Patrol pyllau

Patrol pyllau

Pond skater (Gerris lacustris) © Luke Massey/2020VISION

Darganfyddwch rai o'r rhywogaethau arbennig sy'n byw mewn pwll gardd, gyda'r ecolegydd Ben Keywood.

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gefnogi bywyd gwyllt yn eich gardd yw drwy greu pwll. Mae pyllau'n darparu ffynhonnell werthfawr o ddŵr yfed i adar, draenogod a bywyd gwyllt arall, yn ogystal â chartref i amrywiaeth eang o infertebrata dyfrol.

Mae angen i bwll bywyd gwyllt da gael canol dyfnach ac ochrau bas; fe allwch chi greu traeth cerrig mân hyd yn oed ar hyd un ymyl, i bryfed allu cerdded ac yfed yn ddiogel. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod mannau diogel o amgylch ymylon y pwll i fywyd gwyllt guddio. Gallwch ychwanegu boncyffion neu gerrig mawr, neu adael i laswellt brodorol a phlanhigion ymylol dyfu. Gall brogaod a madfallod dŵr gysgodi yma pan fyddan nhw’n gadael y pwll ond gallu cael mynediad cyflym yn ôl i'r dŵr pan mae angen.

Y peth gwych am greu pwll ydi nad oes angen i chi ryddhau bywyd gwyllt iddo – fe fydd amrywiaeth anhygoel o rywogaethau’n dod o hyd i'ch pwll ar eu pen eu hunain. Yn ogystal â brogaod, llyffantod a madfallod dŵr, efallai y byddwch chi'n synnu pa infertebrata fydd yn dod i fyw yno hefyd!

Picellwr praff 

Mae'r picellwr praff (Libellula depressa) yn un o nifer o weision y neidr sy'n magu mewn pyllau gardd llai. Yn aml, mae'n un o'r creaduriaid cyntaf i sefydlu mewn pwll newydd. Mae'r gweision y neidr gwrywaidd yn hawdd eu hadnabod oddi wrth eu habdomen glas llydan, llachar, gyda’r benywod yn lliw melynfrown mwy cynnil. Ar ôl paru, mae'r benywod yn dodwy eu hwyau o dan wyneb y dŵr ac mae eu rhai bach (sy’n cael eu galw’n nymffau) yn byw yn y pwll am hyd at bedair blynedd, gan fwydo ar greaduriaid eraill y pwll. Yn y pen draw, pan maen nhw wedi tyfu'n llawn, mae'r nymffau'n dringo allan o'r dŵr, yn hollti eu croen ac yn trawsnewid yn weision y neidr llawn dwf. Gall y broses yma gymryd sawl awr, felly nid yw eu lliwiau llachar yn ffurfio ar unwaith, er mwyn eu cadw nhw'n gudd rhag ysglyfaethwyr nes bod eu hadenydd yn caledu a'u bod yn barod i hedfan.

A male broad-bodied chaser, with a wide blue abdomen, resting on a stem

Broad-bodied chaser © Vaughn Matthews

Cychwr dŵr mawr  

Yn cael ei adnabod hefyd fel y cychwr cefnwyn, mae'r cychwr dŵr mawr (Notonecta glauca) yn hedfan yn y nos ac mae wedi addasu i weld wyneb adlewyrchol y dŵr o'r awyr. Pan fydd yn gweld y llewyrch cyfarwydd, mae'n hedfan i lawr ac yn treulio gweddill ei oes o dan y dŵr, gan ysglyfaethu ar bryfed dyfrol eraill a phenbyliaid.

A greater water boatman. It's a brownish bug with its back legs modified for swimming. looking like long oars

Greater water boatman (Notonecta glauca) © Dr Malcolm Storey

Hirheglyn y dŵr

Yn yr un modd, gall eich pwll ddenu hirheglyn y dŵr hefyd. Fel mae’r enw yn Saesneg – pond staker - yn awgrymu, maen nhw'n sglefrio ar draws wyneb y dŵr, gan ysglyfaethu ar unrhyw bryf bach sy'n ddigon anffodus i syrthio i mewn. Mae eu ceinder yn cuddio ochr dywyllach; maen nhw'n teimlo dirgryniadau ysglyfaeth sy'n cael anhawster, yn neidio arno ac yn ei sugno'n sych gan ddefnyddio’r darn tyllu sydd yn eu ceg. Mae naw rhywogaeth o hirheglyn y dŵr i'w cael yn y DU, ond y mwyaf cyffredin yw Gerris lacustris.  

A pond skater on the surface of a paond, clinging to its fly prey

Pond skater (Gerris lacustris) © Luke Massey/2020VISION

Malwod dŵr croyw

Mae'r DU yn gartref i 30 i 40 o rywogaethau o falwod dŵr croyw. Maen nhw'n dod mewn dau fath gwahanol: y malwod llyfn, sy’n edrych yn grwn ond yn fflat; a'r malwod conigol, gyda chragen fel côn hufen iâ. Y mwyaf cyffredin o'r ddau fath yma yw'r falwen lyfn fawr (Planorbarius corneus) a'r falwen grwydrol (Lymnaea peregra).

Mae'r falwen lyfn fawr yn pori ar algâu drwy grafu creigiau gyda'i radwla - tafod arbennig gyda dannedd wedi'u hymgorffori ynddo. Fel mae ei henw'n awgrymu, bydd y falwen grwydrol weithiau'n crwydro pellteroedd byr allan o'r pwll i fwydo mewn mannau gwlyb gerllaw. Mae'r ddwy rywogaeth yn dodwy eu hwyau mewn màs gwarchodol o jeli ar blanhigion neu unrhyw strwythur tanddwr arall.

A wandering snail on a pond plant

Wandering snail © Brian Eversham

Pryf pric y dŵr

Mae pryf pric y dŵr (Ranatra linearis) yn ysglyfaethwr arall a allai fod yn llechu yn eich pwll. Fel rheol, mae'n eistedd yn ddisymud, ei ben i lawr, ar gorsen neu blanhigyn dyfrol arall, yn aros i benbwl fynd heibio er mwyn ei gipio a'i fwyta. Mae ei 'gynffon' bigfain yn gweithredu fel snorcel fel ei fod yn gallu aros o dan y dŵr am gyfnod hirach. Os yw'r pwll yn sychu neu os yw ei ysglyfaeth yn brin, gall pryf pric y dŵr adael y pwll a hedfan i ddod o hyd i un newydd.

Water Stick Insect

Water Stick Insect ©Jack Perks