Gwneud Traciau

Panoramic image of Pwll Du, mountain landscape, sunny day, blue sky, white clouds.

Vicky Buxton

Gwneud Traciau

Gwneud traciau yn Nolgarrog

Mae Gwneud Traciau yn brosiect newydd cyffrous, wedi'i leoli ym mhentref Dolgarrog, yng nghalon Dyffryn Conwy hardd. Mae'r pentref yn adnabyddus am ei orffennol diwydiannol a Thrychineb Argae Eigiau yn 1925. Nod y Prosiect yw cynyddu bioamrywiaeth yn y dirwedd ehangach a chreu llwybrau hygyrch lle gall bywyd gwyllt a phobl ffynnu gyda'i gilydd.

Beth fydd y prosiect yn ei wneud?

  • Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Dolgarrog, bydd y prosiect yn anrhydeddu canmlwyddiant trychineb yr Argae ac yn darparu cyfleoedd i bobl ddysgu mwy am yr hanes, y bywyd gwyllt a’r dirwedd ar garreg eu drws a chysylltu â nhw.
  • Bydd y Prosiect yn creu tirwedd iachach, fwy rhyng-gysylltiedig drwy wella llwybrau a chysylltu tri safle arwyddocaol - Gerddi Coffa Porthllwyd, Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) Coed Dolgarrog a Phwll Du (o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Eryri).
  • Byddwn yn ymgysylltu â'r gymuned leol ac ehangach drwy weithgareddau creadigol, digwyddiadau, gweithdai a theithiau cerdded tywys ar thema bywyd gwyllt.
  • Byddwn yn datblygu grŵp cadwraeth gwirfoddol lleol. Gan gyfarfod yn wythnosol, bydd y grŵp yn cynyddu bioamrywiaeth ac yn adfer cynefinoedd yn yr ardal leol.

Oeddech chi'n gwybod?

  • Coed Dolgarrog yw Gwarchodfa Natur Genedlaethol coetir fwyaf (69 hectar) a mwyaf amrywiol Cymru.
  • Mae rhan o'r safle wedi'i chynnwys yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Eryri.       
  • Mae Coed Dolgarrog wedi'i dosbarthu fel "coedwig law dymherus".
  • Mae Coed Dolgarrog yn gartref i fwsoglau sffagnwm, ffyngau, pathewod, ystlumod, adar y coetir, gwyfynod a llawer mwy!

Pwy sy'n rhan o'r prosiect?

Mae Gwneud Traciau yn brosiect partneriaeth rhwng Cyngor Cymuned Dolgarrog ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru. Rydyn ni’n gweithio mewn cydweithrediad â Chyfoeth Naturiol Cymru, R.W.E., a Pharc Cenedlaethol Eryri. Katy Haines yw'r Rheolwr Prosiect a Sue Loughran yw'r Swyddog Prosiect.

Cysylltwch â ni

Sut mae'r prosiect yn cael ei gyllido?

Mae Gwneud Traciau yn brosiect tair blynedd, sy'n rhedeg tan fis Mawrth 2028, wedi'i gyllido gan y Rhaglen Rhwydweithiau Natur. Mae'n cael ei gyflwyno gan y Gronfa Dreftadaeth, ar ran Llywodraeth Cymru.
 

Heritage Lottery Fund & Welsh Government Logo