Y Môr a Fi!

Y Môr a Fi!

Marine Memories © Peter Williams

Oes gennych chi stori wych am ein moroedd ni a’u bywyd gwyllt rhyfeddol?

Fel rhan o Brosiect Moroedd Byw Cymru, rydyn ni’n casglu atgofion gwyllt a straeon difyr am yr arfordir. Oes gennych chi atgofion morol o’ch plentyndod, straeon rydych chi wedi’u clywed gan eich rhieni neu eich teidiau a’ch neiniau, neu hyd yn oed brofiadau diweddar sy’n aros yn y cof?

Mae’r atgofion yma’n unigryw i bob person neu gymuned ond pur anaml maen nhw’n cael eu hysgrifennu. Wrth i bob cenhedlaeth fynd heibio, mae posib colli atgofion a gall straeon gwych ddiflannu. Rydyn ni eisiau cofrestru ac adrodd y straeon yma er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n diflannu’n llwyr.

Marine Memories

Marine Memories © Peter Williams

Mewn rhai achosion, gallwn eu defnyddio i ymchwilio i sut mae ein moroedd ni wedi newid gydag amser. Mae cadwriaethwyr a gwyddonwyr yn troi mwy a mwy at y gorffennol mewn ymgais i ddod i ddeall ein hamgylchedd ni. Mae gwybodaeth hanesyddol a’r berthynas rhwng cymunedau a’r môr wedi’u cofnodi mewn adroddiadau, disgrifiadau, llyfrau, dogfennau cyfreithiol, data glanio, llyfrau cofnodi, lluniau a phapurau newydd. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu hefyd ar ffurf hanes llafar – atgofion byw heddiw yw cofnodion hanesyddol y dyfodol. 

Mae un o’n hoff gofnodion hanesyddol yn y cyswllt hwn yn cael ei ddisgrifio yn British Zoology (1766) gan Thomas Pennant. Wrth drafod heulforgwn, mae’n nodi “they visited the bays of Caernarvonshire and Anglesea in vast shoals, in the summer of 1756, and a few succeeding years, continuing there only the hot months, for they quitted the coast about Michaelmas, as if cold weather was disagreeable to them”.  A hyd yn oed yn y dyddiau hynny, roedd atgofion lleol yn bwysig. Mae troednodyn ar yr un dudalen yn dweud “some old people say they recollect the same sort of fish visiting these seas in vast numbers about forty years ago”.  Ond dim bellach.   

Byddem wrth ein bodd yn clywed unrhyw straeon neu hanesion am gyfarfod bywyd morol anarferol ar ein harfordir ni – a gweld unrhyw ffotograffau neu fideos sydd gennych chi i’w rhannu! Mwy o wybodaeth am sut i gyfrannu yn: livingseas.wales/cy/rhannu-eich-straeon-mor-gyda-ni/