Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi bywyd gwyllt yn eich gardd yw drwy greu pwll. Mae pyllau'n darparu ffynhonnell werthfawr o ddŵr yfed i adar, draenogod a bywyd gwyllt arall, yn ogystal â chartref i amrywiaeth eang o infertebrata dyfrol.
Mae angen i bwll bywyd gwyllt da gael canol dyfnach ac ochrau bas; fe allwch chi greu traeth cerrig mân hyd yn oed ar hyd un ymyl, i bryfed allu cerdded ac yfed yn ddiogel. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod mannau diogel o amgylch ymylon y pwll i fywyd gwyllt guddio. Gallwch ychwanegu boncyffion neu gerrig mawr, neu adael i laswellt brodorol a phlanhigion ymylol dyfu. Gall brogaod a madfallod dŵr gysgodi yma pan fyddan nhw’n gadael y pwll ond gallu cael mynediad cyflym yn ôl i'r dŵr pan mae angen.
Y peth gwych am greu pwll ydi nad oes angen i chi ryddhau bywyd gwyllt iddo – fe fydd amrywiaeth anhygoel o rywogaethau’n dod o hyd i'ch pwll ar eu pen eu hunain. Yn ogystal â brogaod, llyffantod a madfallod dŵr, efallai y byddwch chi'n synnu pa infertebrata fydd yn dod i fyw yno hefyd!