Chwilio
Speckled wood butterfly - Vicky Nall
Chwilio
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn cynnig cwrs cynllun hyfforddi cadwraeth a newid hinsawdd am ddim i 12 o bobl ifanc ledled Ynys Môn a Bangor yr haf yma!
Care-Peat: Adfer capasiti storio carbon mawndiroedd
Nid yn unig bod mawndiroedd yn gynefinoedd gyda fflora a ffawna tra arbennig, ond maent hefyd yn chware rhan bwysig mewn rheoli’r hinsawdd yn fyd eang. Yng Ngwarchodfa Natur Cors y Sarnau mae y swyddog prosiect newydd Richard Cutts yn gweithio â phartneriaid rhyngwladol i wella ein dealltwriaeth o’r brosesau sydd yn gysylltiedig, adfer mawndir a sut y gall ein gwaith gyfrannu at ymgyrch 30 by 30 yr Ymddiriedolaethau Natur.
Things you can do about climate change
There are simple and easy things that we can all do to reduce our carbon footprint and make a big difference to the natural world.
My city break
The hustle and bustle of city life melts away when Kathryn visits Camley Street Natural Park. Without leaving central London, she can go from man-made soaring skyscrapers to an oasis-like…
Ein gwaith ni yn y dirwedd ehangach
Nid yw gwarchodfeydd natur ar eu pen eu hunain yn ddigon i achub ein bywyd gwyllt gwerthfawr rhag diflannu. I alluogi i fywyd gwyllt ffynnu ac ymledu, rhaid i ni greu mwy o ofod i fywyd gwyllt sy’n cael ei reoli’n well ac sy’n fwy cysylltiedig, gyda chyfleoedd i bobl fwynhau byd natur. Mae’r dull hwn o weithredu’n creu’r hyn rydyn ni’n ei alw’n Dirweddau Byw, sydd o fudd i bawb ac yn diogelu bywyd gwyllt.
Galwad am artist! Prosiect Cofeb Gwaith Powdwr
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn chwilio am artist i greu cofeb/cerflun yng Ngwarchodfa Natur Gwaith Powdwr, Penrhyndeudraeth.
Gwylio gwyfynod mis Mawrth
Mae llawer o gariadon natur yn aros yn eiddgar am y gloÿnnod byw cyntaf bob blwyddyn, ond beth am y gwyfynod cyntaf?
Darganfyddwch y pryfed sy’n hedfan yn gynnar yn y gwanwyn.
COP15
Mae COP yn sefyll am 'Conference of the Parties' a dyma gynadleddau'r Cenhedloedd Unedig ar ei wahanol gonfensiynau. Yn 2022, mae COPs yn digwydd ar yr hinsawdd (COP27) a natur (COP15). COP15 yw lle mae arweinwyr y byd yn dod ynghyd i adolygu gweithrediad y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (neu CBD). Cytundeb byd-eang ar gadwraeth natur yw CBD. Trwy hyn, mae 196 o bleidiau yn anelu at gytuno ar 20 targed byd-eang a fydd yn atal colli bioamrywiaeth.
Cadw mawn mewn corsydd
Mawndiroedd yw un o’n cynefinoedd pwysicaf ni, gan ddarparu cartrefi i fywyd gwyllt prin a chloi carbon, gan ein helpu ni i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Ond yn y DU mae mwy nag 80% yn cael eu difrodi. Yn rhannol oherwydd ein defnydd ni o fawn fel compost a'i ddefnyddio i dyfu cynhyrchion fel planhigion tŷ a madarch. Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, ochr yn ochr â'r Ymddiriedolaethau Natur ledled y DU, yn ymgyrchu i gadw mawn mewn corsydd ac nid mewn bagiau.
Cylchwyl 60 mlynedd
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn dathlu 60 mlynedd (1963-2023) yn gweithio tros fywyd gwyllt drwy gydweithio â’n cefnogwyr lleol, aelodau a phartneriaid i helpu gwarchod bywyd gwyllt ar draws Gogledd Cymru
Ymledwyr Ecosystem
Mae rhywogaethau ymledol wedi cael eu cydnabod fel un o’r ‘pum bygythiad mwyaf’ i fyd natur yn fyd-eang ac yma yng Nghymru. Cofrestrwch i dderbyn awgrymiadau a chyngor defnyddiol ar sut gallwch chi helpu!
Saith cyngor doeth ar gyfer profiadau bywyd gwyllt anhygoel: camp crefft maes
Ewch ati i wella eich siawns o weld bywyd gwyllt gyda chyngor crefft maes gan Matthew Capper, gwyliwr adar brwd, ffotograffydd a phennaeth cyfathrebu gydag Ymddiriedolaeth Natur Swydd Lincoln.