Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 3: Cuddfan Glas y Dorlan

Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 3: Cuddfan Glas y Dorlan

A kingfisher on a tree branch @Jon Hawkins

Cuddfan Glas y Dorlan Spinnies Aberogwen yw’r lle gorau i weld a gwrando ar las y dorlan. Ond pa adar eraill allwch chi eu gweld a gwrando arnyn nhw yma? Yn Rhan 3 ein cyfres 'Cân yr Adar yn Spinnies', rydyn ni’n edrych ar gân a chri yr adar yng Nghuddfan Glas y Dorlan. Mae’r blog hwn yn un o gyfresi a alluogwyd gan gyllid o Gynllun Cymunedau Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan WCVA

Yn Rhan 1 a Rhan 2 ein cyfres, fe fuom yn ymweld â’r Brif Guddfan a’r adar y gallwch chi eu gweld a’u clywed yn ystod eich ymweliad â Gwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen. Gan adael drwy’r brif giât a mynd yn ôl i'r ffordd, os byddwch yn dal ati i gerdded i fyny tuag at y maes parcio byddwch yn dod ar draws y ddwy guddfan nesaf: Cuddfan Glas y Dorlan a Chuddfan Viley. Bydd y rhan yma’n rhoi sylw i Guddfan Glas y Dorlan, llecyn poblogaidd.

Cuddfan Glas y Dorlan

Cuddfan Glas y Dorlan yw’r guddfan gyntaf y byddwch yn dod ar ei thraws wrth i chi gerdded i fyny tuag at y maes parcio, gyda’r giât a’r llwybr ar y chwith i chi’n eich arwain drwy ardal fechan o goetir i’r guddfan honno. Mae'r guddfan yma’n uwch i fyny uwchben y ddaear, felly mae grisiau pren bychain yn arwain iddi. Mae’r guddfan yma’n edrych dros yr un môr-lyn â’r brif guddfan, felly rydych chi’n debygol o weld adar tebyg i’r rhai yn y guddfan honno yn aml, fel y crëyr bach, y crëyr glas a’r gnocell fraith, a llawer o’r adar rhydio gwahanol eraill. Mae'r teclynnau bwydo hefyd yn denu'r adar cân bychain, fel y pilaod.

Photo of the door to the Spinnies Aberogwen Kingfisher Hide. The white sign read Cuddfan "Glas Y Dorlan" Hide

The Kingfisher Hide's Door/Drws Cuddfan Glas y Dorlan @ NWWT Michelle Payne

Wrth gwrs, mae’r guddfan yma’n cael ei henw oherwydd eich bod yn gallu gweld glas y dorlan yma, fel fflach las yn aml wrth iddo wibio ar draws y dŵr. Mae un o'r clwydi yn y guddfan hon wedi'i chynllunio i ddenu glas y dorlan yma er mwyn i chi allu edrych yn agosach arno a thynnu lluniau gwych efallai. Mae glas y dorlan yn gwneud sŵn “cit-tshîs” uchel, siarp a sŵn chwiban “tshiii”.

Photo of a kingfisher perched on a branch

Kingfisher/Glas y Dorlan @ Amy Lewis

Gallwch hefyd weld yr iâr ddŵr a'r wyach fach o'r guddfan hon. Mae ieir dŵr yn creu sain gyddfol, swnllyd neu fetelaidd fel “cyrryc”, “citic”, “cic” neu ryw fath o atal dweud “cic-cicicicic-ic”. Mae gan yr wyach fach drydar nodedig, main fel pe bai’n swnian, “bibibibibibi”, yn ystod ei thymor magu, yn yr haf fel rheol.

Photo of a moorhen. The moorhen is facing towards the camera, its red beak in full view

Moorhen/Iâr ddŵr @ NWWT Daniel Vickers

Photo of a little grebe out on water

Little grebe/Gwyach fach @ Tom Marshall

Mae llawer o’r adar cân rydyn ni wedi sôn amdanyn nhw yn y Brif Guddfan i’w gweld yn y guddfan hon hefyd, yn ogystal â rhai o’r adar y byddwn ni’n sôn amdanyn nhw yng Nghuddfan Viley. Ynghyd â’r adar hyn, efallai y gwelwch chi’r titw cynffon hir yng Nghuddfan Glas y Dorlan. Pur anaml y clywir cân y titw cynffon hir, sy’n drydar meddal. Fel rheol, ei gri fyddwch chi'n ei glywed, “srih-srih-srih” uchel a main ac weithiau “serrr” mwy ffrwydrol a byrlymus, ynghyd â chri sy'n debycach i synau clicio “pt” neu “sep”.

Photo of a long-tailed tit on a tree branch

Long-tailed tit/Titw cynffon hir @ Neil Aldridge

Mae cyfle i weld hwyaid gwyllt o'r guddfan hon yn aml hefyd, naill ai allan ar y dŵr neu'n nythu ar yr ynysoedd bychain o dir. Mae'r gwrywod yn chwibanu’n dawel yn aml, a’r benywod yn gwneud y sain “cwarc, cwarc, cwarc” uchel y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei gysylltu â hwyaid gwyllt.

Photo of two mallard out on water. Both are facing left. The mallard on the left is a male and the mallard on the right is a female

Photo of a male and female mallard/Llun o wryw a benyw hwyaden wyllt @ NWWT Daniel Vickers

Mae hwyaid gwyllt yn gyffredin iawn ac i’w gweld ledled y DU, ond os ydych chi eisiau seibiant bychan o geisio gweld fflach las, gyflym glas y dorlan neu siffrwd symudiad yn y cyrs, wrth i’r iâr ddŵr lechu o’r golwg, mae rhywbeth eithaf braf a heddychlon am wylio’r hwyaid yn arnofio ar y dŵr.

Photo of the view of the Spinnies Aberogwen lagoon from the Kingfisher Hide's windows

View of the lagoon from the Kingfisher Hide/Golygfa o’r môr-lyn o Guddfan Glas y Dorlan @ NWWT Michelle Payne

Yn y rhan nesaf, a rhan olaf, ein cyfres ni, byddwn yn trafod Cuddfan Viley.

BLAENOROL: Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 2 

NESAF: Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 4