Hudo yn y gwyllt

Hudo yn y gwyllt

Andrew Parkinson / 2020VISION

Cipolwg ar fyd nwydus carwriaeth anifeiliaid

O wisgo i greu argraff i ddangos eich dawn ar y llawr dawnsio, mae digonedd o ddulliau o ddal llygad darpar bartner. 

I fywyd gwyllt, mae dod o hyd i gymar yn fusnes difrifol, ac mae anifeiliaid yn buddsoddi llawer o egni i ddod o hyd i’r partner cywir. Beth am i ni gael cipolwg ar ychydig o'r technegau a ddefnyddir gan anifeiliaid sy'n chwilio am gariad.

Canu i ddenu

Ers canrifoedd, mae pobl wedi bod yn ceisio hudo eu darpar gariadon. Ond mae adar wedi bod yn ei wneud ers mwy fyth o amser! Mae'r gwanwyn yn enwog am y ffrwydrad o sŵn wrth i adar ddechrau canu i sefydlu tiriogaethau, rhybuddio gelynion i gadw draw, ac yn bwysicaf oll, denu cymar. Mae cymhlethdod y gân yn amrywio rhwng rhywogaethau, ond y gwyliwr sy’n penderfynu beth sy’n hardd. I siff-siaff benywaidd, mae cân dau nodyn ailadroddus y gwryw yn amlwg yn fwy apelgar na rhaeadr melys, llifeiriol telor yr helyg sydd o liw tebyg.

Mae'n rhaid dweud mai ein haderyn cân enwocaf yw'r eos, er yn anffodus mae ei chân bellach wedi diflannu o rannau helaeth o'r DU. Byr yw ei phenillion, ond mae ei repertoire cyfoethog a'i dawn i fyrfyfyrio wedi ennill clod gan feirdd a cherddorion ar hyd yr oesoedd.

Nightingale (c) Chris Gomersall/2020VISION

Nightingale © Chris Gomersall/2020VISION

Mae rhai adar yn ddynwaredwyr rhagorol a gallant fenthyg synau o gri neu gân rhywogaethau eraill. Efallai eich bod wedi clywed am feistrolaeth y ddrudwen ar ddynwared, gan gopïo synau ffonau, lorïau’n gyrru am yn ôl a hyd yn oed lleferydd dynol, ond oeddech chi’n gwybod bod y tingoch cyffredin hefyd yn ddynwaredwr medrus? Recordiodd astudiaeth yn Sbaen dingoch yn canu a chanfod ei fod wedi dynwared mwy na 50 o adar gwahanol mewn llai nag awr!

Efallai mai adar yw ein cantorion mwyaf adnabyddus ni, ond nid nhw yw’r unig anifeiliaid i arddel eu diddordeb drwy sain. Mae brogaod yn cynhyrchu corws o grawcian meddal, dan rwnian - fel sŵn pell beic modur yn refio. Mae caneuon yn ein moroedd ni hefyd, ac nid yn unig gan forfilod a dolffiniaid - gall sain fod yn rhan bwysig o garwriaeth pysgod. Er enghraifft, mae gwryw y gobi lliwgar yn adeiladu nythod o dan gregyn ac wedyn yn hysbysebu eu hadeiladwaith drwy baru arddangosfeydd gweledol gyda chyfres o synau drymio a tharo.

Painted gobies

Painted gobies © Mark Thomas

Dawnsio a fflyrtio

Nid y cantorion yn unig sy’n cynnal perfformiad i ddenu’r partner perffaith. Boed yn dango pryfoclyd i ddau, yn sioe unigol sy’n siŵr o syfrdanu, neu hyd yn oed yn grŵp grŵfi, mae dawnsio ym mhob man ym myd yr anifeiliaid.

Yr enghraifft glasurol yw'r wyach fawr gopog. Mae'r adar yma’n eithriadol gain, gyda'u gyddfau hir, main, eu plu cynnil, a chribau du ac oren yn siâp bwa plu gwych. Bob gwanwyn, maen nhw'n camu ar y llawr dawnsio - wel, wyneb y llyn - ac yn cyflwyno arddangosfa drawiadol. Mae'r paratoadau’n cynnwys brefu uchel, ystumio, twtio plu ac ysgwyd pen cydamserol, ond y diweddglo syfrdanol mae pawb yn hoff o’i weld.

Great crested grebes

Great crested grebes © Andrew Parkinson/2020VISION

Mae'r ddau aderyn yn plymio o dan y dŵr, gan ddod yn ôl i’r wyneb gyda’u pigau’n llawn chwyn. Maen nhw'n nofio tuag at ei gilydd ac, wrth gau'r ychydig fodfeddi olaf, yn codi o'r dŵr fel dawnswyr bale en pointe. Bron wrth fron maen nhw’n dal yr ystum anhyblyg, fertigol yma, eu traed gweog yn padlo'n angerddol i'w cadw nhw ar i fyny’n dalsyth. Drwy gydol y ddawns yma, mae eu pen yn troelli o un ochr i’r llall, fel petaen nhw’n chwilio am sgôr y beirniaid – deg i bawb, does bosib?

Great crested grebe weed dance

Great crested grebe weed dance © Andrew Parkinson/2020VISION

Nid gwyachod yw'r unig adar sydd â symudiadau gwych. Mae elyrch dof yn defnyddio eu gyddfau hir, gan eu plygu a'u siglo mewn dawns arafach, fwy urddasol, gyda'u pennau'n dod at ei gilydd weithiau fel bod symudiad cain eu gyddfau yn ffurfio ffrâm siâp calon.

Dawnsio mewn grŵp sy’n mynd â bryd y rugiar ddu. Ond does dim cydweithredu’n rhan o’u harddangosfeydd ar doriad gwawr - brwydrau dawnsio ydyn nhw! Mae’r gwrywod yn ymgasglu mewn hoff safleoedd ac yn dangos eu doniau, pob un yn cystadlu am sylw'r benywod sy’n gwylio o'r cyrion. Mae stampio traed ac ysgwyd cynffon, ystumio a neidio, y cyfan i drac sain eu cri feddal, fyrlymus a’u crawcian cras. Heb fodloni ar adael i'w symudiadau adrodd cyfrolau, mae'r dawnswyr weithiau'n ymladd wrth iddyn nhw ffraeo am y llecynnau gorau.

Black grouse lek

Black grouse lek © Mark Hamblin/2020VISION

Yr enw yn Saesneg ar yr arddangosfa gymunedol yma yw ‘lekking’ ac mae’n digwydd hefyd ymhlith dau aderyn magu llawer prinnach yn y DU – grugiar y coed a'r pibydd torchog. Ond nid adar yn unig sy'n gwneud hyn, mae anifeiliaid eraill yn ceisio dod o hyd i gariad mewn llecyn paru, gan gynnwys pryfed. Mae gwrywod y chwimwyfyn rhithiol yn ymgasglu yn nüwch y gwyll, gan ysgubo'n isel dros y llystyfiant a hedfan ar ffurf arddangosfa siglog, fel pe baen nhw wedi'u clymu i linyn anweledig. Mae eu hadenydd gwelw yn dal yr ychydig olau sy’n weddill fel eu bod hefyd yn tynnu sylw'r merched sy'n bresennol. Maen nhw’n ehangu eu hapêl ymhellach drwy ryddhau fferomonau wrth iddyn nhw ddawnsio, ar gyfer perfformiad persawrus perffaith.

Ghost moth female

Ghost moth female © Vaughn Matthews

Anrhegion i gariadon

Pan mae gwryw pryf sgorpion yn nesau at fenyw, mae'n cyflwyno anrheg iddi - bocs o siocled efallai, neu flodau neis? Na, mae’n cynnig pryf marw (wedi ei ladrata wethiau o we pryf cop), neu belen o’i boer ei hun, i’r fenyw ei bwyta yn ystod cyfathrach rywiol. Hwb o faeth i'w groesawu i fuddsoddi mewn cynhyrchu wyau!

Mae llawer o rywogaethau’n cynnig rhoddion o fwyd i’w partner – yn aml mae’n dyst i’w gallu fel helwyr, prawf y gallant ddarparu ar gyfer eu hepil; neu'n syml i wneud yn siŵr bod y fenyw yn bwyta yr holl galorïau sydd arni eu hangen i gynhyrchu wyau neu epil iach. Gall rhai rhoddion gynnwys cymhellion cudd. Mae ymchwil yn awgrymu bod pryfed sgorpion benywaidd sy’n derbyn anrhegion mwy yn llai tebygol o symud ymlaen i baru â gwryw arall!

Scorpion Fly

Scorpion Fly ©Amy Lewis

Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rhain o’r anifeiliaid yn canu, dawnsio a chyflwyno anrhegion rydyn ni’n ddigon ffodus i’w cael yn y DU. O ran hudo yn y gwyllt, mae byd cyfan o strategaethau rhyfedd a rhyfeddol i'w darganfod!