Peter Cairns/2020VISION
Ymddiriedolaethau Natur Cymru: Ein blaenoriaethau ar gyfer etholiadau'r Senedd
Beth rydyn ni'n galw amdano
Mae etholiadau nesaf y Senedd yn foment hollbwysig i natur yng Nghymru. Rhaid i'r tymor nesaf (2026-30) gyflawni ymrwymiad Cymru i amddiffyn a rheoli 30% o dir, dŵr croyw a môr yn effeithiol erbyn 2030.
Mae natur yng Nghymru yn dirywio, gydag 1 o bob 5 rhywogaeth yn diflannu - a heb weithredu ar raddfa fawr ac ar gyflymder, bydd y golled hon yn parhau, gan beryglu ein cymunedau, ein hiechyd a'n dyfodol. Ond gyda'r arweinyddiaeth gywir, gall hyn fod yn drobwynt ar gyfer adferiad natur.
Rydym yn galw ar ymgeiswyr i roi natur wrth wraidd gwneud penderfyniadau ac ymrwymo i weithredu dros bobl, natur a'r hinsawdd.
Ein blaenoriaethau ar gyfer ymgeiswyr
Pan gaiff ymgeiswyr eu hethol i'r Senedd, mae camau allweddol y gallant eu cymryd i yrru adferiad natur ledled Cymru.
The Manifesto of Welsh Wildlife Trusts: Nature Matters sets out the commitments we'd like to see from Senedd Election candidates this May.
Darllenwch y maniffesto yma
Creu lle
Galluogi ffermwyr
Cryfhau cynllunio
Cynyddu buddsoddiad
Atal llygredd
Bresgripsiynau gwyrdd
Chwifiwch y faner dros natur drwy arddangos ein posteri yn eich cymuned leol. Boed hynny'n ofod cymunedol, eich siop leol neu hyd yn oed ffenestr eich ystafell fyw!
Lawrlwythwch eich posteri am ddim yma
Dysgu mwy am Etholiad y Senedd
Paratowch ar gyfer Etholiad y Senedd, a chwifiwch y faner dros natur ym mis Mai.
Darllenwch Faniffesto Ymddiriedolaethau Natur Cymru: Mae Natur yn Hanfodol
Darllenwch yr ymrwymiadau yr hoffem eu gweld gan ymgeiswyr Etholiad y Senedd ym mis Mai
Sgoriwch eich ymgeiswyr
Hoffem wybod pa mor dda mae eich ymgeiswyr yn gwneud ar bwnc natur a hinsawdd - gallwch roi sgôr boddhad iddynt!
Os ydych chi wedi cael sgwrs neu wedi cwrdd â'ch ymgeiswyr, dewiswch yr wyneb sy'n cynrychioli orau pa mor ddifrifol rydych chi'n teimlo eu bod nhw'n cymryd yr argyfyngau natur a hinsawdd. Gallwch hefyd gynnwys mwy o fanylion a throsolwg o'r wybodaeth a rannwyd ganddynt os ydych chi eisiau.
Byddwn yn diweddaru'r sgôr boddhad cyffredinol yn rheolaidd yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwn.
A yw eich ymgeiswyr yn siarad am gyflwr natur? A yw eu cynlluniau ar gyfer natur a hinsawdd yn gyraeddadwy? A oeddech chi'n fodlon, yn ddifater neu'n anfodlon â'u camau gweithredu dros adferiad natur?
Gweld ffiniau etholaethau'r Senedd a sut i gysylltu â'ch ymgeiswyr
Dysgwch fwy am y Senedd, y broses etholiadol newydd a pham mae hyn mor bwysig i fyd natur ar hyn o bryd...
Pam mae etholiad y Senedd hwn yn bwysig i natur ac i bob un ohonom
Cyn etholiad Senedd 2026, rydym yn archwilio pam mae'r bleidlais hon yn foment hollbwysig i natur ac i ddyfodol Cymru.
Deall y Senedd ac Etholiad 2026
Os ydych yn meddwl beth mae’r Senedd yn ei wneud, sut fydd yr etholiad nesaf yn gweithio, neu beth sydd angen i chi ei wneud i gymryd…