Darganfyddwch lwybrau gwyllt Chwarel y Mwynglawdd
Mae Gwarchodfa Natur Chwarel y Mwynglawdd yn cynnig coetir hyfryd a dolydd lliwgar, gweithfeydd calch hanesyddol a golygfeydd panoramig a fydd yn cyfareddu drwy gydol y flwyddyn. Mae rhywbeth i bawb ei ddarganfod!
Rydyn ni wedi creu tair taith gerdded o wahanol hyd ac anhawster sy'n eich annog chi i archwilio popeth sy'n gwneud y lle yma mor arbennig. Mae pob un yn darparu persbectif gwahanol ar y warchodfa natur, gan eich cludo chi’n ôl mewn amser i orffennol diwydiannol y safle, gyda chyfle i gwydro drwy’r cynefinoedd bywyd gwyllt hanfodol heddiw, ac yn eich gwahodd chi i ddychmygu sut gallai byd natur barhau i ffynnu yma yn ystod y degawdau sydd i ddod.
Gwybod cyn mynd
Cyfeiriad: Gwarchodfa Natur Chwarel y Mwynglawdd, Ffordd Maes y Ffynnon, Y Mwynglawdd, Wrecsam LL11 3DE
Dechrau'r llwybr: Google Maps neu What3Words: ///exotic.kept.spurring
Parcio: Mae llefydd parcio ar gael ym maes parcio mawr y warchodfa.
Pryd i fynd: Mae posib cerdded y llwybrau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Os byddwch chi'n ailadrodd unrhyw un o'r tri llwybr mewn gwahanol dymhorau, rydych chi'n siŵr o ddarganfod rhywbeth newydd, a mwynhau golygfeydd sy'n newid yn gyson o'r warchodfa a'r cefn gwlad cyfagos.
Tywydd braf sydd orau i gerdded y llwybrau. Os ydych chi'n cynllunio ymweliad yn ystod y gaeaf, rydyn ni’n cynghori eich bod chi’n gwirio rhagolygon y tywydd ymlaen llaw i sicrhau amodau diogel a dymunol.
Iechyd a Diogelwch: Er ein bod ni wedi gwneud pob ymdrech i ddarparu cyfarwyddiadau clir am y llwybrau, mae'r llwybrau troed wedi'u marcio hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwisgo'n briodol ar gyfer y tywydd ac yn gwisgo esgidiau cerdded cryf, oherwydd gall rhai ardaloedd fod yn gorsiog mewn tywydd gwlypach. Mae’r derbyniad ffôn symudol yn anghyson yn gyffredinol ar hyd y llwybrau yn y warchodfa. Rydyn ni’n argymell dod â rhywfaint o fwyd a dŵr gyda chi ar y llwybrau hirach.
Er mwyn sicrhau diogelwch bywyd gwyllt ac ymwelwyr eraill, dilynwch yr arwyddion polisi cŵn sy’n cael eu harddangos ar hyd y llwybrau.
Dilys Thompson
Taith Gerdded yr Odyn
0.9 km, 0.6 milltir (15 munud) / Hawdd
Bydd y daith gerdded fer yma’n eich cludo chi’n ôl mewn amser i’r amser pan oedd y chwarel yn safle diwydiannol ffyniannus. Fe fyddwch chi’n pasio sawl odyn galch sydd wedi goroesi ac yn gweld sut mae byd natur wedi hawlio’r lle hanesyddol yma yn ôl.
Dilys Thompson
Taith Gerdded y Pwll
2.5 km, 1.5 milltir (45 munud) / Hawdd
Llwybr ffigur wyth sy’n mynd â chi drwy ehangder agored Chwarel y Mwynglawdd, cyn cyrraedd y pyllau ffyniannus yng nghanol y warchodfa natur a thu hwnt i’r dolydd llawn blodau gwyllt.
Dilys Thompson
Taith Gerdded Panorama
4 km, 2.5 milltir (80 munud) / Hawdd i gymedrol
Mae’r ddolen gylch yma’n dilyn ffin gwarchodfa natur Chwarel y Mwynglawdd, gan gynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd a sawl golygfa banoramig ysblennydd.
Dilys Thompson
Chi a'ch ci
Chwiliwch am yr arwyddion yma i weld a ydych chi mewn Ardal Cŵn Heb Dennyn neu Ardal Cŵn Ar Dennyn.
Mae rhagor o ganllawiau ar gyfer ymweld â'n gwarchodfeydd ni ar gael yma