Mae Corsydd Ynys Môn (neu'r Corsydd) yn fawndiroedd sy'n cael eu hanwybyddu yn aml yng nghanol yr ynys, ond mewn gwirionedd dyma’r ail gynefin mawndir mwyaf yn y DU!
Mae Corsydd Ynys Môn (neu'r Corsydd) yn fawndiroedd sy'n cael eu hanwybyddu yn aml yng nghanol yr ynys, ond mewn gwirionedd dyma’r ail gynefin mawndir mwyaf yn y DU!
Roedd yr awyrgylch yn gwbl arbennig! Fe ddaeth teuluoedd, trigolion lleol, ysgolion ac ymwelwyr at ei gilydd nid yn unig i ddysgu, ond i ddathlu. Roedd y digwyddiadau am ddim, yn hygyrch ac yn gynhwysol, gan sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan.
Fe adawodd y plant gyda dwylo mwdlyd (mawnog) a gwên lydan ar eu hwynebau, fe ddaeth yr oedolion i werthfawrogi'r tirweddau o'u cwmpas, ac fe gryfhaodd y gymuned ei chysylltiad â threftadaeth naturiol Ynys Môn.
Mae digwyddiadau fel Dyddiau Ffentastig yn rhan o'n cenhadaeth ni i ddod â bywyd gwyllt yn ôl a grymuso pobl i weithredu dros fyd natur.
Fe fwynhaodd yr ymwelwyr amrywiaeth eang o weithgareddau oedd wedi’u cynllunio i danio chwilfrydedd a gwerthfawrogiad o'r byd naturiol:
Dewiswyd y gweithgareddau hyn yn ofalus i wneud gwyddoniaeth a chadwraeth yn hygyrch, yn hwyl ac yn gofiadwy i bob oed.
Rydyn ni’n gobeithio bod y digwyddiadau hyn wedi helpu i ysbrydoli a chysylltu pobl â'r safleoedd unigryw yma. Mae'r corsydd eisoes yn golygu llawer i lawer o bobl sy'n byw o'u cwmpas nhw, ond nid yw llawer o bobl yn gwybod eu bod nhw yno. Fe helpodd y Dyddiau Ffentastig i ddangos pa mor arwyddocaol yw'r safleoedd i fyd natur ond hefyd wrth gefnogi cymuned, treftadaeth a diwylliant.Neil DunsireRheolwr Prosiect Corsydd Calon Môn, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru
Mae digwyddiadau fel Dyddiau Ffentastig yn rhan o'n cenhadaeth ni i ddod â bywyd gwyllt yn ôl a grymuso pobl i weithredu dros fyd natur.
Pam mae'r corsydd yn bwysig
Mae'r cynefinoedd prin yma’n gartref i fywyd gwyllt rhyfeddol ac yn gyfeillion arwyddocaol wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd, gan storio hyd at wyth gwaith mwy o garbon na fforest law o'r un maint.
Pŵer mawn!!
Mae mawndiroedd yn storfa garbon anhygoel; dim ond 4% o arwynebedd tir Cymru maen nhw’n ei orchuddio, ond eto maen nhw’n storio 30% o garbon tir y wlad. Amcangyfrifir bod 90% o fawndir Cymru wedi'i ddifrodi ac, yn y cyflwr gwael yma, mae’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr niweidiol i'r atmosffer.
Dathliad o gorsydd Ynys Môn
Mae Corsydd Ynys Môn — gan gynnwys Cors Erddreiniog, Cors Bodeilio a Chors Goch — yn safleoedd mawndir o arwyddocâd rhyngwladol. Diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Esmée Fairbairn, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio i adfer a gwarchod y cynefinoedd yma ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.