol arloesol a chlwb pêl-droed sy'n canolbwyntio ar y gymuned ac sydd â chysylltiad cryf â threftadaeth leol.

Mae Ymddiridolaeth Natur Gogledd yn un o bartneriaid Prosiect SIARC. Wedi'i sefydlu yn 2021, mae Prosiect SIARC yn gydweithrediad aml-bartner dan arweiniad ZSL (Cymdeithas Sŵolegol Llundain) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Ei nod yw diogelu'r rhywogaethau prin o siarcod a morgathod (grŵp a elwir yn elasmobranciaid) sy'n byw oddi ar arfordir Cymru ac sy'n rhan annatod o dreftadaeth naturiol y wlad. Drwy rywogaethau pwysig sydd dan fygythiad, fel y maelgi, mae'r prosiect yn cydweithio â physgotwyr, dinasyddion-wyddonwyr, ysgolion a chymunedau lleol i nodi a thynnu rhwystrau sy’n atal mynediad at yr arfordir a'r môr, a meithrin ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o'r byd cyfoethog dan y dŵr ar hyd arfordir Cymru. 

CPD Pwllheli FC and Project SIARC holding sponsored football shirt

© Zoological Society of London / Cymdeithas Sŵolegol Llundain 

Sefydlwyd Clwb Pêl-droed Pwllheli ym 1879 ac mae'n chwarae ar y Rec ym Mhwllheli, gan gystadlu yng Nghynghrair y Gogledd Ardal (Haen 3) ac mae ganddo lu o gefnogwyr brwd, dwyieithog a rhaglenni ieuenctid a chymunedol helaeth.

“Rydym wrth ein bodd i gael Prosiect SIARC yn bartner i ni,” meddai Carl Jones, Rheolwr Clwb Pêl-droed Pwllheli. “Mae eu gwaith yn cysylltu cymunedau â chadwraeth forol yn adlewyrchu ein cenhadaeth ninnau sef uno pobl drwy bêl-droed.”

Bydd partneriaeth Prosiect SIARC a CPD Pwllheli yn cryfhau cysylltiadau ac yn cefnogi cydweithio. 

“Bydd nawdd gan Brosiect SIARC yn cael effaith gadarnhaol ar Glwb Pêl-droed Pwllheli mewn sawl ffordd. “Yn ariannol, bydd yn darparu cefnogaeth werthfawr ar gyfer pethau hanfodol fel citiau, costau teithio, rhaglenni datblygu ieuenctid, a gwelliannau i gyfleusterau,” meddai Gwern ap Rhisiart, aelod o bwyllgor Clwb Pêl-droed Pwllheli. “Y tu hwnt i gyllid, bydd y bartneriaeth yn cryfhau ymgysylltiad â’r gymuned ac yn hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol drwy gysylltu’r clwb â mentrau cadwraeth forol, gan atgyfnerthu hunaniaeth leol a gofalu am gynefinoedd arfordirol cyfagos. Bydd gweithgareddau ar y cyd fel digwyddiadau dysgu a gwyddoniaeth yn rhoi hwb i broffil cyhoeddus y clwb, gan feithrin cefnogaeth ehangach. Yn bwysig, bydd y nawdd hefyd yn creu cyfleoedd addysg i chwaraewyr ifanc, gan roi mynediad iddynt i weithdai morol a phrofiadau cyfoethog sydd i’w cael y tu hwnt i'r cae pêl-droed.

Mae Prosiect SIARC yn gweithio ar draws arfordir Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a'r Sarnau ynghyd â chymunedau lleol a sefydliadau partner. Drwy gyd-ddylunio, nod y prosiect yw nodi a dechrau mynd i'r afael â rhwystrau rhag profi, cael mynediad a dysgu am yr arfordir a'r môr yn lleol. Mae CPD Pwllheli a Phrosiect SIARC wedi treialu nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn 2025 sy'n dod â chwaraeon, arfordir a’r môr ynghyd ar gyfer aelodau'r clwb a'r gymuned ehangach. Hyd yma mae hyn eisoes wedi cynnwys gweithgareddau Prosiect SIARC yn Nhwrnamaint yr Ieuenctid blynyddol a wersyll gwyliau yn ystod gwyliau'r ysgol.   

“Mae’r nawdd hwn yn fwy na logo ar lewys chwaraewyr – mae’n ddathliad o dreftadaeth a chymuned arfordirol. Mae'n gysylltiad rhwng pobl a'r byd rhyfeddol sydd o dan y tonnau dafliad carreg o’n clwb. Mae CPD Pwllheli yn ganolfan gymunedol hynod bwysig ac angerddol ym Mhwllheli, gan ddod â phobl ynghyd trwy ei weithgareddau a'i raglenni,” meddai Swyddog Cymunedol Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Prosiect SIARC, Hannah Lee-Williams, “Rydym yn falch o gefnogi CPD Pwllheli wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ddathlu bywyd morol Cymru, y diwylliant lleol a’r Gymraeg. Dyma ddechrau rhywbeth cyffrous iawn, ac rydym yn awyddus i weithio gyda thimau chwaraeon, clybiau gweithgareddau, cymunedau a chynghorwyr ar draws Pen Llŷn i nodi ffyrdd o gyd-greu cyfleoedd newydd i sicrhau y gall pawb brofi'r hyn sydd gan yr arfordir anhygoel hwn i'w gynnig mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.

Fel prosiect partneriaeth, mae Prosiect SIARC yn cael ei gyflawni gan sawl partner cyflawni a chydweithredol. Fel rhan o Brosiect SIARC, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio'n agos gyda grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr i gynyddu cofnodion o gasys wyau siarcod a morgathod a ddarganfyddir ledled Gogledd Cymru i'r Shark Trust. 

“Rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o’r bartneriaeth gyffrous hon,” meddai Nia Haf Jones o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru. “Mae cysylltu pobl â’r môr trwy brofiadau cymunedol a rennir wrth wraidd ein holl waith, felly mae’n wych gallu cydweithio â CPD Pwllheli i wneud gwaith ymarferol ar ymchwil i siarcod a morgathod a chymryd rhan yn Great Eggcase Hunt y Shark Trust.”

Clywch fwy am y bartneriaeth ym Môr a Thonnau Pwllheli ar 15fed Tachwedd yn Neuadd Dwyfor https://neuadddwyfor.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873679000 

Roedd y gwaith hwn yn bosibl diolch i gefnogaeth Cronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac On the Edge.

Ynglŷn â'r Partneriaid

Mae Clwb Pêl-droed Pwllheli, a sefydlwyd ym mis Tachwedd 1879, yn gonglfaen i gymuned Pwllheli. Mae ymrwymiad y clwb wedi para dros ddegawdau ac yn cwmpasu timau ieuenctid, sgwadiau dynion a merched, a ffocws ar feithrin talent lleol ac ymgysylltu â’r gymuned. 

Mae Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities) yn brosiect amlddisgyblaethol sy'n gweithredu ar draws Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Cymru, gan gynnwys rhanbarthau arfordirol o amgylch Gogledd Cymru. Gan gydweithio â chymunedau, ysgolion, dinasyddion-wyddonwyr, a physgotwyr, mae'r prosiect yn gweithio i gyd-greu dulliau i gael gwared ar rwystrau rhag mynediad at yr arfordir a'r môr, gyda'r nod o lenwi bylchau hanfodol yn y data ar siarcod a morgathod trwy gael pysgotwyr a gwyddonwyr i gydweithio, ac mae wedi cofnodi miloedd o gasys wyau siarcod a morgathod ac wedi dogfennu ystod eang o rywogaethau trwy luniau camera tanddwr SIARC | Sharks Inspiring Action and Research with Communities. 

Mae Prosiect SIARC yn brosiect amlddisgyblaethol, sy'n cyfuno gwyddorau cymdeithasol a biolegol. Fe'i harweinir gan Gymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a chaiff ei gyflwyno mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Blue Abacus, Minorities in Shark Sciences, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Shark Trust a Phrifysgol Abertawe ochr yn ochr â rhwydwaith eang o bartneriaid cydweithredol. 

Wedi'i sefydlu ym 1826, mae ZSL yn elusen gadwraeth ryngwladol, wedi'i gyrru gan wyddoniaeth, yn gweithio i adfer bywyd gwyllt yn y DU ac o gwmpas y byd; trwy amddiffyn rhywogaethau hanfodol, adfer ecosystemau, helpu pobl a bywyd gwyllt i fyw gyda'i gilydd ac ysbrydoli cefnogaeth dros fyd natur. Drwy ein sŵau cadwraeth blaenllaw, Llundain a Whipsnade, rydym yn dod â phobl yn agosach at natur ac yn defnyddio ein harbenigedd i amddiffyn bywyd gwyllt heddiw, gan ysbrydoli cariad gydol oes at anifeiliaid yng nghadwraethwyr y dyfodol. Ewch i www.zsl.org am ragor o wybodaeth.

WWW:  Prosiect SIARCProject SIARC

Facebook: Prosiect SIARCZSLMarine

Instagram: @projectsiarc@officialzsl

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar flaen y gad yn yr her o sicrhau y gall Cymru oroesi a ffynnu yn wyneb yr argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd - gan gynghori a rheoleiddio diwydiant, ac yn gweithio gyda’n partneriaid i wella ansawdd ein dyfroedd, yr aer rydym yn ei anadlu, a’r tir a’r lleoedd arbennig yr ydym yn eu rheoli’n gynaliadwy. O lifogydd i achosion o lygredd, rydym bob amser yn barod i gadw pobl a bywyd gwyllt yn ddiogel rhag effeithiau digwyddiadau amgylcheddol, 24 awr yr wythnos. Rydym yn gwneud pob penderfyniad ar sail tystiolaeth, arbenigedd ein cydweithwyr, a brwdfrydedd y bobl sy’n byw yn y cymunedau yr ydym yn gweithio ochr yn ochr â nhw bob dydd. 

 

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth: www.cyfoethnaturiol.cymru

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Ein gweledigaeth yw 'byd naturiol ffyniannus, gyda bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol yn chwarae rhan werthfawr wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a phobl wedi'u grymuso i weithredu dros natur'. Ni yw'r elusen flaenllaw yng Ngogledd Cymru sy'n ymroddedig yn gyfan gwbl i warchod ein holl gynefinoedd a rhywogaethau, gyda mwy na 10,000 o aelodau. Rydym yn ymgyrchu dros ddiogelu bywyd gwyllt ac yn buddsoddi yn y dyfodol drwy helpu pobl o bob oed i gael gwell gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o fywyd gwyllt. Rydym yn gofalu am 35 o warchodfeydd natur sy'n ymestyn dros 750 hectar. Am ragor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ffoniwch 01248 351541 neu e-bostiwch info@northwaleswildlifetrust.org.uk www.northwaleswildlifetrust.org.uk