Cân yr Adar yn Spinnies – Rhan 2: Y Brif Guddfan

Cân yr Adar yn Spinnies – Rhan 2: Y Brif Guddfan

Spinnies Aberogwen Nature Reserve's lagoon @ Eirlys Edwards-Behi

Yn cael ei galw yn aml yn Guddfan y Môr, mae’r Brif Guddfan yn cynnig dwy olygfa drawiadol ... ac mae un ohonyn nhw’n gyfle i chi weld Afon Ogwen yn ei chyfanrwydd a’r llall yn olygfa o’r môr-lynnoedd. Yn Rhan 2 y gyfres hon, 'Can yr Adar yn Spinnies', byddwn yn edrych ar gân a chri adar y môr-lynnoedd. Mae’r blog hwn yn un o gyfresi a alluogwyd gan gyllid o Gynllun Cymunedau Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan WCVA

Croeso’n ôl i'n cyfres blog 'Cân yr Adar yn Spinnies', sy’n rhoi sylw i gân a chri yr adar y gallwch chi eu clywed yng Ngwarchodfa Natur Spinnies Aberogwen. Rydyn ni’n eich gwahodd chi yn ôl i’r Brif Guddfan, sy’n cael ei hadnabod hefyd fel Cuddfan y Môr, i edrych allan ar y môr-lyn a gwrando ar yr holl adar yn canu y byddwch chi’n eu clywed efallai yn ystod eich arhosiad. Mae rhai o adar y glannau fuon ni’n sôn amdanyn nhw yn y blog diwethaf i’w gweld uwch ben y môr-lynnoedd hefyd, yn mwynhau rhywfaint o seibiant o hela am fwyd.

Y Brif Guddfan – Golygfa o'r Môr-lyn   

Wrth ymyl y teclynnau bwydo, fe welwch chi yn aml lawer o adar bach fel titwod, fel y titw Tomos las, y titw mawr, y pila gwyrdd, y nico, coch y berllan, a'r ji-binc.

Mae cân y titw Tomos las yn swnio fel “sispi si-hi-hi-hi-hi-hi”, ond mae cân y titw mawr yn cynwys nodau tebyg i si-so, y mae rhai wedi dweud eu bod yn swnio fel “teacher, teacher, teacher”.

Photo of a bluetit perched on a branch. Behind the bluetit are more branches.

Bluetit/Titw Tomos las @ NWWT Daniel Vickers

Photo of a Great Tit perched on a wooden beam.

Great tit/Titw mawr @ NWWT Daniel Vickers

Mae cân y pila gwyrdd yn gymysgedd o synau cwafrio a thrydar, yn gymysg â chwiban “tsy-sii” a synau cras “pytt”.

Photo of a siskin perched on a thin tree branch.

Siskin/Pila gwyrdd @ NWWT Daniel Vickers

Mae cân y nico yn gymysg o nodau a thrydar, gyda synau sgwrsio a synau fel “sgip-i-lip” a “tshair”. Mae coch y berllan yn gwneud sain “Piw” neu “Phiw” isel, nodyn sengl weithiau, ac olyniaeth o nodau dro arall, fel “piw-piw-piw”. Mae cân y ji-binc yn “tship-tship, tshiritshiri, tship-tshiwiioo” am yn ail â thrydar a synau “tshyp”.

Mae’n ymddangos yn aml bod y nico’n ffraeo gydag adar eraill am ei hoff declyn bwydo, felly rydych chi’n siŵr o’i glywed o’n sŵn i gyd wrth eistedd yn agos at y teclynnau bwydo.

A photo of two goldfinches, on each side of a bird feeder

Two goldfinches/Dau nico @ NWWT Daniel Vickers

Photo of a bullfinch standing on a prickly tree branch.

Bullfinch/Coch y berllan @ Amy Lewis

Photo of a chaffinch, perched on the ground amongst leaves and twigs.

Chaffinch/Ji-binc @ NWWT Daniel Vickers

Photo of the four bird feeders found at the main hide at the Spinnies Aberogwen reserve. Three of the feeders have an assortment of songbirds on them, such as siskins, goldfinches and tits

The Main Hide's Bird Feeders/Teclynnau Bwydo Adar y Brif Guddfan @ NWWT Daniel Vickers

Dros y môr-lyn, weithiau fe allwch chi weld y gnocell fraith fwyaf yn y coed. Mae'r gnocell fraith fwyaf yn gwneud sŵn “Tic!” eithaf uchel a gall hefyd wneud sŵn ratlo pan fydd wedi dychryn. Bydd hefyd yn gwneud y sŵn cnocio cyflym ar bren, sy’n cael ei alw’n ddrymio, y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gysylltu â chnocell y coed, a mae’n gwneud hyn ar gyfer sawl ymddygiad, fel bwydo, cyfathrebu ac ar gyfer creu nythod yn y gwanwyn.

Photo of a great spotted woodpecker climbing a tree trunk. The woodpecker is facing towards the right and the photo was taken from slightly below.

Great Spotted Woodpecker/Llun o gnocell fraith fwyaf  @ NWWT Daniel Vickers

Mae adar y glannau, fel y crëyr bach a’r crëyr glas, i’w gweld ar draws y môr-lyn hefyd, yn ystod penllanw yn aml, ac yn gorffwys ar yr ynysoedd bychain a’r tir o amgylch y môr-lyn.

A view of the lagoon at the Spinnies Aberogwen reserve. A fallen tree log sticks out into the lagoon at the bottom of the photo.

The Spinnies Aberogwen Lagoon/Môr-lyn Spinnies Aberogwen @ NWWT Staff

Yn rhan nesaf y gyfres, byddwn yn trafod Cuddfan Glas y Dorlan.

BLAENOROL: Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 1 NESAF: Cân yr Adar yn Spinnies Rhan 3