Plast Off! – Gorffen 2019 fel gwnaethom ei dechrau, gyda sesiwn glanhau traeth cymunedol mawr!

Plast Off! – Gorffen 2019 fel gwnaethom ei dechrau, gyda sesiwn glanhau traeth cymunedol mawr!

Ffarweliwyd â 2019 gyda digwyddiad glanhau traeth ‘Plast Off!’ arall ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Y tro yma, aelodau Fforwm Ieuenctid Gogledd Ddwyrain Cymru oedd yn cynnal y sesiwn, gan drefnu’r logisteg, rhedeg y gweithgareddau a dosbarthu offer. Dyma adroddiad Jacob, 14 oed, ar ddigwyddiadau’r diwrnod.

Roedd y nifer a ddaeth i sesiwn glanhau traeth Plast Off! Porth Trecastell yn dda gyda’r fforwm yn rhannu i 3 thîm gwahanol ar gyfer ei gynnal. Fe wnaeth Zak ac Oliver gynnal teithiau natur i addysgu’r cyhoedd am yr amgylchedd, a phan nad oedden nhw’n arwain y teithiau, roedden nhw’n helpu gyda glanhau’r traeth. Fe wnaeth Ellie gynnal gêm “Gwobr Bob Tro” i godi arian ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol a chododd £32, tra oedd Luke ac Abi yn didoli’r sbwriel yn fagiau o ddeunyddiau i’w hailgylchu a gwastraff cyffredinol. Roeddwn i a Callum yn gyfrifol am gofrestru pobl ar gyfer ymgyrch Dyfodol Gwyllt ac yn helpu gyda glanhau’r traeth pan oedd hynny’n bosib. Doedd y tywydd ddim yn help mawr ond fe wnaeth pawb eu gorau i gadw’n gynnes a sych a dal ati, gan chwerthin llawer wrth gadw’n brysur.

Roedd Plast Off! 2019 yn llwyddiant. Fe gawsom ni wared ar 76.7kg o sbwriel a chodi llawer mwy o ymwybyddiaeth o faint o sbwriel sydd ar ein harfordir ni. 

Rydyn ni’n gobeithio cynnal mwy o sesiynau glanhau traethau cymunedol mawr fel yr un yma yn y dyfodol, nid dim ond ar Ynys Môn. Cadwch lygad ar dudalen digwyddiadau gwefan YNGC am fwy o wybodaeth: https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/events.

Welwn ni chi ar y traeth!