'Lle gwreiddiodd gobaith' - geiriau gan Frances Cattanach ar ei hymddeoliad

'Lle gwreiddiodd gobaith' - geiriau gan Frances Cattanach ar ei hymddeoliad

Ar ôl mwy na 40 mlynedd o wasanaeth nodedig i fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru, bydd ein Prif Swyddog Gweithredol, Frances Cattanach, yn dechrau ei hymddeoliad haeddiannol ym mis Mai 2026. Yn ei darn olaf ar gyfer Natur Gogledd Cymru, mae hi'n adlewyrhu ar ei hamser gyda'r Ymddiriedolaeth Natur a'r newidiadau mae hi wedi'u gweld mewn un lle yn arbennig sy'n agos iawn at ei chalon – ein Gwarchodfa Natur Genedlaethol ni yng Nghors Goch.

Mae'n gynnar gyda’r nos ar noson dawel yn yr haf ar ddiwedd yr 1980au. Mae gwynt ysgafn yn ysgwyd y llen o gyrs. Wrth i mi gerdded ar hyd cyrion Cors Goch, mae'r mawn sy’n slwtsh dan fy nhraed yn rhyddhau arogl gwrthseptig gwyrddling, ac rydw i'n llawenhau drwyddof o weld pigau bach lliw brics coch y tegeirianau cors cynnar. Wrth i mi gerdded adref i Benllyn – ffermdy’r Ymddiriedolaeth Natur drws nesaf – rydw i'n cael fy nal gan symudiad isel uwchben y gors: tylluan wen yn hela’n dawel am ei swper.

gynnar gyda’r nos ar noson dawel yn yr haf ar ddiwedd yr 1980au. Mae gwynt ysgafn yn ysgwyd y llen o gyrs. Wrth i mi gerdded ar hyd cyrion Cors Goch, mae'r mawn sy’n slwtsh dan fy nhraed yn rhyddhau arogl gwrthseptig gwyrddling, ac rydw i'n llawenhau drwyddof o weld pigau bach lliw brics coch y tegeirianau cors cynnar. Wrth i mi gerdded adref i Benllyn – ffermdy’r Ymddiriedolaeth Natur drws nesaf – rydw i'n cael fy nal gan symudiad isel uwchben y gors: tylluan wen yn hela’n dawel am ei swper.

Barn owl

Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Yn llai cadarnhaol, dros amser, mae dwysáu amaethyddol llechwraidd wedi suro'r crud oedd yn magu'r gors. Fe wnaed y dirwedd liwgar yn wyrdd llachar, collodd ei thapestri gwyllt, cyfoethog, a chafodd y gors ei throchi mewn coctel cemegol y mae'n ei chael yn anodd ei wrthsefyll. Does dim cri fyrlymus y gylfinir na gwich y gornchwiglen i’w clywed yma mwyach, a ’welwch chi mo löyn byw britheg y gors, sydd mor debyg i em, yma chwaith. Mae'n dân ar groen rhywun, nid yn unig o ran y bywyd gwyllt ei hun, ond oherwydd bod gan y ffilter sbyngaidd gogoneddus yma y pŵer i'n gwasanaethu ni - gyda gollyngfeydd carthion gwell ym Menllech, gall Cors Goch gefnogi ymdrochi baner las ac iechyd rhyfeddodau Afon Menai a Bae Conwy tu draw.

Mae ein huchelgais ni am lefydd gwyllt mwy, gwell a mwy cydgysylltiedig, fel Chwarel y Mwynglawdd, Gwaith Powdwr a Bryn Ifan, wedi arwain atom yn cyflwyno bywyd gwyllt rhyfeddol i ymwelwyr dirifedi. Yng Nghors Goch, i ehangu'r gors, rydyn ni wedi ychwanegu rhostiroedd, gwlybdiroedd, coedwigoedd cyll a glaswelltiroedd calchfaen; Craig Wen, Cors Castell, Rhuddlan Fawr, Nant Newydd. Yn y cyfamser, ar draws y rhanbarth, rydyn ni’n cynyddu cysylltedd drwy ofal sensitif o ymylon ffyrdd – mae cymylau haf o erwain hardd i’w gweld ar hyd ymylon ffyrdd o amgylch Llanbedrgoch.
 

Pan Mae ein huchelgais ni am lefydd gwyllt mwy, gwell a mwy cydgysylltiedig, fel Chwarel y Mwynglawdd, Gwaith Powdwr a Bryn Ifan, wedi arwain atom yn cyflwyno bywyd gwyllt rhyfeddol i ymwelwyr dirifedi. Yng Nghors Goch, i ehangu'r gors, rydyn ni wedi ychwanegu rhostiroedd, gwlybdiroedd, coedwigoedd cyll a glaswelltiroedd calchfaen; Craig Wen, Cors Castell, Rhuddlan Fawr, Nant Newydd. Yn y cyfamser, ar draws y rhanbarth, rydyn ni’n cynyddu cysylltedd drwy ofal sensitif o ymylon ffyrdd – mae cymylau haf o erwain hardd i’w gweld ar hyd ymylon ffyrdd o amgylch Llanbedrgoch.

Mae'n ganol gaeaf ac mae rhew yn batrwm cain ar bob deilen. Yn yr 80au, hwn oedd yr amser gorau i weld adar ysglyfaethus. Y boda tinwyn benywaidd gyda’i chynffon fodrwyog nodedig, neu hedfaniad carlamus boda'r gwerni. Nawr mae bwncathod yn gyffredin, ac yn gynyddol, y barcud coch. Mae'r olygfa newydd o wiwer goch yn gwibio yng nghanol y llwyni cyll yn codi calon ar unrhyw ddiwrnod. Mae ailgyflwyno bellach yn rhan o’r arfogaeth er mwyn adfer rhywogaethau. Y bele, eryr y môr, a'n hymdrechion ni ein hunain i ailgyflwyno'r afanc i Gymru.

Y newid mwyaf, a mwyaf hirddisgwyliedig, a'r golau ym mhen draw’r twnnel i fywyd gwyllt yng Nghymru, yw'r symud oddi wrth ddwysáu amaethyddol. Fe wnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, sy'n flaenllaw ledled y byd, baratoi'r ffordd ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy heddiw, a allai roi hwb enfawr i adferiad bywyd gwyllt ar draws darnau helaeth o dir. Ein rhan ni yn y gwaith yma yw ein gwasanaeth cynghori ffermydd, Galwad, ac mae’n rhoi gobaith mawr i mi o ran byd natur. Yn y cyfamser, mae ein prosiectau ni - Corsydd Calon Môn a Thirweddau Byw Alun a Chwiler a Dyffryn Conwy - yn ymarfer ein huchelgeisiau.

Mae Cors Goch yn teimlo newid hinsawdd bellach. Mae tywydd eithafol yn cynyddu'r risg o dân yn sgubo ar draws y gwlybdir - ond y llynedd fe wnaethon ni gyfrif mwy o grwynllys y gors yno nag erioed o'r blaen. Efallai bod cyfnodau hir o dywydd gwlyb yn gwneud ffafr â nhw hyd yn oed, ond gall cors iach leddfu effeithiau newid hinsawdd a phrofi'r boen.

Frances Cattanach, NWWT CEO

Ochr yn ochr â'n partneriaethau cynyddol, ein 10,000 o aelodau, ein gwirfoddolwyr a'n staff ymroddedig a thalentog, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn sefyll yn gadarn gyda'n byd naturiol. Rydw i mor falch o fod wedi bod yn rhan o'i siwrnai wyllt barhaus. 

Ac yn olaf…

Hoffem ddiolch i Frances am ei blynyddoedd lawer o arweinyddiaeth ymroddedig. Ar ôl mwy na 40 mlynedd o wasanaeth nodedig i fywyd gwyllt yng Ngogledd Cymru, bydd Frances yn dechrau ar ei hymddeoliad cwbl haeddiannol ym mis Mai 2026. Byddwn yn rhoi croeso cynnes i'n Prif Swyddog Gweithredol newydd, Lindsay Thomas, dros y misoedd nesaf, ond os hoffech chi ddarllen ychydig mwy amdani, beth am edrych ar ein tudalen newyddion?