 
  Spinnies Aberogwen nature reserve © Jonathen David Harty
 
  Kingfishers © Jon Hawkins - Surrey Hills Photography
 
  SpinniesAberogwen Nature Reserve_Brian McGarry
 
  Water rail at Spinnies Aberogwen Nature Reserve © Steve Ransome
 
  © NWWT Gary Eisenhauer
 
  Goldfinch at feeder on Spinnies Aberogwen nature reserve © Steve Ransome
 
  Chiffchaff - Janet Packham Photography
 
  © Richard Walliker
Gwarchodfa Natur Llyn Celanedd (Spinnies Aberogwen)
Gwybod cyn i chi fynd
Cŵn
Pryd i ymweld
Amseroedd agor
Ar agor yn ystod y dyddAmser gorau i ymweld
Hydref a gwanwyn ar gyfer adar mudol; yr haf ar gyfer adar bridio. Un awr cyn ag ar ôl llanw uchel ydy’r adeg gorau ar gyfer golygfeydd o adar ar yr aber.Am dan y warchodfa
Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi penderfynu defnyddio'r enw hanesyddol 'Llyn Celanedd' yn hytrach na'r enw mwy diweddar ‘Spinnies Aberogwen' ar gyfer ein gwarchodfa natur tra hoff ger Tal-y-bont, Gallwch ddarllen mwy yma.
Cuddfannau adar a sbienddrych
Mae cyfres o fôr-lynnoedd Llyn Celanedd (Spinnies Aberogwen) a’r cynefin o amgylch yn darparu cysgod a bwyd i adar gwyllt, adar rhydio ac adar llai, yn enwedig yn ystod y mudo yn yr hydref a’r gwanwyn. Mae’r warchodfa drws nesaf i aber Afon Ogwen a’r fflatiau llaid llanwol o’r enw Traeth Lafan. Mae llanw a thrai cyson y môr yn denu rhywogaethau anhygoel – gan gynnwys, ar achlysuron prin, gwalch y pysgod. Mae clystyrau tal a gosgeiddig o gawn cyffredin yn darparu safleoedd nythu cysgodol ar gyfer ieir dŵr ac mae’n lle rhagorol i wylio’r crëyr glas a’r crëyr bach copog yn hela! Drwy gydol y flwyddyn bron, mae plu lliwgar glas y dorlan yn olygfa gyfarwydd a phoblogaidd wrth iddo glwydo o amgylch y warchodfa a phlymio i’r dŵr i chwilio am ysglyfaeth. Mae’r cuddfannau a’r offer bwydo adar yn gyfleoedd gwych i ymwelwyr fwynhau’r bywyd gwyllt yn agos iawn.
Gweithgorau gwych 
Mae’r gwirfoddolwyr a’r staff yn cydweithio i reoli coetir, glaswelltir, corslwyni a môr-lynnoedd y warchodfa; gan ddarparu amgylchedd naturiol amrywiol sy’n gartref i lawer o wahanol anifeiliaid a phlanhigion. Mae giât arbennig ar ffurf llifddor yn rheoli lefel y dŵr a’r halen, drwy adael dŵr allan a’i atal rhag llifo’n ôl i mewn, i helpu i atal gorlifo ac i sicrhau bod y môr-lyn yn parhau’n ddŵr croyw. Mae gweithgorau misol yn helpu i gynnal a chadw cuddfannau’r adar a’r llwybrau troed ac mae’r gwaith o ddarparu bwyd adar yn y cuddfannau’n cael ei gefnogi gan lawer o unigolion a sefydliadau lleol – diolch yn fawr bawb!
Oeddech chi wybod?
Mae gwlybdiroedd y warchodfa natur wedi’u creu gan ddyn yn bennaf: credir mai ‘pyllau tyllu’ y cloddiwyd pridd ohonynt ydynt, ac yn sicr maent yn sgil-gynhyrchion y gwaith o ddargyfeirio Afon Ogwen a’i chreu’n gamlas yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  
Cyfarwyddiadau
Mae’n hawdd cyrraedd Gwarchodfa Natur Llyn Celanedd (Spinnies Aberogwen) o Gyffordd 12 yr A55.  Ewch am Fangor/Tal-y-Bont a chadw llygad am yr arwydd ‘Gwarchodfa natur’ brown. Dilynwch yr arwydd i lawr y ffordd fechan am ryw filltir nes cyrraedd maes parcio’r arfordir (SH 615 723), cyn cerdded yn ôl yn ofalus am un o fynedfeydd y warchodfa.
Rhywogaethau
Cysylltwch â ni
Iolo at the Spinnies (https://vimeo.com/353950477)
@Mark Roberts NWWT
Gwnewch Rodd
Support us
Join today!
 
   
   
   
   
   
  