Dawnsio yn yr awyr

Dawnsio yn yr awyr

Sparrowhawk © Terry Whittaker/2020VISION

Wrth i ni edrych ymlaen at y gwanwyn, rydym hefyd yn edrych ymlaen at wylio arddangosfeydd adar ysglyfaethus - un o uchafbwyntiau'r tymor.

Mae'n fore hwyr ar ddechrau mis Mawrth ac rydw i’n sefyll ar grib uchel, yn edrych dros ehangder o goedwig sbriws Sitka werdd dywyll, gyda chlytiau o larwydd yma ac acw, yn gwisgo eu nodwyddau gaeaf cringoch o hyd. Mae haul cynnar y gwanwyn yn dechrau tynnu'r oerfel o'r aer ac mae un neu ddau o fwncathod lleol yn galw o'r coed islaw.

Gwylio'r ysbryd llwyd

Yn sydyn, mae haid o ysguthanod yn ffrwydro o gopaon y coed. Mae fy llygad yn cael ei ddenu at ffurf llwyd a gwyn gwalch Marthin benywaidd, yn torri ar draws y canopi gydag awdurdod diymdrech. Mae hi'n cyfleu pŵer a rheolaeth, gan ddal ei chynffon ar gau'n dynn ac ysgwyd ei bonblu claerwyn o dan ei chynffon fel pom-pom. Mae hi'n fflapio ar adenydd stiff i fyny i awyr gynnar y gwanwyn ac yn dechrau cylchu, yn llydan ac yn fwriadol, dros ei thiriogaeth fagu - neges glir i unrhyw fenyw arall mai ei llecyn hi ydi hwn. A’r funud honno, mae aderyn llai, ond cryf o ran corffolaeth, yn codi allan o'r goedwig i'w chyfarfod hi. Mae'r ddau'n troelli i fyny i'r cymylau, cyn i'r gwryw, sy’n methu ymwrthod â'r demtasiwn, dorri i ffwrdd a pherfformio cyfres o droadau trawiadol ar draws y dyffryn, gan hedfan yn gyflym i lawr cyn cau ei adenydd a saethu i fyny'n fertigol i'r awyr glir. Gyda’r perfformiad ar ben, mae'n plymio'n ôl i lawr i'r goedwig, gan lanio ger y nyth anweledig. Rydw i eisiau cymeradwyo!

Mae gwalch Marthin, sy’n cael ei adnabod hefyd fel yr 'ysbryd llwyd', yn un o'n hadar ysglyfaethus mwyaf cyfrinachol ac enigmatig ni. Am lawer o'r flwyddyn maen nhw’n toddi i'r goedwig a phur anaml i’w gweld, ond ar derfyn y gaeaf a dechrau'r gwanwyn, maen nhw’n datgelu eu hunain drwy arddangosfeydd awyr trawiadol. Gall unrhyw ddarnau mawr o goedwig – maen nhw’n arbennig o hoff o blanhigfeydd masnachol – fod yn gartref i weilch Marthin; chwiliwch am lecyn gwylio gyda golygfa glir o'r gorwel ac, yn ddelfrydol, gyda'r haul y tu ôl i chi. Diwrnod clir gydag ysbeidiau heulog ac awel sydd orau ac mae'r rhan fwyaf o’r arddangosfeydd yn digwydd o ganol i ddiwedd y bore. Mewn tywydd oer, cymylog, gall yr arddangosfeydd ddigwydd o hyd, ond yn llai dwys. Os yw hi'n bwrw glaw, arhoswch gartref!

Erbyn mis Ebrill, bydd y fenyw wedi setlo ar ei hwyau, bydd yr arddangosfeydd yn stopio a bydd yr adar yn anodd iawn eu gweld. Mae'r fenyw yn gwbl ddibynnol ar ei chymar i'w bwydo hi tra mae’n deori, sy'n esbonio pam mae'r arddangosfeydd cynnar yma mor bwysig. Nid yn unig mae hi'n amddiffyn tiriogaeth sy'n llawn bwyd a safleoedd nythu diogel, ond hefyd yn gwarchod ei chymar. Mae’r gwrywod yn asedau gwerthfawr ac mae’r benywod yn enwog am ymladd - a hyd yn oed lladd - cystadleuwyr i'w cadw nhw’n ddiogel. Mae hwn yn fusnes difrifol ac mae’r erlid a’r brwydrau yn yr awyr yn gallu bod yn ddwys.

An immature goshawk flying across a blue sky, showing the bulging secondarie son the wing, the powerful build and the projecting head. It has dark streaking on its breast, rather than the barring of adults

Immature goshawk © Pete Richman

Gwanwyn yn yr awyr

Y gwanwyn yw tymor y theatr awyr. Mae llawer o adar ysglyfaethus yn codi i'r awyr i ailhawlio eu tiriogaethau, cryfhau cyswllt y pâr neu ddenu cymar newydd; mae presenoldeb adar heb fod mewn pâr yn cynyddu'r ddrama yn aml. Gall dyfodiad rhywogaeth ysglyfaethus arall ysgogi ymateb hyd yn oed.

Wrth chwilio am weilch Marthin, rydw i’n aml yn gwylio'r bwncathod lleol oherwydd maen nhw’n gallu achosi ymateb gan weilch Marthin sy'n dal tiriogaeth.

I'r rhai mewn ardaloedd heb weilch Marthin, mae gweilch glas yn rhoi arddangosfa debyg, ond ar raddfa lai. Rydw i wedi eu gweld nhw'n gwneud hyn uwchben y stad dai lle rydw i'n byw; gwrandewch am gri ofnus y mwyeilch a’r drudwy lleol ac wedyn edrychwch i fyny.

A sparrowhawk almost silhouetted against a cloudy sky

Sparrowhawk © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Edrych i fyny!

Mae bwncathod a barcudiaid cochion wedi dod yn gyffredin yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf ac mae'r ddwy rywogaeth yn perfformio arddangosfeydd awyr. Y barcudiaid cochion sy’n gain iawn wrth ddangos eu hunain, gan ffafrio hedfan tandem gosgeiddig gyda’r parau'n adlewyrchu ei gilydd yn uchel uwchben y dirwedd, gan droelli eu cynffonnau fforchog a chyffwrdd crafangau weithiau. Mae bwncathod yn dilyn sgript debyg, ond yn cloi eu crafangau'n amlach, gyda phlymio ffigyr-êt dramatig gan y gwryw, yn debyg i walch Marthin. Mae'r ddwy rywogaeth yn lleisiol iawn yn ystod yr arddangosfeydd yma ac, yn aml, eu cri nhw sy'n tynnu eich sylw chi at y bwrlwm uwchben.

Common buzzard in flight

Buzzard © Chris Lawrence

Dawnsiwr awyr

Meistr diamheuol yr awyr yn y gwanwyn yw'r boda tinwyn. Dyma aderyn sy’n dal i ddioddef erlid anghyfreithlon ac mae’r boda tinwyn yn llawer prinnach nag y dylai fod, ac felly prin yw’r cyfle i lawer o bobl weld ei arddangosfeydd rhyfeddol.

Mae'r gwryw ariannaidd wir yn dawnsio yn yr awyr, gan berfformio dringfeydd serth, rholio, oedi a phlymio mewn cyfres hyblyg sy’n gallu para am sawl munud. Mae'n amhosibl peidio â theimlo rhyfeddod wrth ei wylio - ac mae rhywun yn tybio ei fod yn creu argraff yr un mor drawiadol ar y benywod!

Mae'r arddangosfa'n cyrraedd ei huchafbwynt gyda phasio bwyd manwl gywir. Mae'r gwryw yn cynnig darn o ysglyfaeth i'r fenyw yn yr awyr ac mae'r fenyw yn codi i'w gyfarfod, gan droi ar ei chefn i ddal yr offrwm mae'n ei ollwng i'w chrafangau estynedig. I weld yr olygfa yma, bydd angen i chi deithio i ucheldiroedd gogledd y Pennines neu, yn well fyth, gogledd a gorllewin yr Alban, lle mae niferoedd y boda tinwyn yn uwch.

Male hen harrier

Hen harrier (male) ©Mark Hamblin/2020VISION

Dyfodol disgleiriach?

Mae gweld arddangosfeydd ein hadar ysglyfaethus yn un o uchafbwyntiau'r gwanwyn. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwylio o bell i osgoi tarfu arnyn nhw – bydd eich golygfa'n well beth bynnag – ac ni ddylech fynd at safle nyth o dan unrhyw amgylchiadau. Mae'r rhan fwyaf o'n hadar ysglyfaethus ni’n wynebu cymaint o fygythiad ac yn sensitif i darfu fel ei bod hi'n anghyfreithlon gwneud hynny heb drwydded.

Gyda'r ymdrechion i leihau’r erlid ar adar ysglyfaethus, gallai gweld gweilch Marthin, bodaod tinwyn ac adar ysglyfaethus eraill yn dawnsio dros ein tirweddau ni ddod yn llawenydd cyfarwydd yn hytrach na braint brin. Y gwanwyn yma, ewch ati i edrych i fyny yn gyson – dydych chi byth yn gwybod pa ddrama sy'n datblygu uwch eich pen.

Jono Leadley yw pennaeth gweithrediadau Gogledd Swydd Efrog gydag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Efrog. Mae wedi bod yn gwylio adar ysglyfaethus ers deugain mlynedd. Mae'n arbennig o angerddol am weilch Marthin ac yn treulio oriau lawer bob blwyddyn yng nghoedwigoedd Gogledd Swydd Efrog yn eu gwylio nhw. Mae wedi teithio i Berlin i astudio gweilch Marthin trefol ac mae’n cymryd rhan mewn gwaith arolygu yma yn y DU.