Coffáu Cynaliadwy

Coffáu Cynaliadwy

 Deflated balloon © Engin Akyurt on Unsplash

Cofio eich anwyliaid yn y ffordd briodol.

Mae galaru yn bwysig. Mae coffáu’r rhai rydyn ni wedi’u colli yn rhan o’r broses o wella ac mae cofebion yn cyfrannu at y siwrnai honno. Maent yn caniatáu i atgofion gwerthfawr fod yn fyw o hyd drwy wrthrych neu le arbennig sy’n bwysig iawn i ni. 

O lecynnau prydferth i balmentydd, mae cofebion, teyrngedau a chysegrfeydd yn dod yn gyffredin. Ond efallai y dylen ni oedi, dim ond am eiliad, ac ystyried pa mor briodol ydyn nhw? Nid yw llawer o gofebion o'r fath yn gyfeillgar i'r amgylchedd, gallant fod yn beryglus i fyd natur a gallant - gan rai - gael eu hystyried yn sbwriel hyd yn oed. Dydw i ddim eisiau amharu ar broses alaru unrhyw un, ac rydw i’n deall yn iawn bod colli rhywun annwyl, wrth gwrs, yn gyfnod anodd iawn. Ond, cyn i ni nodi marwolaeth unrhyw un yn y ffordd yma, efallai y dylen ni ystyried yr effaith anfwriadol y gallai ein dewisiadau ei chael?

Pam na ddylen ni adael tuswau o flodau?
Mae'r rhan fwyaf o duswau wedi'u lapio mewn rhywbeth. Mae hyn yn newyddion drwg i fywyd gwyllt a all geisio bwyta'r pecyn yma neu gael ei ddal a'i anafu ynddo - gall adar leinio eu nythod ag ef hyd yn oed. Gall plastig gymryd cannoedd o flynyddoedd i bydru ac er bod blodau weithiau'n dod mewn seloffen biobydradwy, mae'n parhau i fod yn berygl corfforol i fywyd gwyllt am beth amser.

A ddylen ni ddefnyddio balŵns?
Mewn ffordd amlycach efallai na thuswau, mae balŵns yn gadael llanast amgylcheddol. Os byddwn yn rhyddhau balŵn, mae’n mynd i ddod i lawr yn rhywle – sy’n gadael rhywfaint o rwber, plastig neu ffoil yn yr ecosystem a fydd yn para am ganrifoedd ac o bosibl yn achosi niwed difrifol i fywyd gwyllt.

Mae achosi marwolaeth i fywyd gwyllt oherwydd galar yn eironi trasig
Dani Robertson
@DaniDarkSkies

Beth am deganau meddal?
Yn yr un modd, gall y deunyddiau synthetig sy'n cael eu defnyddio i greu tedis gymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu ac mae'r holl fflwff yn berygl tagu i anifeiliaid.

Efallai y dylen ni ryddhau llusernau awyr?
Fel balŵn, mae llusern bapur yn mynd i ddod i lawr a chreu sbwriel yn rhywle. Yn fwy brawychus, mae llusernau awyr, wrth gwrs, yn golygu tân hefyd - tân heb ei reoli - ac rydyn ni i gyd yn gwybod am beryglon tanau gwyllt. Oeddech chi'n gwybod, yn 2020, bod deg ar hugain o anifeiliaid wedi'u lladd mewn tân yr honnir iddo gael ei achosi gan lusernau awyr yn disgyn yn ddamweiniol i sŵ yn yr Almaen?

Ond fe allwn ni blannu rhywbeth – does bosib bod hwnnw’r peth iawn i’w wneud?
Wel, o bosib – ond efallai ddim. Byddai angen caniatâd perchennog y tir i wneud hynny; a hyd yn oed wedyn, fe ddylen ni ystyried effeithiau amgylcheddol plannu rhywogaeth estron. Mae angen i ni ddewis yn ddoeth, gofyn am gyngor proffesiynol, a chadw at rywogaeth frodorol sy'n helpu byd natur i adfer.

Sand Message

Sand Message © Lea Khreiss on Unsplash

Waw – wel beth ddylen ni ei wneud?

  • Blodyn chwaethus - Efallai y dylen ni dorri un blodyn o'n gardd a'i osod i lawr neu adael iddo arnofio i ffwrdd ar y dŵr fel arwydd urddasol o barch?
  • Chwythu swigod – Yn lle balŵns, gallem ryddhau swigod, yn ddelfrydol gyda chymysgedd swigod sy'n sensitif i'r amgylchedd. Wrth gwrs, dylai pob plastig gael ei ailgylchu ar ôl i ni gyrraedd adref.
  • Gwylnosau yng ngolau cannwyll – Mae cynnal gwylnos gyda chanhwyllau yn ffordd hyfryd o goffáu rhywun ond fe ddylen ni bob amser fod yn hynod ystyriol o ddiogelwch tân. Mae jariau jam yn ddalwyr cannwyll ardderchog y gallwn eu personoli a'u cadw wedyn (neu eu hailgylchu'n hawdd).
  • Ysgrifennu mewn tywod – Gallwn ysgrifennu negeseuon at anwyliaid ar y traeth. Mae'n gwbl garbon niwtral, yn hynod bersonol, ac nid yw'n gwneud unrhyw ddifrod. Gallwn ddychwelyd i'r llecyn dro ar ôl tro hyd yn oed ac ysgrifennu neges wahanol bob tro.
  • Trefnu taith gerdded goffa – Os oedd gwarchodfa natur benodol yn arbennig i’r person rydyn ni wedi’i golli, gallem drefnu taith gerdded gyda’n ffrindiau a’n teulu a rhannu’r llecyn arbennig hwnnw gyda’n gilydd.
  • Gwneud dim byd – Dyma fy newis personol i. Gall sefyll ar lecyn gwerthfawr i gofleidio ein hamgylchedd a chofio ein hanwyliaid yn ein calonnau fod yn ostyngedig ac yn bwerus. Rydw i'n dewis gadael dim byd ond olion traed ac atgofion.
Fe fyddwn i’n hoffi cael fy nghofio fel person oedd yn hapus yn mwynhau tirwedd hyfryd
Miguel McMinn
@miguelmcminn

Beth all YNGC ei wneud?

  • Cofebion cymeradwy – Mae YNGC wedi cael y pleser o drefnu llawer o deyrngedau arbennig er cof yn ein gwarchodfeydd ni dros y blynyddoedd ac rydyn ni’n parhau i dderbyn llawer o geisiadau am gofebion newydd. Pan ddaw ceisiadau i law, mae ein tîm gwaddol yn ymchwilio i'r holl opsiynau sydd ar gael, ond cofiwch nad ydym yn gallu darparu ar gyfer y cais bob amser.
  • Cyfrannu– Beth am gofio rhywun drwy gyfrannu rhodd i elusen oedd yn agos at ei galon? Gall hyn fod yn deyrnged addas iawn er cof ac mae YNGC yn hapus i greu tudalen gyfrannu ‘er cof’ bwrpasol i chi.

Os hoffech chi drafod sut gallwch chi nodi marwolaeth ffrind neu aelod o’r teulu yn gynaliadwy gydag YNGC, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalen rhoddion er cof.

Ewch i'n tudalen ni ar gyfer rhoddion er cof

 

Nid pregethu yw bwriad yr erthygl hon. Mae galaru yn anodd, ac rydyn ni i gyd yn prosesu colled mewn ffyrdd gwahanol. Y cyfan rydw i’n ei ofyn ydi ein bod ni bob amser yn ystyried effaith anfwriadol ein gweithredoedd o safbwynt amgylcheddol.